|
Dygwyl Eneidiau Hanes goludog ac ysgrifennu cain
Adolygiad Hafina Clwyd o Dygwyl Eneidiau gan
Gwen Pritchard Jones.
Gwasg Gwynedd. 拢9.95.
Cyfrol fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Abertawe a'r Fro 2006.
O gofio bod gennym fel cenedl hanes hynod o liwgar a goludog y mae'n syndod bod cyn lleied o nofelwyr wedi mynd ati i greu nofel hanesyddol swmpus.
Medrir eu cyfrif ar un law yn wir - Marion Eames wedi canolbwyntio ar gyfnod y Crynwyr; Rhiannon Davies Jones (oes Llywelyn) ac R Cyril Hughes (Catrin o Ferain) - dyna'r rhai sydd yn dod i'r cof.
Mae yna sg么p i rywun fynd ati i greu nofel fawr swmpus am Owain Glynd诺r neu Ryfel y Rhosynnau neu Iolo Morganwg hyd yn oed.
Ond rhaid ychwanegu fy mod yn sylweddoli bod hyn yn gofyn llawer oherwydd y mae angen dyfalbarhad eithriadol a gwaith ymchwil llafurus.
Er hynny, y mae ambell un dewr a diwyd yn barod i fentro ac eleni cawsom glamp o nofel hanes yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen - dros bum cant o dudalennau. Maint bricsen.
Rhywbeth anarferol iawn yn y Gymraeg y dyddiau hyn a diolch byth amdani oherwydd rwyf wedi alaru ar nofelau bach tenau ffwrdd-a- hi.
Credwch fi mae yna waith darllen ar hon ond y mae'n bleser pur i'r rhai sydd yn mwynhau nofelau hanesyddol. Ac mi rydw i.
Llofruddiaeth a charwriaeth Mae hi wedi 'i lleoli ym Mhen Ll欧n yn y misoedd yn arwain at y Rhyfel Cartref ac fe geir ynddi arwyddion o'r tyndra oedd yna rhwng pobl y brenin, Siarl I, a'r Seneddwyr.
Ond wedi'u gweu o fewn i'r awyrgylch gythryblus honno y mae yma hefyd lofruddiaeth a charwriaeth a dirgelwch.
Drwy gydol y nofel ceir y byrdwn: Pwy laddodd y ficer - a hynny mewn modd annynol a phaganaidd bron?
Ac y mae yma dipyn o baganiaeth yn gymysg 芒'r crefydda. Yr oedd pobl yn credu mewn ellyllon a'r Diafol a Ch诺n Annwn a cheir cryn dipyn o ofergoeliaeth.
Yr wyf i yn digwydd credu bod paganiaeth yn medru bod yn llawer mwy diddorol a lliwgar na chrefydd uniongred megis Calfiniaeth!
Disgrifiadau hyfryd Soniais am y gwaith ymchwil sydd ei angen cyn cychwyn ar nofel fel hon ac un o'r pethau hyfryd a geir gan Gwen Pritchard-Jones yw ei disgrifiadau o ddillad a bwydydd a meddyginiaethau.
Ceir hefyd bwyslais ar y gwahaniaeth rhwng safon byw'r uchelwyr ym Modwrda a Chefamwlch a Bodfel a'u cymdogion tlawd yn eu bythynnod.
Cymysgedd o gymeriadau Fel ym mhob nofel hanes ceir cymysgedd o gymeriadau hanesyddol a'r rhai sydd wedi deillio o ddychymyg yr awdur.
Y mae Gwen Pritchard-Jones wedi llwyddo i'w hasio'n wych.
Y ddau brif gymeriad (i mi beth bynnag) yw Catrin Williams a Sion Rhisiart.
Yr oedd Catrin yn gymeriad go-iawn, yn ferch i Griffith a Gwen y Penrhyn ac yn nith i'r Archesgob John Williams (a elwid yn John Iorc). Bu hi farw yn 1704.
Priododd ei chefnder, John Bodwrda, er nad oedd yn ei garu.
Y mae Catrin yn gymeriad llawn a thrist: ei ffawd oedd priodi John sydd yn cael ei bortreadu fel cymeriad digon annymunol.
"Nid eiddo merch mo'i hewyllys," meddai'r g芒n ac yr oedd hynny'n sicr yn wir yn yr oes honno.
"Merch i frenin wyf," meddai Siwan onide. Hynny yw, nid oedd ganddi hawl i briodi'r sawl a fynnai.
Ac yr oedd Catrin mewn cariad a Sion Rhisiart, cymeriad nad oedd yn bod ond a seiliwyd ar Walter Leslie, milwr o'r Alban.
Ond er ei fod yn gymeriad ffug y mae'n sylfaenol i'r stori.
Golud yr iaith Mae golud yr iaith a'r disgrifiadau'n heintus a'r ddeialog yn oludog hefyd - e.e. Ifan yn dweud ei fod wedi gweld C诺n Annwn; "Mi welais i'r c诺n...C诺n Arawn. C诺n Annwn. Roeddan nhw'n anferth, wir i chi, yn gewri uwch fy mhen i, a'u llygaid yn llosgi'n goch a'u genau'n glafoerio t芒n, a'u dannadd yn hirach na mraich i".
Yr oedd Ifan yn credu ac mewn gwewyr. Dyna'r math o ofergoeliaeth sydd yn treiddio drwy'r gyfrol, yn gymysg 芒 disgrifiadau o fywyd syber yr uchelwyr.
Gorfod darllen Yng nghanol yr ofergoeliaeth, yn gymysg 芒 Christnogaeth y mae'n amlwg nad oedd i ficeriaid lawer o barch ac y mae'r bennod gyntaf sydd yn disgrifio'r llofruddiaeth yn profi hynny ac wrth gwrs yn ein gorfodi i ddarllen ymhellach.
Sonnir hefyd am y ficeriaid fel tinceriaid meddw ac wrth gwrs, yn ddiweddarach, yn 1754, pasiwyd Deddf Hardwick yn bwrpasol i atal ficeriaid meddw rhag gweinyddu priodasau tin y gwrych am bris peint o gwrw.
Nofel swmpus, grefftus, ddifyr.
Gwelais un camgymeriad. Ar dud 277 dywedir "Dechreuodd yr anghydfod rhwng Bodwrda a Bodfel yn oes Edward y Seithfed." Go brin. Daeth Edward VII yn frenin yn 1901.
Un peth arall. Buasai'n well gen i pe bai'r cart achau wedi'i osod ar ddechrau'r llyfr yn hytrach na gorfod troi i'r cefn bob hyn a hyn i weld sut oedd pawb yn perthyn ac yn cysylltu.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Gwen Pritchard Jones
Ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|