Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Eglwys Llyfr am ddiogelu eglwysi yr Oesoedd Canol


Hefyd :
Rhestr o'r llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau

Dydd Iau, Tachwedd 30, 2000

I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:

Neu darllenwch am lyfr eglwysi Cadw gyntaf. . .

Gofalu am eglwysi'r oesoedd canol

Y mae cyngor ar gael yn awr sut i ddiogelu eglwysi cynnar Cymru sydd yn rhan mor bwysig o'n hetifeddiaeth.

Awdur Gofalu am Archeoleg Eglwysi'r Oesoedd Canol a gyhoeddir gan Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru a Cadw, yw Bill Britnell o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys.

Yr eglwys yn aml yw'r adeilad cynharaf sydd wedi goroesi mewn cymuned ac mae'n darparu cysylltiad uniongyrchol â'r gorffennol sy’n gallu helpu archeolegwyr a haneswyr i benderfynu ar oed anheddau arbennig.

Er bod y rhan fwyaf o'r mil o egwysi a arolygwyd ar hyd a lled Cymru fel rhan o'r project yn dyddio o ganol i ddiwedd yr Oesoedd Canol, adeiladwyd nifer ohonynt ar safleoedd cynharach yn dyddio o'r bumed a'r chweched ganrif.

Yn arbennig o bwysig

Mae'r safleoedd hyn yn arbennig o bwysig – nid yn unig oherwydd eu gwneuthuriad canoloesol eu hunain ond oherwydd yr olion archeolegol a allai fod oddi tanynt.

Hefyd, mae pensaernïaeth eglwys a chynllun mewnol, hefyd yn adlewyrchu tueddiadau gwahanol wrth addoli dros y canrifoedd.

Er enghraifft, nid oedd gan y rhan fwyaf o eglwysi seddau tan yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg – safai'r gynulleidfa ar lawr pridd wedi'i orchuddio â brwyn a gwair.

Lluniau o'r golwg

Yn aml, addurnwyd eglwysi cynnar yn gywrain gyda phatrymau lliwgar neu olygfeydd crefyddol. Gwyngalchwyd llawer o'r darluniau hyn yn ystod Diwygiad Protestannaidd dair neu bedair canrif yn ôl. Mewn lleoedd eraill mae'r arlunio cynnar hwn dan haenau o blastr .

Bwriad y llyfryn, sydd wedi ei anelu at ymgynghorwyr esgobaethol, ficeriaid ac aelodau o gynghorau eglwysi plwyf, yw cryfhau eu hymwybyddiaeth o arwyddocâd y safleoedd hyn o safbwynt hanesyddol a phensaernïol.

Mae hefyd yn dweud lle y mae gwybodaeth am archeoleg eglwys.

Meddai yr awdur Bill Britnell, sy'n aelod o'r Comisiwn Eglwysi Cadeiriol ac Eglwysi yng Nghymru: "Mae'r llyfryn hwn yn pwysleisio'r nodweddion pensaernïol ac archeolegol gwahanol sy'n gyffredin i lawer o eglwysi canoloesol ac yn edrych ar y rôl y maent yn ei chwarae wrth ein cynorthwyo i ddysgu am ein hanes."

Dywed, nad y bwriad yw rhwystro trwsio hanfodol ond rheoli newid fel nad yw'n dinistrio olion archeolegol

Dywedodd Rick Turner, arolygydd henebion Cadw Cymru, fod tuedd ymhlith pobol i gredu mai unig ddiddordeb archeolegwyr yw olion dan wyneb y ddaear.

"Nid yw hyn yn wir. Fel mae'r llyfryn hwn yn dangos, gall archeolegwyr ddysgu llawer iawn am y gorffennol o wneuthuriad, dodrefn a ffitiadau adeilad arbennig a gall hyn gyfrannu at gadw'r eglwysi canoloesol hyn." .

Meddai Chris Samuel, pennaeth gwasanaethau eiddo Corff Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru:, "Yr eglwys yw calon y rhan fwyaf o gymunedau Cymreig. Mae'n rhoi tystiolaeth i ni o addoli Cristnogol cynnar ac hefyd mae'n sumbol o hynafolrwydd aneddle.

"Rydym yn falch iawn y bydd y llyfryn hwn yn codi proffil eglwysi canoloesol Cymru."


Dyma restr yr wythnos hon o
lyfrau sydd newydd gyrraedd
y siopau:


Cymraeg a dwyieithog

CERDDI BOIS Y FRENNI: W.R. Evans 1859028993 Gwasg Gomer £4.95 Casgliad o gerddi W.R. Evans, a gyfansoddwyd ar gyfer nosweithiau Bois y Frenni.

CIP AR Y CEWRI: Gol. Non ap Emlyn 0860741702 Gwasg Gwynedd £5.95 Cyfrol o ddetholion o Gyfres y Cewri wedi eu haddasu ar gyfer dysgwyr.

CYFRES Y CEWRI: 22. Y STORI TU ÔL I'R GÂN: Arwel Jones 0860741699 Gwasg Gwynedd £7.95 Hunangofiant un o Hogia'r Wyddfa.

DIAL DAU / REVENGE FOR TWO: Ivor Owen 070740343X Gwasg Gee £5.25 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

FOUR STORIES FOR WELSH LEARNERS / PEDAIR STORI I DDYSGWYR CYMRAEG: Ivor Owen 0707403405 Gwasg Gee £4.95 Storïau ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

GEIRIADUR PRIFYSGOL CYMRU 55: Goln. Gareth A. Bevan, M.A., Patrick J. Donovan, M.A. 0000870943 Gwasg Prifysgol Cymru £8.00 Cyfrol ddiweddaraf y Geiriadur, yn cynnwys y geiriau Tachmoniad - Teithi.

