| |
|
|
|
|
|
|
|
Hi Oedd fy Ffrind Yng ngeiriau Bethan Gwanas - clincar o nofel
Adolygiad Iona Jane Davies o Hi Oedd fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Gomer.
Nofel gyffrous arall gan Bethan Gwanas. Dilyniant hir ddisgwyliedig i Hi yw fy Ffrind y nofel sy'n dilyn hynt a helynt dwy ffrind gorau yn tyfu i fyny efo'i gilydd, Non a Nia.
Bu i'r ddwy rannu yr un gwaed yn y nofel gyntaf er mwyn dod yn blood sisters.
Erbyn hyn mae Nia yn mynychu'r brifysgol yn Aberystwyth ond Non gartref.
Trueni na fyddai Nia wedi gwrando ar eiriau doeth y g芒n, Mae chwarae'n troi'n chwerw gan mai ei bwriad wrth fynd i'r coleg oedd bod yn hogan dda ac aros yn ffyddlon i'w chariad - ond, o fewn wythnos cysgodd efo cariad ei ffrind gorau a chychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau cyffrous.
Iaith lafar Cewch eich denu a'ch swyno gan yr iaith lafar raenus a ddefnyddir.
Llynca'r nofel chi nes eich bod yn teimlo eich bod yno eich hun yn byw bywyd Nia gyda hi.
Cewch eich hysbrydoli gan ddisgrifiadau lliwgar.
Erbyn gweld, mae popeth wedi newid yn y berthynas rhwng y ddwy ac nid ydynt yn siarad am dair blynedd; sef cyfnod Nia yn y coleg, nes i Non gael ei tharo gan farwolaeth ei thad.
Wedi'r hwyl ar holl dor calon mae cariad bob amser yn dod yn 么l, a dyna a ddigwydd yma.
Dilynwn eu taith, a chawn olwg, o safbwynt y ddwy, ar y digwyddiadau.
Canolbwyntir yn bennaf ar Nia gydag enghreifftiau ohoni hi yn cwrdd 芒 ffrindiau newydd a chariadon; ar nosweithiau meddwol, y cymdeithasu, yr amseroedd fu ar frig y rhestr a'r rhai y byddai am eu anghofio.
Gafaelgar a dwys Mae diweddglo annisgwyl gyda thro yn y gynffon ond bydd yn rhaid ichi ddarllen y llyfr eich hun er mwyn darganfod beth sy'n digwydd!
Mae'n nofel afaelgar, ddwys, ac yn un anodd ei gollwng.
Mae ei hap锚l at yr arddegau ac yn agoriad llygad i fywyd coleg a'r holl newidiadau all ddigwydd ym mywyd unigolyn.
Awgrymaf ichi ddarllen y nofel apelgar hon. Mae ar frig y rhestr o nofelau mwyaf poblogaidd.
Yng ngeiriau Bethan Gwanas ei hun, mae hi'n glincar!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Cyhoeddi Hi Oedd fy Ffrind
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|