|
Y Derwyddon: Dirgelwch yr Ogam Comic clawr caled i oedolion
Adolygiad Anna-Marie Robinson o Y Derwyddon: Dirgelwch yr Ogam, addasiad Cymraeg gan Alun Ceri Jones.
Cyhoeddwyr: Dalen. 48 tudalen clawr caled. 拢9.99. 15+oed.
Efallai nad ydw i wedi bod yn chwilio yn ddigon trylwyr - neu heb fod yn chwilio o gwbl - ond dyma'r comic clawr caled cyntaf i oedolion yn y Gymraeg i mi ei weld.
Mwy na chomic Ond mae'n fwy na chomic - mae'n llyfr hanes, sydd wedi ei anelu at ddarllenwyr o 15 oed ymlaen, gan gynnwys oedolion.
Cyfieithiad yw o'r cyntaf o gyfres iasoer Y Derwyddon a gyhoeddwyd yn 2005 gan Soleil Celtic, on o brif gyhoeddwyr straeon stribed Ffrainc.
Mae naws dywyll a bygythiol i'r llyfr, sy'n bortread o'r byd Celtaidd ar ddiwedd y cyfnod Rhufeinig ond mae o hefyd yn uniongyrchol berthnasol i hanes a diwylliant Cymru, gyda'r testun Cymraeg wedi ei lunio ar gyfer darllenwyr lled ddeallusol.
Yn y bumed ganrif Mae cyfres Y Derwyddon wedi ei gosod yn y bumed ganrif pan oedd y Brythoniaid yn sefydlu gwladfa newydd yn Llydaw a'r seintiau yn croesi'r moroedd i Brydain a thu hwnt er mwyn lledaenu ffydd yr Eglwys Geltaidd.
Rhoddodd nifer o'r seintiau hyn eu henwau i sawl llan yng Nghymru ac mae'r gyfrol gyntaf hon, Dirgelwch yr Ogam, yn frith o'r enwau hyn.
Wrth baratoi'r testun Cymraeg fe ymgynghorwyd ag arbenigwyr mewn Gaeleg, Llydaweg a Chymraeg Cynnar er mwyn sicrhau cywirdeb enwau priod pobol a llefydd sydd hwyrach heddiw yn fwy cyfarwydd mewn Llydaweg, Ffrangeg neu Saesneg.
Yr Hen ffydd Edrycha'r gyfres ar y cyfnod sy'n cael ei alw'n Oesoedd Tywyll - cyfnod pan oedd ein cyndeidiau y Brythoniaid yn teyrnasu dros Ynys Prydain, a'r Saeson yn dechrau taflu eu pwysau o gwmpas ym mharthau dwyreiniol yr Ynys.
Yr adeg hon, mae'r Eglwys Geltaidd yn gryf trwy diroedd y Brython, ond mae'r Hen Ffydd - oedd yn gweld nerth bywyd yn y coed ac mewn natur - yn cael ei harddel o hyd gan rai o'r Celtiaid.
Eu harweinwyr ysbrydol oedd y Derwyddon ac un o dderwyddon olaf Llydaw, Gwynlan, yw canolbwynt y gyfres hon.
Gwrthdaro Stori dditectif yw yn y pendraw - rhyw fath o "whodunnit" wedi ei osod yn nwfn yng ngwreiddiau hanes a'r stori'n troi o gwmpas y gwrthdaro rhwng yr hen ffydd a'r newydd pan gaiff nifer o fynachlod eu llofruddio'n fileinig.
A dydy'r darluniau ddim yn dal yn 么l rhag portreadu pa mor fileinig oedd y cyfnod.
Y Derwyddon sy'n cael y bai am gyflawni'r erchyllterau, ond mae un abad yn amau'r cyhuddiadau ac yn gwahodd Gwynlan a'i brentis, Taran, i geisio dod o hyd i'r gwirionedd.
Wrth i'r stori ddatblygu mae na wirioneddau sy'n siglo seiliau'r ffydd yn cael eu datgelu ac yn amlygu'r holltau diwinyddol rhwng Rhufain a'r Eglwys Geltaidd.
Eithaf trwm Testun difrifol, felly, a phwnc eithaf trwm er gwaetha'r genre a hynny'n rheswm arall - yn ogystal 芒'r darluniau graffig (er bod nifer o bobl ifanc yn gweld gwaeth cyn cyrraedd eu harddegau m'wn) - dros awgrymu mai i ddarllenwyr dros 15 oed mae'r llyfr yn addas.
Gwyddwn fod y math yma o lyfr stribed yn boblogaidd iawn mewn rhannau o Ewrop - ond anodd dweud a fydd y traddodiad yn cydio yma yng Nghymru.
Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Llywelyn Fychan - Ysgol yr Ynfydion
Y Triawd Amser a M么r Ladron y Carib卯
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|