Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Llion Iwan
Holi Llion Iwan awdur Casglwr a Lladdwr
Enw
Llion Iwan

• Beth yw eich gwaith?
Darlithydd newyddiaduraeth, Prifysgol Cymru Bangor.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cyfarwyddo rhaglenni teledu ffeithiol.

O ble'r ydych chi'n dod?
Ganwyd yng Nghaerdydd ond fe'm magwyd yn y Waunfawr.

• Lle'r ydych chi¹n byw yn awr?
Ar ôl deng mlynedd yng Nghaerdydd, dwi ôl yn y gogledd, yn y Groeslon, ger Caernarfon.

• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, Ysgol Syr Hugh a Prifysgol Cymru, Bangor.

• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Yn lladdwr mae'r prif gymeriad Dafydd, ar gychwyn gyrfa fel gohebydd yn dod ar draws stori sy'n golygu fod yr heddlu yn ei amau o lofruddiaeth a'r gwasanaeth cudd yn ceisio ei ladd.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Casglwr, nofel arall am Dafydd, lle mae'n ceisio dal llofrudd llawer - serial killer.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Cyfres y Llewod gan Dafydd Parri.

• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Mae'r gyfres dal gen i, bob un!

• Pwy yw eich hoff awdur?
Ar y funud, George P Pelecanos yn Saesneg, ac yn y Gymraeg, Owen Martell.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
The Grapes of Wrath, mi wnes ddechrau sgwennu a hel syniadau yn syth wedi ddarllen.

• Pwy yw eich hoff fardd?
Dic Jones.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
"Yn Niwedd y Cynhaeaf.." gan Gerallt Lloyd Owen.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
"Tywodyn o Gwmtydu yn holl y rhwyf ydwyf.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm - Heat, a Cyfres Y Sopranos.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Rhen Sarjant yn Gwaed Gwirion yw fy hoff gymeriad, ac heb ddarllen am gymeriad dwi'n gasáu eto.

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Deuparth gwaith yw ei ddechrau - gan mai fi ydi'r gwaethaf am chwilio am esgus i osgoi gwaith!

• Pa un yw eich hoff air?
Sbigoglys - mae'n gwneud ifi wenu bob tro dwi'n ei glywed!

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Llyfrau a rhaglenni diddorol.

• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Cydwybodol, diog.

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Diogi.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Fy Nain, Doris Thomas.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Gwrthryfel Cuba.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Che Guevara - Paid gadael Cuba.

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Yr un adref, fel arfer unai ar arfordir y gogledd neu trwy fynyddoedd Eryri.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Unrhyw beth dwi ddim yn gorfod ei baratoi.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Beicio mynydd.

• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.

• Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Ysbwriel.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae'r drydedd gyfrol am hanes Dafydd wedi cychwyn. Tydi pethau ddim yn hawdd iddo o bell ffordd!

• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Yr un fysa'n bachu pob darllenydd - dwi'n dal i chwilio amdani.

Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Casglwr
Lladdwr

Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹Éç Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý