|
Euog Dilyniant i Casglwr a Lladdwr
Adolygiad Glyn Jones o Euog gan Llion Iwan. Gomer. 拢6.99
Byddai'r stori hon yn gwneud gwell ffilm na nofel. Mae'n fwrlwm o ddigwyddiadau a'r penodau yn toddi i'w gilydd fel golygfeydd ar y teledu.
Twyll, lladd, herwgipio, saethu a dianc, maent yma bob un a Dafydd Smith, y prif gymeriad, fel rhyw James Bond Cymraeg.
Er yn ddieuog, mae yn y carchar am lofruddio'i gariad ac yn benderfynol o ddianc a dal y llofrudd.
Ond mae criw o eithafwyr yn ei ddilyn a'r heddlu cudd yn eu dilyn hwythau.
Mae'r hyn sy'n dilyn yn g锚m cath a llygoden beryglus gyda'r naill berson yn ceisio cael y llaw uchaf ar y llall.
Nid nofel neis, neis, mo hon. I'r gwrthwyneb. Gwelwn yn glir sut mae pobl ddiniwed yn cael eu defnyddio fel p锚l ar gae chwarae y pwerus.
Yn fwy brawychus fyth, does ond rhaid troi'r teledu ymlaen i weld fod pethau fel hyn yn digwydd yn y byd go iawn!
Terfysgaeth. Y BNP. Helyntion Gogledd Iwerddon. Does dim angen dweud mwy.
Ein gwahodd i ddyfalu Twyllwr o awdur sydd yma, yn chwerthin yn braf am ben ei gynulleidfa mewn nofel sydd fel stori ditectif yn ein gwahodd i geisio darganfod pwy sy'n gwneud beth a beth fydd y canlyniad.
Dro ar 么l tro, cawn ein twyllo.
Mae gan yr awdur ddychymyg byw a dawn arbennig i greu stori gyffrous - rhywbeth prin yn ein nofelau diweddar sy'n tueddu i ganolbwyntio ar gymeriadau a'u perthynas a'i gilydd yn hytrach na phlot.
Yn gymhleth Fodd bynnag, gyda hyn daw cymhlethdod ac mae'r nofel yn ddyrys - yn rhy gymhleth yn fy marn i.
Cymeriadau ffilm yw'r cymeriadau ac yn si诺r o fod yn well o'u gweld yn hytrach nag i uniaethu a nhw mewn print.
Nid yw'r math yma o feddylfryd yn gweithio mewn nofel. Mae angen datblygu stori o amgylch y cymeriadau yn hytrach na thaflu cymeriadau i'r stori i wneud i bethau ddigwydd.
A thybed a fu'r awdur yn rhy uchelgeisiol - problem yn ein nofelau cyfoes wrth i lenorion golli golwg ar y darllenydd cyffredin er mwyn plesio ceiliogod y colegau.
O wlad i wlad Mae'n gwibio o Rwsia i'r America ac yna i gyfandir Ewrop cyn troi at Brydain a Chymru - rhyw fath o Zoom in os leiciwch.
Dangosir twf mudiadau eithafol a'u hawch i ffeindio un g诺r i'w huno tan un faner; 诺yr Adolf Hitler, sy'n byw, coeliwch neu beidio, yn Nyffryn Conwy.
Gwreiddiol iawn, ond dros ben llestri braidd, does bosib.
Wrth geisio efelychu genre y nofelau What If? mae Llion Iwan mewn peryg o ddrysu ei gynulleidfa gyda'r stori gyfochrog hon a mynd ar goll rywsut yn hytrach na'i bod yn plethu'n dwt 芒'r stori arall.
Mae'n amharu ar lif y naratif - testun nofel arall yw'r stori hon mewn gwirionedd.
Wedi'r holl gynnwrf Ac yn y diwedd, wedi'r holl gynnwrf, mae'r cyfan yn rhy syml.
Wedi dianc o'r carchar, trechu llofrudd, criw o derfysgwyr, yr heddlu cudd ac achub ei hen gariad, mae Dafydd Smith yn dianc i Iwerddon ar gefn beic!
Credaf hefyd y gallasai'r nofel fod wedi elwa ar olygydd llymach efo'r bensil gan fod disgrifio lliw llyfr nodiadau a manylion tebyg yn wastraffus ac anniddorol.
Dweud llawer mewn ychydig yw'r gamp.
Dilyniant Er mai dilyniant yw'r nofel hon i Casglwr a
Lladdwr gellir ei darllen fel nofel ar ei phen ei hun - a'i mwynhau, fel y gwnes i.
Yn wir, ni chredaf imi droi tudalennau llyfr erioed mor gyflym.
Trueni na fyddai meddwl pob llenor mor fywiog ag un Llion Iwan!
Cyhoeddir yr adolygiad hwn fel rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro, ar y cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Lion Iwan
Adolygiad Carys Mair Davies
Adolygiad Linda Edwards
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|