|
Y Gwyddoniadur - adolygiad Cyfrol y dylem fod yn falch iddi weld golau dydd
Adolygiad William Owen o Gwyddoniadur Cymru Yr Academi. Golygyddion: John Davies. Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch. Yr Academi. 拢65.
Wedi gweld y llun cyntaf sydd yn y Gwyddoniadur wedi ei anharddu ar gyfer lansiad y gyfrol fawr ym Mangor gallai fod yn berygl cymryd y gwaith hir a llafurus braidd yn ysgafn.
Llun seremoni cadeirio Myrddin ap Dafydd yn 2002 yw'r llun cyntaf sydd yn y gyfrol drom hon. Ond roedd un o'r golygyddion - Peredur Lynch - wedi sgriblo barf dros wyneb yr Archdderwydd ar y pryd, y Dr Robyn L茅wis, wrth ddangos y llun ar sgrin tu 么l iddo ar noson y lansio.
Nid hwn oedd y llun yr oeddent wedi meddwl ei gael, meddai. Un o gadeirio Mererid Hopwood oedd wedi ei ddewis ond fe'i gwrthodwyd gan yr argraffwyr oherwydd ei ansawdd.
Wn i ddim a fu'r cyn gyfreithiwr o L欧n yn destun peth gwawd yn ystod y golygu ond
does dim gair am y cyfreithiwr-lythyrwr yn y Gwyddoniadur, serch iddo fod yn Archdderwydd - ond, yn fwy na hynny, yn awdur o bwys.
Onid oedd y gwron hwn yn haeddu ei grybwyll yn unig ar sail ei waith aruthrol dros y Gymraeg yn ei gyfrol Termau'r Gyfraith?
Gwelaf fod rheswm am hynny; dim ond y marw sy'n cael paragraff! Gallwch gael llun os ydych yn fyw ac yn amlwg yn eich maes. Nid yw cyhoeddi llyfr o bwys yn warant o hynny.
Gellir dychmygu fod y golygyddion wedi gwneud yn sicr fod cyfeiriad at Nefyn - sydd 芒 pharagraff haeddiannol iddi - yn cynnwys y ffaith ei bod yn dref, nid pentref. Yn amlwg nid oeddynt am weld llythyr yn y wasg gan y Dr!
Mynegai yn achubiaeth Am funud bu bron i mi feddwl fod rhai ag arlliw eisteddfodol arnynt heb gyrraedd tudalennau'r Gwyddoniadur, er bod y gyfrol yn dechrau efo'r llun ac eglurhad ar A Oes Heddwch?
Nid yw Cynan yno dan Cynan. Fe'i rhestrir dan Evans-Jones. Yr achubiaeth yw fod Cynan yn y Mynegai a'r wers gyntaf a ddysgais wrth chwilio oedd fod yn rhaid troi at y mynegai'n gyntaf i gael arweiniad gweddol gadarn. Ond gyda Cynan, yn sicr, mae dadl dros ei gynnwys dan ei enw barddol, i'r cenedlaethau a ddaw yn ogystal 芒 ni feidrolion yr oes hon.
A dyna'r drwg wrth ymaflyd 芒'r gyfrol hanesyddol hon - ydi, mae'n drom iawn - fod dyn yn mynd i'w thafoli wrth weld ei gwendidau yn hytrach na rhoi clod iddi am ei rhagoriaethau.
Mae tuedd i rywun droi at enwau a phynciau y mae rhywun yn ymwybodol ohonynt er mwyn gweld beth sy'n cael ei ddweud amdanynt, yn aml iawn oherwydd cysylltiad lleol a dyna pam yr es i weld beth oedd o dan Dyffryn Ardudwy, pentref fy magwraeth.
Yn anghywir Maddeuwch fy mhlwyfoldeb ond mae'r wybodaeth yn y frawddeg gyntaf yn anghywir: "Mae'r gymuned hon, sydd rhwng Abermaw a Harlech, yn cynnwys pentrefi Dyffryn Ardudwy, Coed Ystumgwern, Llanenddwyn, Llanddwywe a Thalybont ..." meddir.
Plwyfi yw'r ddau Lan a chlywais i erioed gyfeirio at Goed Ystumgwern fel pentref. Eto, gallai'r hen ddogfennau fod yn gwneud hynny ac mai arwynebol iawn yw fy ngwybodaeth am fy hen ardal.
Ychydig iawn o farciau a dynnwn am feflau o'r fath ac nid oes neb yn mynd i golli cwsg o'u herwydd.
Gellid dadlau yn ffyrnicach yngl欧n 芒 rhai enwau a gynhwysir, rhai yn ymwneud 芒 hanes Cymru y gellir gweld y Dr John Davies yn glafoerio drostynt.
Ni fyddem wedi sylwi ar y bwlch pe na bai Maelgwn ap Rhys Fychan wedi cael ei gynnwys er enghraifft, na Rhys Fychan ap Rhys ap Maelgwn. Ond cabledd yw dweud hyn yng ng诺ydd y Doethur wrth gwrs.
Yn ddiamau mae'r rhan fwyaf o enwau sydd yma yn haeddu eu lle. Er mae mymryn o anghysondeb. Pam tybed fod Thomas Telford yn cael yn cael lle iddo'i hun tra nad yw Inigo Jones?
Rhagoriaeth Pennaf rhagoriaeth y Gwyddoniadur hwn yw'r cefndir a roddir i wahanol elfennau o'n hanes ni fel Cerddoriaeth, Pensaerniaeth a Glo a Llenyddiaeth i enwi dim ond pedwar.
Yma, rhoddir digon o wybodaeth iddo fod yn wir ddefnyddiol i leygwr ac unrhyw un sy'n astudio pynciau o'r fath i gael eu dannedd iddo.
A gair o glod hefyd am y dewis o luniau safonol sydd ynddo. Roedd angen talp go dda o ddeng mlynedd i ddod o hyd i'r rhain. Mae'r lluniau a'r deunydd yn uno'n gyfrol y dylem fod yn falch ei bod wedi gweld golau dydd.
William Owen yw Golygydd Y Cymro
Holi Menna Baines - Cliciwch YMA. Clipiau sain.
Ffeithiau Gwyddoniadurol a ffeithiau o'r Gwyddoniadur - Cliciwch YMA
Cyhoeddi'r Gwyddoniadur - Cliciwch YMA
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|