|
Hi Oedd Fy Ffrind - lawnsio Ffrindiau coleg yn ymuno i lawnsio nofel
Ers i'r nofel Hi yw fy Ffrind gyrraedd rhestr Llyfr y Flwyddyn 2005 bu disgwyl eiddgar am y dilyniant a addawodd yr awdur iddi.
Nos Iau, Medi 28, lawnsiwyd y dilyniant hwnnw yng nghwmni'r awdur, Bethan Gwanas, yn Y Sosban yn Nolgellau.
Yn un hwyr o ran natur ac wedi camddarllen y gwahoddiad, roeddwn chwarter awr yn hwyr yn cyrraedd.
Ond diolch byth roedd hi mor brysur yno na sylwodd neb gyda Wedi 7 yn ffilmio a gohebwyr ar draws ei gilydd yn holi ac yn manteisio ar eu cyfle i gael llyfr wedi ei lofnodi gan un o'n hawduron mwyaf poblogaidd.
Croesawyd pawb i'r digwyddiad gan Alun Jones, golygydd y Lolfa a'r g诺r fu'n llywio'r llyfr drwy'r wasg.
Canmolodd ef fenter Bethan yn llunio dilyniant o gofio nad ydynt bob amser gystal 芒'r llyfr cyntaf.
Y gwrthwyneb, meddai, oedd yn wir y tro hwn!
'Nofel sy'n gafael' "Yn Hi yw fy Ffrind roedd y darllenwyr yn gweld popeth drwy lygaid Non, y ferch hyfryd oedd yn addoli ei ffrind, ond y tro yma mae'r darllenwyr yn gweld popeth drwy lygaid Nia, merch sydd ychydig yn wahanol," meddai Alun Jones.
"Mae hi'n nofel sydd yn gafael, nofel sydd 芒 them芒u cyfoes a nofel sydd yn anodd iawn gollwng gafael arni. Allwch chi ddim rhoi gwell teyrnged na hynny," ychwanegodd.
Dywedodd Bethan Gwanas ei bod yn ffodus iddi gadw dyddiadur yn y coleg ac iddi gyfeirio yn 么l ato yn aml wrth ysgrifennu'r nofel.
Bywyd coleg dwy ffrind yw canolbwynt y nofel newydd, gyda'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau yn Aberystwyth a Neuadd Pantycelyn.
Cyfaddefodd Bethan yn y lansiad i lawer o'r deunydd yn y nofel gael ei seilio ar ei phrofiadau hi a'i ffrindiau yno yng nghanol yr Wythdegau:
"Cefais lot o help gan fy ffrindiau ac o fy nyddiaduron coleg ar gyfer y nofel ac mae llawer o'r digwyddiadau wedi eu seilio ar ddigwyddiadau go iawn; ond dwi heb seilio Nia - y prif gymeriad - ar unrhyw berson yn benodol," meddai.
'Nid fi fy hun' "Dwi ddim yn sgwennu amdanaf fy hun gan mai fy mwriad yw ysgrifennu hunangofiant yn y dyfodol ond dwi wedi defnyddio fy nyddiaduron er mwyn gwybodaeth; fel pa grwpiau yr oeddem yn eu dilyn, pa gylchgronau oedd yn cael eu darllen a phethau tebyg. Keep a diary and one day it will keep you," meddai gan chwerthin.
Yn y lawnsiad ym mwyty'r Sosban yn Nolgellau yr oedd criw o ffrindiau coleg Bethan yn mwynhau'r gwin, y gwmn茂aeth a'r darlleniadau, ac un o'r ffrindiau hynny a astudiodd yn Aberystwyth fu'n darllen pytiau o'r nofel ar y noson, yr actores Rhian Cadwaladr.
Cyhoeddir Hi Oedd Fy Ffrind gan Y Lolfa, pris
拢7.95.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o'r nofel
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|