'YR IAS YNG NGRUDDIAU'R RHOSYN': Gwyn Llewelyn 0863816541 Gwasg Carreg Gwalch £6.00 Y nofel a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.

IFOR BACH: Ivor Owen 0707403448 Gwasg Gee £4.95 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

LLEIDR PEN-FFORDD / HIGHWAYMAN: Ivor Owen 0707403421 Gwasg Gee £5.65 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

Y MEDDWL A'R DYCHYMYG CYMREIG: SOFFESTRI'R SAESON: Jerry Hunter 070831659X Gwasg Prifysgol Cymru £12.99 Cyfrol sy'n trafod hunaniaeth y Cymry yn oes y Tuduriaid.

MIS O WYLIAU: Ivor Owen 0707403456 Gwasg Gee £4.95 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

O'R CANOL I LAWR: Emyr Huws Jones 0862435234 Y Lolfa £6.95 Nofel gyfoes am lyfrgellydd sydd wedi diflasu ar y sefydliad.

OMEGA: Geraint V. Jones 0863816592 Gwasg Carreg Gwalch £7.00 Nofel dditectif yn ddilyniant i Semtecs ac Asasin.

RHESTR TESTUNAU GWYL GENEDLAETHOL CYMDEITHAS CERDD DANT CYMRU BRO MYRDDIN 2001: 0000870935 Cymdeithas Cerdd Dant Cymru £1.00 Rhestr o destunau Gwyl Cerdd Dant 2001.

SEIMON PRYS DITECTIF: Ivor Owen 0707403413 Gwasg Gee £5.25 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

SIOP GWALIA: Ivor Owen 0707403391 Gwasg Gee £5.95 Stori ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

STRAEON BOLWYN: BOLWYN A'R DYN EIRA CAS: Gwyneth Glyn Darl. Carys Owen 0863816568 Gwasg Carreg Gwalch £2.95 Stori yn llawn hiwmor am Bolwyn y dyn eira; ar gyfer plant 7-9 oed.

STRAEON BOLWYN: BOLWYN YN Y SIOE NADOLIG: Gwyneth Glyn Darl. Carys Owen 086381655X Gwasg Carreg Gwalch £2.95 Stori yn llawn hiwmor am Bolwyn y dyn eira; ar gyfer plant 7-9 oed.

TALWRN Y BEIRDD 10 - PIGION Y TALWRN: Gol. Gerallt Lloyd Owen 0860741680 Gwasg Gwynedd £6.95 Detholiad o gynnyrch y gyfres radio, 1998-2000.

TEACH YOURSELF WELSH: Julie Brake, Christine Jones 0340779713 Hodder & Stoughton £13.00 Tâp sain i gyd-fynd â’r cwrs Cymraeg.

Llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru

ARTHUR AND THE LOST KINGDOMS: Alistair Moffat 0753810743 The Phoenix Press £8.99 Llyfr yn honni mai tywysog un o lwythau Cymraeg de’r Alban oedd Arthur.

CARDIFF DAY BY DAY - THE DIARY OF A CAPITAL CITY: John May 1871354056 Castle Publications £7.99 Llyfr yn nodi digwyddiadau yn hanes Caerdydd ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn.

CONTEMPORARY GERMAN WRITERS SERIES: HERMANN PETER PIWITT: Gol. David Basker 0708316662 Gwasg Prifysgol Cymru £15.00 Ysgrifau ar fywyd a gyrfa'r llenor, ynghyd â chyfweliad gydag ef.

ENTERTAINMENT: Richard John Evans 1854112872 Seren £6.95 Nofel am ddau lanc yn Nhreorci, un ohonynt yn anabl ac mewn cadair olwyn.

THE HIDING PLACE: Trezza Azzopardi 0330390759 Picador £14.99 Nofel o restr fer gwobr Booker 2000, am Gaerdydd y 1960au.

IN AND OUT THE WINDOWS - MY LIFE AS A PSYCHIC: Dilys Gater 1898670048 Anecdotes Publishing £9.95 Sut y daeth yr awdures i fod yn seicig, a sut y mae hynny wedi effeithio ar ei bywyd.

QUIZ RHONDDA: John May 1871354064 Castle Publications £2.99 300 o gwestiynau ar bob agwedd o hanes y Rhondda o'r oesoedd canol hyd heddiw.

RIDING THE STORM: Susan Holliday 1859028705 Pont Books £4.95 Daw Alun i delerau â'r ffaith fod ei rieni'n gwahanu.

SIR SILAS SORROCKS - THE WONDROUS ADVENTURES OF A MEDIEVAL SHREW: Alan Raymond 0953914704 Alan Raymond Publications Ltd. £5.99 Stori mewn odl am lygoden o farchog.

SPOILS OF WAR: Catrin Collier 0099414538 Arrow Books £5.99 Nofel wedi ei gosod ym Mhontypridd yn 1946.

WALES OFF MESSAGE - FROM CLAPHAM COMMON TO CARDIFF BAY: Patrick Hannan 1854112937 Seren £8.95 Golwg ar brif gymeriadau blynyddoedd cyntaf y Cynulliad.

WELSH ARTISTS TALKING - TO TONY CURTIS: Tony Curtis 1854112864 Seren £19.95 Golwg ar waith deg o artistiaid o Gymru.



Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy