| |
|
|
|
|
|
|
|
Gelert Prif awdures yn mentro i fyd c诺n
Un o ddisgynyddion ci enwocaf Cymru yw'r prif gymeriad yn nofel ddiweddaraf enillydd Gwobr Goffa Daniel yn Eisteddfod Abertawe 2006.
Gelert yw nofel gyntaf Gwen Pritchard Jones i blant - er ei bod wedi cyhoeddi'n barod lyfrau eraill i blant.
Ci chwareus a direidus yw Gelert sy'n digwydd bod yn olyniaeth y Gelert hwnnw a fu'n gi mor ffyddlon Lywelyn Fawr!
Yn Gelert, nofel gyda darluniau hyfryd gan Petra Brown o Borthmadog, y ci ei hun sy'n adrodd y stori, yn y person cyntaf, a stori ddigon difyr yw hi hefyd gydag elfen arallfydol iddi hi.
Yn nhraddodiad gorau pethau fel hyn ci drygionus yw Gelert ac mewn pob math o helbulon gyda'i ffrindiau.
Mae cymysgedd ddifyr yma o 'ddynoli'r' anifeiliaid ac o edrych ar y byd trwy lygaid anifail gyda phobl yn "ddwy-goesiaid". Mae'n gwestiwn hefyd, pwy sydd piau pwy - y bobl y c诺n ynteu'r c诺n y bobl!
A'r cyfarchiad pan fo dau gi yn cyfarfod yw:
"Haia, Smwt!"
"Haia Gel, haia Del! Ogleuon da?"
Mae bywyd hapus y c诺n o grwydro, gwneud baw, yn newid yn go arw pan gaiff Gelert ddamwain erchyll - ac y mae pethau'n gwaethygu wrth iddynt ymdrechu i achub eu dwy-goesiaid, Geraint ac Emyr.
Fel y gellid disgwyl oddi wrth Gwen Pritchard Jones mae'r sgrifennu yn llyfn ac yn llithrig.
Er nad yw sgrifennu ar gyfer plant yn beth dieithr i Gwen Pritchard Jones a hithau wedi cyhoeddi sawl llyfr llun a stori ar gyfer plant iau, dyma'i llyfr cyntaf ar gyfer darllenwyr wyth i 11 oed.
"Roeddwn i wastad wedi mwynhau mynd i Feddgelert, ac wrth gwrs wedi adrodd y stori sawl gwaith i'r hen blant tra'n athrawes yn Ysgol yr Hendre, Caernarfon, ac roedd rhyw gnoi wedi bod i sgwennu fersiwn fwy cyfoes ohoni.
"Ac yna dyma daro ar y syniad o sgwennu am un o ddisgynyddion Gelert, ond ei wneud o'n dipyn o fwrddrwg!" meddai.
Dywedodd iddi sgrifennu'r stori yn ystod yr un cyfnod ag yr oedd yn sgrifennu Dygwyl Eneidiau ac yn troi ati pan fyddai'r gwaith hwnnw yn mynd yn drech na hi.
"Yr oedd yn rhyw fath o wrthbwynt," meddai. "Os oeddwn i'n diflasu ar Dygwyl Eneidiau roeddwn i'n troi ar Gelert am dipyn o waith ysgafn a hwyl,"meddai.
Dywedodd fod ganddi hoffter arbennig o g诺n.
"Arferai fy nhad ddeud ei fod yn sicr mod i fy hun yn arfer bod yn gi mewn rhyw oes o'r blaen am mod i wastad yn 'bondio' gydag unrhyw gi'n syth! Rydym ni wastad wedi cael ci yn y t欧 - deud y gwir, y Del yn y stori ydy Del ein ci defaid ni!" ychwanegodd.
Daeth Gwen Pritchard Jones i amlygrwydd trwy ennill Gwobr Goffa Daniel Owen gyda nofel hanesyddol Dygwyl Eneidiau yn Eisteddfod Abertawe a'r Cylch 2006.
Dychwelodd Gwen Pritchard Jones i'w hen ysgol lle bu'n athrawes yn yr Wythdegau ar gyfer cyhoeddi'r gyfrol gan ddarllen y stori i Ddosbarth pump Mrs Ann Jones yn Ysgol yr Hendre.
Ac wedi'r edi'r sgwrs, cafwyd cyfle i fwynhau bisgedi arbennig si芒p c诺n yr oedd yr awdur wedi eu paratoi.
Gelert gan Gwen Pritchard Jones. Gwasg y Bwthyn. 拢5.00
Cysylltiadau Perthnasol
Dygwyl Eneidiau
Gwen Pritchard Jones
Ennill y Daniel
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|