麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwyddoniadur Cymru
Cawr o lyfr yn awr ar gael
Mae Gwyddoniadur Cymru wedi ei gyhoeddi - ddydd olaf mis Ionawr 2008.


  • Holi Menna Baines - Cliciwch YMA. Clipiau sain.


  • Ffeithiau Gwyddoniadurol a ffeithiau o'r Gwyddoniadur - Cliciwch YMA


  • Adolygiad William Owen - Cliciwch YMA


    Yn dilyn y siom o orfod gohirio'r cyhoeddi fis Tachwedd 2007 ar gyfer marchnad y Nadolig yr oedd y gyfrol 1,112 tudalen ac un Saesneg gyfatebol yn y siopau ar gyfer mis Chwefror 2008 gyda derbyniad yn Senedd y Cynulliad Chwefror 1.

    Clawr y llyfr Yn costio 拢65 ni welwyd erioed o'r blaen gyfrol debyg iddi hi yn yr iaith Gymraeg yn orlawn o wybodaeth m芒n a mawr am Gymru a'i phobl.

    Cyfrannodd 400 o arbenigwyr wybodaeth yn amrywio o 50 o eiriau i hyd at 700 o eiriau mewn hyd. Costiodd y fenter gyfan 拢300,000 i gyd a chafwyd grant o 拢20,000 gan Gyngor y Celfyddydau.

    Gwnaeth y cyhoeddwyr eu gorau roi'r wedd orau posib ar y methiant anffodus i gyhoeddi mewn pryd fis Tachwedd trwy ddweud i Feibl Cymraeg 1588 fod un mlynedd ar hugain yn hwyr!

    Rhestrir hefyd ar wefan y gyfrol brosiectau mawrion eraill nas cwblhawyd mewn pryd gan gynnwys;
    Pont Menai - pum mlynedd yn hwyr - a Chanolfan y Mileniwm, Caerdydd, 14 mis.

    Ond "Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig - dim ond dau fis yn hwyr!" medden nhw.

    Cynllun ar y cyd, yn costio 拢300,000, rhwng Yr Academi a Gwasg Prifysgol Cymru yw'r Gwyddoniadur gydag arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

    John Davies yn arwyddo un o'r copiau cyntaf o'r llyfr yn siop Caban, Caerdydd Mae un gyfrol Gymraeg ac un arall yn y Saesneg - y naill wedi ei golygu gan Menna Baines a Pheredur Lynch a'r llall gan Nigel Jenkins a'r Hanesydd y Dr John Davies yn olygydd cyffredinol.

    "Problemau anrhagweladwy yng nghamau olaf y gwaith o gynhyrchu'r llyfr" gafodd y bai am y methiant i gyhoeddi'r cyfrolau 拢65 yr un ar Dachwedd 14.

    Mae hynny drosodd nawr a'r llyfr wedi ei gludo ar long o Malta lle cafodd ei argraffu yn y brifddinas, Valeta.

    Yn gyfrol mor uchelgeisiol dywedodd llefarydd mai'r dewis oedd rhwng Malta a'r Dwyrain Pell.

    Meddai Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi,
    "Tra bo'r oedi yn anffodus ac yn siom i bawb sydd wedi bod ynghlwm 芒'r prosiect, gobeithiwn y bydd pobl yn deall nad ar chwarae bach y mae cyhoeddi llyfr o'r pwysigrwydd a'r maintioli hwn.

    "Ar 么l degawd o waith ysgrifennu, ymchwilio a golygu manwl, mae'n hollbwysig fod digon o amser yn cael ei neilltuo i sicrhau fod y ddwy gyfrol mor fanwl gywir ag sy'n bosib i gyrraedd y safonau golygyddol uchaf; wedi'r cyfan, rhaid i'r gyfrol sefyll am genedlaethau i ddod."

    DalennauDeng mlynedd o waith
    Dechreuodd prosiect Gwyddoniadur Cymru yr Academi ddeng mlynedd yn 么l i ateb y diffyg nad oedd un gyfrol gynhwysfawr ar gael "yn cwmpasu'n grwn" ein holl ddiwylliant.

    Yr oedd hyn, meddid, "yn ddiffyg amlwg ar daith Cymru tuag at hunan ymwybyddiaeth."

    Gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru trwy'r Loteri Genedlaethol y penodwyd John Davies, yn olygydd cyffredinol a Menna Baines, Nigel Jenkins ac yn nes ymlaen atyn nhw, Peredur Lynch, yn olygyddion yn comisiynu llu o arbenigwyr i ddarparu'r testun.

    Buan y trodd gwaith oedd i gymryd tair blynedd yn orchwyl deng mlynedd a'r angen yn codi i ychwanegu pethau newydd oedd yn dod i fodolaeth tra'r oedd y llyfr yn cael ei gwblhau yn ychwanegu at yr her.

    Cyffwrdd popeth
    Mae'r gyfrol orffenedig yn cynnwys holl amrediad bywyd Cymru o David Lloyd George i weithio glo, o Lyfr Du Caerfyrddin i'r gwahaniaeth rhwng gogs a hwntws, o gawl cennin i'r Academi Gymreig - y cyfan yn ffrwyth cydweithrediad pob math o gyrff yn amrywio o golegau prifysgol i'r 麻豆社.

    "O du'r golygyddion y daeth y gwir ymroddiad, wrth gwrs. Gweithiodd pob un ohonynt oriau lawer dros ben yr oriau cyflogedig, bu pob un yn drylwyr o ran chwilota am ffeithiau, cysoni testunau ac ymchwil gefndir," meddir ar wefan y Gwyddoniadur.

    Nid oes amheuaeth na fydd hon yn gyfrol boblogaidd, er gwaethaf ei phris o 拢65, a than gynllun archebu o flaen llaw archebwyd 4,500 o gop茂au yn fuan iawn.

    CynllunioGyda dyddiad y cyhoeddi yn dynesu dywedodd Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, Ashley Drake,
    "Mae hwn yn amser hynod o bwysig a chyffrous yn hanes y Gwyddoniadur. Rwy'n hapus iawn ein bod wedi gwasgu'r botwm 'argraffu' o'r diwedd ar un o'r cyhoeddiadau mwyaf cyffrous yn hanes Cymru ac mae'n wych gweld y tudalennau yn hedfan oddi ar y wasg argraffu."

    Hyrwyddo'r llyfr
    Bydd y pedwar golygydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar hyd a lled Cymru i gyd-fynd 芒'r cyhoeddi:

  • 31 Ionawr.

  • John Davies yn:
    Caban, Pontcanna, Caerdydd, 10.30-11.30 y bore,
    Siop y Felin,Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, 12.30-1.30 y pnawn a
    Siop y Bont, Pontypridd, 2.30-3.30 y pnawn.

    Nigel Jenkins yn:
    Llyfrau'r Ddraig, Llanelli, 10.15-11.15 y bore,
    T-Hwnt, Caerfyrddin, 12.30-1.30 y pnawn a
    Siop y Pentan, Caerfyrddin, 2.00-3.00 y pnawn.

    Menna Baines yn:
    Ll锚n Ll欧n, Pwllheli, 10.30-11.30 y bore,
    Palas Print, Caernarfon, 12.30-1.30 y pnawn a
    Siop Pendref, Bangor, 2.30-3.30 y pnawn.

    Peredur Lynch yn:
    Siop Clwyd, Dinbych, 11 y bore - 12 y pnawn a
    Siop y Morfa, Rhyl, 1.00-2.00 y pnawn.

  • Gwener 1 Chwefror

  • 5.30 yr hwyr yn y Senedd, Bae Caerdydd bydd. Dathliad ffurfiol yng nghwmni'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Golygyddion a Gwasg Prifysgol Cymru.

  • Sadwrn 2 Chwefror

  • 10 y bore - 3 y prynhawn Rhifyn Saesneg yn cyrraedd siop lyfrau Borders, yr Ais, Caerdydd.

  • Ffeithiau Gwyddoniadurol a ffeithiau o'r Gwyddoniadur - Cliciwch YMA
  • Llinell Archebu Gwyddoniadur - Gwasg Prifysgol Cymru
    029 2055 7451.

  • Cysylltiadau Perthnasol


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy