I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch
yma:
Neu darllenwch am gofiant Meredydd Evans
i Cuto Roberts, Rhoslan:
Y Fo Guto gan Meredydd
Evans. Gwasg Carreg Gwalch.
£7
gan Ioan Mai
Yr oedd Guto Roberts yn eilun cenedlaethol - y Fo yn Fo a Fe.
Roedd hefyd yn gawr yn ei fro ac ymhlith gwerin y fro honno. Cofnodwr
prysur oes sy’n prysur ddiflannu.
Dywed golygydd y gyfrol Y Fo Guto, dywed y Dr Meredydd Evans,
mai gwr y gair llafar oedd Guto. Gwr goslef y llais a’r trawiadau
unigryw a erys yn fyw er iddo ef dewi.
Egyr y gyfrol gyda pheth o gefndir Guto yn Isallt Fawr a’r Muriau
Mawr. Ei addysg gynnar yn Ysgol yr Eglwys, Llanystumdwy ac, wedi
hynny, yn Ysgol Sir Porthmadog. Yno bu’n ymlafnio gyda’r Algebra
a’r Saesneg - heb glywed gair am un a ddaeth yn eilun oes iddo,
T. H. Parry Williams, a fu’n ddisgybl yn yr un ysgol.
Ond yng nghyfarfod dathlu canmlwyddiant Ysgol Eifionydd, Guto oedd
yn annerch, ac y mae hon - fel yr holl anerchiadau eraill sydd yn
y gyfrol - yn drysor.
O gyfoeth geiriol ei gyfraniadau i Rhwng Gwyl a Gwaith i
ddyfyniadau ei ddyddiadur mae yma doreth o ddeunydd. A chnwd englynion
o’r pumdegau fel hwn i’r Deigryn -
Wylwn hwn wrth lawenhau, - dro arall
Drwy erwin ofidiau,
Ar arwydd prinder geiriau,
A rydd ef, boed un neu ddau.
Ar ddyddiau heulog braf, anaml y gwelid Guto heb ei gamera a’i sbieinddrych.
Ar nosweithiau hirion gaeaf bddai mewn rhyw gornel yn dawel wrtho’i
hun a’i gamera fideo yn diogelu ar ffilm ddarlithoedd o bwys, neu
sgwrs, ddathliad, campau cwn defaid, agor Amgueddfa Lloyd George
yn Llanystumdwy ac ugeiniau o gyfraniadau sy’n aros yn drysorau
yn y Llyfrgell Genedlaethol.
O niferus luniau’r gyfrol hoffaf hwnnw lle gwelir Guto mewn afiaith
gyda’r llawfeddyg Owen E. Owen y cofnododd Guto ei hanes yn Doctor
Penybryn - llyfr a aeth i bedwar argraffiad.
Mawrygwn ninnau, y darllenwyr, waith clodwiw y Doctor Meredydd Evans
am ei gymwynas anfesuradwy.
Cliciwch
am stori flaenorol am yr un llyfr
Dyma restr
yr wythnos hon o
lyfrau sydd newydd gyrraedd
y siopau:
Cymraeg a dwyieithog
BLAGURYN O GYFF JESSE - RHAGLEN ADFENT I BLANT: Marion Richards,
Enid Morgan, Kay Warrington Addas. Delyth Wyn 1859942407 Gwasg yr
Eglwys yng Nghymru £5.99 Gweithgareddau i blant, ar gyfer y cartref
neu’r Ysgol Sul.
BYD PLENTYN: E. Olwen Jones 0862435242 Y Lolfa £4.95 Casgliad o
ganeuon a charolau i blant bach.
CÂN Y DDRAIG: Robat Arwyn 1897664192 Curiad £5.99 11 o ganeuon newydd
gan gyfansoddwr poblogaidd.
CLYCHAU BETHLEHEM: Gwennant Pyrs 189766429X Curiad £5.99 Cyfrol
o garolau newydd.
COFIO DEWI EIRUG: Huw Ethall 1871799414 Ty John Penri £4.95 Portread
o'r diweddar Dewi Eirug Davies a'i gyfraniad i fywyd crefyddol Cymru.
CYFRES CIP AR GYMRU / WONDER WALES: OWAIN GLYNDWR: Aeres Twigg 1859029043
Gwasg Gomer £1.95 Llyfryn dwyieithog yn adrodd hanes Owain Glyndwr.
CYFRES LLYFRAU LLAWEN:9. I WLAD YR HWLI DWLIS: Joan Ferrero Darl.
Lyn Hughes-Evans 0862435609 Y Lolfa £4.95 Stori ddifyr gyda lluniau
lliw-llawn.
Y CYNTEFIG CYFOES: Donald Evans 1900437422 Cyhoeddiadau Barddas
£6.95 Detholiad o gerddi'r bardd, gydag ambell un newydd.
DIGON I'R DIWRNOD - CYFROL O FYFYRDODAU DYDDIOL: Robin Williams
1902416392 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £9.95 Casgliad o fyfyrdodau
crefyddol, un ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn.
Alan Llwyd 1900437392 Cyhoeddiadau Barddas £7.95
Cyfrol o farddoniaeth newydd yn edrych yn ôl ar yr ugeinfed ganrif.
FFERM 123: Benedict Blathwayt 1855964155 Dref Wen £4.99 Adargraffiad
o lyfr gair-a-llun dwyieithog i blant bach.
GAFAEL MEWN GRAMADEG: David A. Thorne 1859028888 Gwasg Gomer £14.95
Holl elfennau gramadegol y Gymraeg.
LLANGYNOG GYNT: J.D. Lloyd 0860741710 Gwasg Gwynedd £4.50 Atgofion
yr awdur a hanes ardal Llangynog.
LLWYFANNAU LLEOL: Gol. Hazel Walford Davies 1859029027 Gwasg Gomer
£9.95 Cyfrol ar hanes theatrau lleol yng Nghymru.
TAFF PAC: Joanna Davies 0862435323 Y Lolfa £4.95 Cyfweliadau gyda
deg o Gymry ifanc sy'n gwneud eu marc ym myd drama a ffilm.
TAI BACH A THAI MAS - Y CARDI AR EI WAETHAF: Lisa Pennant 190241621X
Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £6.99 Atgofion am fywyd yng Ngheredigion
ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
TOMI'N CEISIO CYSGU: Sally Chambers Addas. Hedd ap Emlyn, Non ap
Emlyn 1855964546 Dref Wen £3.99 Llyfr lliwgar i blant bach, yn yr
un gyfres â Tomi Mewn Trwbwl.
Y TUDURIAID YNG NGHYMRU / THE TUDORS IN WALES: Walter Jones, Nigel
Williams 1902724240 Cyhoeddiadau Relay £30.00 Pecyn dwyieithog yn
cynnwys llawlyfr athrawon, cardiau ffynhonnell a CD-ROM.
UN DRWG DRWG YW EDWYN: Alan Durant Addas. Dylan Williams Darl. Guy
Parker-Rees 1902416406 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £5.75 Stori
mewn odl am gwningen gas, gas.
UN NOSON DYWYLL: T. Llew Jones 0850882249 Gwasg Gomer £5.95 Un noson
dywyll, cafodd ceidwad y tollborth ymwelydd annisgwyl...
Llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru
ALIVE AND KICKING: Clare Woodward 0953868818 Tregolwyn Publishing
£12.95 Nofel am iselder ysbryd mam sydd wedi colli ei phlentyn.
THE CELTS: John Davies 0304355909 Cassell £18.99 Llyfr i gyd-fynd
â chyfres ar S4C.
KEEP THE FEAST: 1859942423 Gwasg yr Eglwys yng Nghymru £14.99 Pecyn
yn cynnwys cryno ddisg o 18 carol, llawlyfr Plygain a thestun y
carolau.
NEWSPAPER RUSSIAN - A VOCABULARY OF ADMINISTRATIVE AND COMMERCIAL
IDIOM: John Slatter 0708316344 Gwasg Prifysgol Cymru £10.99 Llawlyfr
o'r iaith a'r eirfa sydd i'w gweld ym mhapurau newydd Rwsia heddiw.
POLITICAL PHILOSOPHY NOW SERIES: MICHAEL WALZER ON WAR AND JUSTICE:
Brian Orend 0708316484 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Golwg ar rai
o ddigwyddiadau mwyaf dadleuol ein cyfnod.
POLITICAL PHILOSOPHY NOW SERIES: WILLIAM MORRIS - THE ART OF SOCIALISM:
Ruth Kinna 0708315828 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Astudiaeth sy'n
edrych ar agweddau o waith William Morris.
TEACHING A CHICKEN TO SWIM: Gol. Rob Middlehurst 1854112910 Seren
£6.95 Straeon byrion gan gyn-fyfyrwyr cwrs Ysgrifennu Creadigol
Prifysgol Morgannwg.
THE WALES YEARBOOK 2000: Gol. Denis Balsom 0953128733 Cyhoeddiadau
F.B.A. £35.00 Y cyfeirlyfr hanfodol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
WRITING RELIGIOUS WOMEN - FEMALE SPIRITUAL AND TEXTUAL PRACTICES
IN LATE MEDIEVAL ENGLAND: Goln. Denis Renevey, Christiania Whitehead
0708316417 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Cyfrol sy'n edrych ar destunau
lle mae menywod yn chwarae rhan amlwg.
Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd
Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau
o'ch dewis chi, cliciwch ar