Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Triawd Amser a Môr Ladron y Caribî
Anturiaethau a hiwmor
  • Adolygiad Anna-Marie Robinson o Y Triawd Amser a Môr Ladron y Caribî. Addasiad Cymraeg gan Alun Ceri Jones. Cyhoeddwyd gan Dalen. 64 tudalen, £9.99, i ddarllenwyr 8-15 oed.


  • Does na'm byd fel stori am fôr-ladron i gydio yn nychymyg y rhai ifanc, ac mae'r maes wedi cael ei atgyfodi eto'n ddiweddar gan ffilmiau Disney - Pirates of the Carribean 1 a 2.

    Y Triawd Amser - sef Gwydion, Gwion a Garmon - sydd yn mentro i fyd byrlymus a chyffrous môr-ladron y ddeunawfed ganrif y tro hwn.

    Bu anturiaethau'r Triawd yn diddanu plant yn yr Almaen ers blynyddoedd maith, ac fe ymddangosodd y llyfr hwn yn gyntaf yn 2002.

    Mae yna hiwmor yn perthyn i hanes y tri wrth iddyn nhw fynd ar wahanol anturiaethau ar draws y byd mewn gwahanol gyfnodau o amser, ac mae'r straeon hefyd yn cynnwys elfennau addysgiadol a moesol cadarn.

    Darganfod hen lestr
    Yn y llyfr yma mae'r bechgyn yn cael eu cludo i fyd y môr-ladron ar ôl darganfod hen lestr aur yr ymerawdwr Monteswma tra ar daith drwy amgueddfa.

    Clawr y llyfr Ar eu taith maen nhw'n dod ar draws y fôr-ladrones Anne Bonny a'r gelyn pennaf, Blewgi Ddu, a buan daw'r triawd i sylweddoli fod gan y llestr aur rymoedd cyfrinachol all agor y drws i gyfoeth El Dorado.

    A dyna pham mae bod a'r llestr yn eu meddiant yn achosi perygl iddyn nhw - mae pawb arall eisiau cael eu pawennau arno hefyd, a dydy diogelwch y bechgyn yn poeni dim arnyn nhw wrth i'r môr-ladron ymladd dros y llestr.

    Ond mae'r llestr yn bwysicach na'i gyfrinachau i'r Triawd gan mai dyma'r unig obaith sydd ganddyn nhw o ddychwelyd adref yn ddiogel i'w cyfnod nhw mewn amser.

    Poblogaidd gyda'r ifanc
    Yn llawn anturiaethau cyffrous, mae'r llyfr ar ffurf stribed ac yn llawn lliw a symudiad.

    Bydd yn siŵr o fod yn boblogaidd gyda'r ifanc - a'r rhai sydd ychydig yn hŷn! Edrychwn ymlaen at weld be fydd antur nesa y Triawd Amser.

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Y Derwyddon

  • Llywelyn Fychan


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹Éç Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý