Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Tachwedd 2012

Y Blaid Fach

Vaughan Roderick | 09:54, Dydd Iau, 29 Tachwedd 2012

Sylwadau (1)

Plaid go rhyfedd yw Plaid Cymru. Trwy gydol ei bodolaeth mae hi wedi yn bod yn gymysgedd o blaid wleidyddol go iawn, rhan o "fudiad cenedlaethol" annelwig a grŵp pwyso ar y blaid Lafur.

Er bod y blaid o bryd i gilydd wedi breuddwydio neu frolio ynghylch diorseddi Llafur fel plaid fawr Cymru mae ei haelodau ar hyd y blynyddoedd wedi ymddwyn gyda pharchedig ofn wrth ddelio â Llafur gan synhwro mai trwy Lafur y mai sicrhau grymoedd i Gymru.

Cymerwch wanwyn 1979 fel enghraifft. Gyda chynlluniau datganoli Llafur wedi ei dryllio ar ôl i fwyafrif ei haelodau ar lawr gwlad ymgyrchu dros bleidlais 'Na' - beth wnaeth aelodau seneddol Plaid Cymru? Pleidleisio'n aflwyddiannus i gynnal Jim Callaghan mewn grym oedd eu penderfyniad.

Pleidleisiau'r SNP wnaeth ddymchwel y Llywodraeth. Fe dalodd cenedlaetholwyr yr Alban bris tymor byr am y penderfynniad hwnnw. Fe'i bedyddiwyd yn "Tartan Tories" ac fe wnaeth hynny ddifrod etholiadol - ond byddai neb byth eto yn amau eu bod yn fodlon mynd troed am droed gyda'r blaid Lafur a cheisio rhoi clatsied go iawn iddi.

Cymerwch enghraifft arall - y trafodaethau clymblaid yn sgil etholiad Cynulliad 2007. Roedd 'na ddau gytundeb clymblaid ar y ford. Roedd y rhaglenni llywodraethol yn ddigon tebyg i'w gilydd. Yr unig wahaniaeth mewn gwirionedd oedd pwy fyddai'n arwain y Llywodraeth. Dewisodd Plaid Cymru fod yn frawd bach yn hytrach na'n frawd mawr. Fedrai ddim dychmygu'r SNP yn gwneud y dewis hwnnw. Mewn gwirionedd fedrai ddim meddwl am unrhyw blaid arall unrhyw le yn y byd yn ymddwyn felly.

Sut felly y bydd Plaid Cymru'n ymateb i'r ddêl bosib sy'n cael ei wyntyllu yn San Steffan - cyfle i gau Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol allan o'r drafodaeth a llunio setliad cyfansoddiadol newydd i'r Deyrnas Unedig mewn trafodaethau rhwng y Ceidwadwyr, y DUP a chenedlaetholwyr Cymru a'r Alban?

Awch David Cameron i sicrhau mwyafrif seneddol dros ad-drefnu ffiniau etholaethol sy'n agor y drws i'r posibilrwydd hwnnw a gallai pethau fel datganoli cyfraith a threfn i Gymru a chynyddu nifer aelodau'r cynulliad fod ar y bwrdd.

Dyw Plaid Cymru ddim wedi cau allan y posibilrwydd o gyrraedd cytundeb er gwaetha'r peryglon gwleidyddol amlwg ond yn y pendraw rwy'n amau y bydd Plaid Cymru yn ildio i'w greddfau trwy beidio pechu'r blaid Lafur.

Mae eraill yn credu'n wahanol. Yng ngeiriau un aelod o'r blaid "mae'n bryd i ni dyfu pâr".

Newid Pethau

Vaughan Roderick | 16:09, Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2012

Sylwadau (1)

Mae cyhoeddi'r adroddiad ynghylch y gyfundrefn arholiadau yn ei hysgolion yn brawf pendant y bydd cyfundrefnau arholiadau Cymru a Lloegr yn wahanol i'w gilydd o fewn ychydig flynyddoedd.

Does dim sicrwydd y bydd Leighton Andrews yn gwireddu pob un o'r argymhellion ond gallwn fod yn gwbwl sicr na fydd e'n efelychu cynlluniau Michael Gove.

Yn y pymtheg mlynedd ers y refferendwm datganoli mae'r gagendor rhwng y ffordd y mae'r gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng Nghymru a'r gyfundrefn yn Lloegr wedi cynyddu'n gyson. Roedd hynny'n anorfod. Yr hyn sy'n ddiddorol yw mai newidiadau i wasanaethau cyhoeddus Lloegr yn hytrach na rhai Cymru sy'n bennaf gyfrifol am y cynnydd hwnnw.

Ar y cyfan mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bur geidwadol wrth newid pethau tra bod llywodraethau'r Deyrnas Unedig, Llafur a'r Glymblaid fel ei gilydd, wedi cyflwyno newidiadau llawer mwy radicalaidd.

Yr un yw'r patrwm gyda'r cynllun arholiadau gyda San Steffan yn ystyried cyfundrefn gwbwl newydd a Bae Caerdydd yn ceisio adeiladu ar y gyfundrefn bresennol a'i chymhwyso ar gyfer y dyfodol.

Dydw i ddim yn gwybod a fyddai "Pleidleisiwch ie er mwyn i ni gadw pethau fel maen nhw" wedi profi'n slogan effeithiol yn ôl yn 1997. Dyna mae pobol wedi cael mewn gwirionedd - corff sy'n sicrhau nad yw Cymru'n manteisio / colli allan oherwydd cynlluniau uchelgeisiol / arbrofion peryglus Llundain.

Deuparth Ffordd...

Vaughan Roderick | 10:08, Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2012

Sylwadau (0)

Dyma gyfaddefiad i chi. Mae siarad yn gyhoeddus yn rhywbeth sy'n hela fi'n nerfus. O flaen camera neu feicroffon does dim problem ond o flaen cynulleidfa fyw mae'r ieir bach yr haf yn dechrau dawnsio! Cymaint yn fwy felly wrth ymddangos gerbron cynulleidfa o fy nghyn-athrawon nos Wener mewn cyngerdd i ddathlu hanner canmlwyddiant fy hen ysgol, Rhydfelen.

Roedd penderfynu beth i ddweud yn anodd hefyd. Wedi'r cyfan, mae hon yn ysgol wnaeth weld ei henw yn cael ei llusgo trwy'r llaca oherwydd methiant moesol a drygioni John Owen, un o'i disgyblion mwyaf disglair - cyn colli ei henw yn gyfan gwbwl.

Ond er mai "G" Gartholwg sydd ar fathodyn yr ysgol erbyn hyn "Rh" Rhydfelen sydd ar deis y chweched ac am Rydfelen y mae'r plant yn canu yn eu gwersylloedd croeso yn Llangrannog ac ar eu penwythnosau awyr agored yng Nghwrt y Cadno.

Mae'n werth cofio hefyd cymaint o Ysgolion Uwchradd Cymraeg sydd o fewn dalgylch gwreiddiol Rhydfelen erbyn hyn. Dyma nhw - Ystalyfera, Bryn Tawe, Gwyr, Llangynwyd, Llanhari, Rhydywaun, Cymer, Bro Morgannwg, Glantaf, Plasmawr, Bro Edern, Cwm Rhymni, Gwynllyw ac wrth gwrs Gartholwg / Rhydfelen ei hun. Mae 'na ddwy arall ar ei ffordd, un yng Nghaerffli a'r llall rhywle yn ardal Cwmbran a Chasnewydd.

Oni bai am lwyddiant Rhydfelen yn ei blynyddoedd cynnar go brin y byddai'r un o'r ysgolion yna'n bodoli ac hebddyn nhw fe fyddai cyflwr y Gymraeg yn ne-ddwyrain Cymru fawr well na'r Gernyweg - yn ddim byd mwy nac atgof ac adlais.

Dydw i ddim am fychanu'r bryntni wnaeth ddigwydd yn Rhydfelen. Rwy'n nabod rhai o'r bobol wnaeth ddioddef ac yn ceisio deall y difrod a wnaed i'w bywydau. Amhosib yw deall y cyfan. Ond fe fyddai'n annheg i'r cyn-athrawon oedrannus yn y gynulleidfa nos Wener i beidio cydnabod gwyrth Rhydfelen yn ogystal â'i gwarth. Ar Daf yr iaith a dyfodd. Mae Emyr Lewis yn dweud y peth yn well na fi.

Dof i wylo'n Rhydfelen - heb ei gweld
Pob gwers wedi gorffen
Pob hwyl pob egwyl ar ben
Dof i wylo'n Rhydfelen

Dof i arddel Rhydfelen - ai henw
a'i hanes heb orffen
Dof rhag angof gyda gwen
Dof i hawlio Rhydfelen

Tri Pheth

Vaughan Roderick | 16:24, Dydd Gwener, 16 Tachwedd 2012

Sylwadau (1)


1. Roedd pawb yn disgwyl i'r niferoedd oedd yn pleidleisio yn etholiadau'r heddlu i fod yn isel. Roeddwn i'n meddwl y byddai pleidleisiau post yn ddigon i sicrhau bod y canran yn uwch nac ugain y cant. Roeddwn i'n anghywir. Dydw i ddim yn cofio achos mewn unrhyw etholiad lle cafodd blychau pleidleisio cwbwl wag eu dychwelyd i'r ganolfan gyfri. Anhygoel.

2. Roedd y ras dau geffyl yn Nyfed-Powys yn anhygoel o agos. Yng Ngheredigion, lle'r oedd 11% o'r papurau wedi eu sbwylio, fe enillodd y Ceidwadwr o ryw 600 pleidlais - cyfran sylweddol iawn o gyfanswm ei fwyafrif. Ai pleidleisio o blaid y Ceidwadwyr oedd y Cardis - yntau yn erbyn Christine Gwyther? A fyddai ymgeisydd gwahanol i Lafur, rhywun fel Hag Harris, wedi ennill yng Ngheredigion - ac felly drwyddi draw?

3. Er nad oedd y naill blaid na'r llall wedi enwebu ymgeiswyr chwaraeodd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol eu rhan yn yr etholiadau - fel "unigolion" wrth gwrs. Bu aelodau Plaid Cymru yn gweithio'n galed dros Ian Johnston, yr ymgeisydd annibynnol buddugol yng Ngwent ac roedd y Democratiaid Rhyddfrydol a rhai o aelodau Plaid Cymru yn weithgar yn ymgyrch Winston Roddick. O am fod yn bry ar wal y tro nesaf y mae Dafydd Elis Thomas a Dafydd Wigley yn cael clonc!

Gambl Leanne

Vaughan Roderick | 09:24, Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2012

Sylwadau (0)

Does neb yn amau dewrder gwleidyddol Leanne Wood wrth iddi gyhoeddi ei bod am chwennych sedd etholaethol yn etholiadau nesaf y Cynulliad.

Nid hi yw Aelod Cynulliad cyntaf i wneud y penderfyniad hwnnw. Yn etholiad 2007 penderfynodd Jonathan Morgan roi'r gorau i fod yn aelod rhestr er mwyn sefyll yng Ngogledd Caerdydd. Fe gipiodd sedd ac wedyn ei cholli yn 2011. Pe ba na bai Jonathan wedi mentro i'r ochor etholaethol mae'n debyg y byddai'n Aelod Cynulliad ac yn arweinydd ei blaid heddiw. Methiant fu ymdrech Nerys Evans i ennill sedd etholaeth ar ôl ildio ei lle ar y rhestr. Efallai bod yna wersi yn fana!

Y cwestiwn mawr wrth gwrs yw lle yn union y bydd Leanne yn sefyll?

Gan mai ymestyn y map etholiadol yw'r bwriad does dim pwynt iddi sefyll mewn etholaeth y mae'r blaid yn ei chynrychioli'n barod. Does dim llawer o bwynt sefyll yn Llanelli chwaith gan fod ennill Llanelli wedi arwain at golli sedd rhestr ym mhob un o'r pedwar etholiad ers sefydlu'r cynulliad.

O gymryd nad yw Leanne am fentro i'r gogledd mae 'na bum sedd sy'n fy nharo i fel posibiliadau. Mae pedair o'r rheiny yn y cymoedd sef Castell Nedd, Cwm Cynon, Caerffili ac Islwyn. Mae'r rheiny i gyd yn seddi y mae'r blaid wedi ei hennill neu ddod agos at ei hennill yn y gorffennol. Mae'r un peth yn wir am ambell i sedd arall - ond mae'r drefniadaeth Lafur mewn seddi fel y Rhondda a Phontypridd wedi gwella'n arw ers chwalfa 1999 gan greu talcen caled iawn i Blaid Cymru.

O'r seddi rwyf wedi eu rhestri uchod byswn i'n tybio mai Castell Nedd fyddai'r mwyaf addawol yn enwedig os ydy Gwenda Thomas yn dewis ymddeol adeg yr etholiad nesaf. Greddf nid ystadegau sy'n awgrymu hynny ac fe fyddai'r ffaith bod yr etholaeth y tu allan i ranbarth presennol Leanne yn anfantais iddi.

Mae 'na un sedd arall sy'n werth ei hystyried. Mae 'na garfan o fewn Plaid Cymru sy'n dadlau bod y blaid wedi colli cyfleoedd yn y Gymru ddinesig wrth ddilyn breuddwydion gwrach yn y cymoedd. Mae'n bosib y bydd y garfan honno yn pwyso ar Leanne i ystyried sefyll yng Ngorllewin Caerdydd - sedd lle enillodd y blaid dros ugain y cant o'r bleidlais tro diwethaf. Mae hynny'n llai na'r canran yn rhai o seddi'r cymoedd ond mae'r adwy rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn llai - ac mae 'na fwy o gyfle i osod gwasgfa dactegol ar bleidiau eraill.

Ydy Plaid Cymru yn gallu ennill un o'r seddi uchod? Fe fydd hynny'n dibynnu i raddau helaeth iawn ar yr hinsawdd wleidyddol yn enwedig canlyniad yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Fe gawn weld.

Rwyf am gwpla trwy ddyfynnu sgwrs rhwng Sir Humphrey a Bernard yn "Yes Minister". Dyma hi.

Sir Humphrey: If you want to be really sure that the Minister doesn't
accept it, you must say the decision is "courageous".
Bernard: And that's worse than "controversial"?
Sir Humphrey: Oh, yes! "Controversial" only means "this will lose you votes". "Courageous" means "this will lose you the election"!

Amser a ddengys beth yw natur dewrder Leanne.

Newid Pethau

Vaughan Roderick | 11:44, Dydd Gwener, 9 Tachwedd 2012

Sylwadau (4)

Naw y cant wnaeth droi allan i bleidleisio y tro diwethaf i bobol Cymru gael y cyfle i bleidleisio o blaid neu yn erbyn agor tafarnau ar y Sul. Fe ddylai'r ffigwr fod yn uwch yn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu wythnos nesaf ond rwy'n synhwyro na fydd hi'n llawer gwell.

Mae 'na ffactorau penodol ynghylch yr etholiad hwn sy'n achosi peth o'r difaterwch. Mae dryswch ynghylch union natur y swydd, diffyg ymgeiswyr gan rai o'r pleidiau ac amser y flwyddyn yn rhai o'r rheiny. Serch hynny fe fydd pleidlais isel wythnos nesaf yn tanseilio hygrededd y Comisiynwyr i ryw raddau ac yn ychwanegu at y pryderon ynghylch y difaterwch cynyddol sy'n effeithio ar etholiadau ar bob lefel erbyn hyn.

Mae gweld pa mor wag yr orielau cyhoeddus y Cynulliad yn arwydd pellach o'r difaterwch hwnnw. Dyw'r gwylio ar y we ddim llawer gwell. 13,810 o bobol wnaeth ddefnyddio gwasanaeth Senedd.tv rhwng Mai 2011 a Mai 2012. Mae eraill yn dewis gwylio ar wasanaeth Democratiaeth Fyw'r Â鶹Éç wrth gwrs ond go brin fod y niferoedd yn enfawr.

Rhan o'r rheswm am hynny yw bod trafodaethau'r Cynulliad yn gallu bod yn bethau diflas ar y naw. Dyw hyd yn oed sesiwn gwestiynau Carwyn Jones ddim yn cymharu mewn gwirionedd a sesiynau cyffelyb San Steffan neu hyd yn oed Holyrood.

Yr wythnos hon fe ysgrifennodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew Davies at Lywydd y Cynulliad i alw am adolygiad o reolau a threfniadau'r Cynulliad. Mae'r blaid am weld newidiadau i'r rheolau i fywiogi a gwella effeithlonrwydd y Cynulliad.

2002 oedd y tro diwethaf i adolygiad o'r fath cael ei gynnal a dyw cynnal un arall ddim yn beth afresymol i wneud. Ar y llaw onid oes dyletswydd ar y pleidiau hefyd i geisio gwella ansawdd rhai o'r ymgeiswyr y maen nhw'n dewis ar gyfer y lle yma? Mewn siambr o drigain aelod does 'na'r unlle i guddio eich dyffars!

Penblwydd Hapus, BARN

Vaughan Roderick | 11:32, Dydd Gwener, 2 Tachwedd 2012

Sylwadau (2)

Mae sawl penblwydd yn cael eu dathlu ar hyn o bryd. Mae S4C yn ddeg ar hugain ac ymhen ychydig wythnosau byddaf yn cymryd rhan mewn cyngerdd i ddathlu hanner canmlwyddiant fy hen ysgol, Rhydfelen.

Synnais y bore yma i weld bod 'na "50" aur ar glawr y rhifyn newydd o Barn. Am ryw reswm roeddwn i'n meddwl bod y cylchgrawn llawer yn hŷn na hynny. Cymerais mai rhyw Domos Gee neu ei debyg oedd wedi cychwyn y peth yn ôl yn nyddiau Fictoria.

Nid awgrymu bod "Barn" yn hen ffasiwn yr ydw i ond mae 'na rywbeth ynghylch ei sylwedd sobor nad yw nodweddiadol o gyhoeddiadau ail hanner yr ugeinfed ganrif a diolch byth am hynny!

Fel pob cylchgrawn arall mae Barn wedi wynebu cyfnodau o lanw a chyfnodau o drai ar hyd y blynyddoedd. Cyfnod Alwyn D. Rees oedd ei hoes aur mae'n debyg ond mae hi mewn cyflwr iach iawn ar hyn o bryd.

Ta beth, Penblwydd Hapus, Barn. Rwy'n sicr y byddai tanysgrifiad yn cael ei ystyried fel anrheg anrhydeddus!

Nefar in Ewrop

Vaughan Roderick | 09:54, Dydd Iau, 1 Tachwedd 2012

Sylwadau (3)

Does dim dwywaith bod Llafur wedi ennill brwydr dactegol yn NhÅ·'r Cyffredin ddoe trwy gefnogi gwelliant yn galw am dorri Cyllideb yr Undeb Ewropeaidd.

Trwy gynghreirio gyda rebeliaid Ceidwadol fe lwyddwyd i drechu'r Llywodraeth ac mae colli unrhyw bleidlais yn tanseilio awdurdod unrhyw lywodraeth ac unrhyw Brif Weinidog. Gofynnwch i John Major. Dyw David Cameron ddim yn eithriad i'r rheol a doedd hi ddim yn syndod clywed Ed Miliband yn dweud hyn ar ôl y bleidlais.

"He can't convince European leaders, he can't even convince his own backbenchers. He is weak abroad, he is weak at home: It's John Major all over again."

Buddugoliaeth dactegol i Miliband a Balls felly ond oedd y bleidlais yn gamgymeriad strategol i Lafur?

Yn sicr fe fydd hi'n anoddach i'r blaid feirniadu David Cameron am ddefnyddio feto Prydain os ydy e'n dewis gwneud hynny eto ac mae 'na broblem arall sy'n poeni rhai o hen bennau'r Blaid Lafur y pen yma i'r M4.

Mae'n ddigon hawdd dod o hyd i esiamplau o wastraff yn y sefydliadau Ewropeaidd ac roedd 'na ddigon o hynny yn y ddadl ddoe. Dyma i chi Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys Greg Clark wrth agor y ddadl

"Though they are ready to lecture others on fiscal discipline, it is fiscal incontinence that characterises the approach of the European institutions. Administrative costs need to be hammered down to bring them into line with the modern world, yet the response of the Commission's spokesman has been little short of insolent."

Digon teg efallai. Mae'n anodd cyfiawnhau rhai o arferion Brwsel. Ond faint o gyllideb yr Undeb sy'n cael ei wario ar weinyddiaeth? Mae ffigyrau 2012 ar gael yn .

Fe welwch mai 5.6% o'r gyllideb sy'n cael ei gwario ar weinyddu. Fe fyddai tocio ar hynny o werth symbolaidd efallai er mwyn dangos bod yr Undeb yn rhannu poen ei aelodau ond go brin y byddai'r arbediad yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i lyfrau'r gwledydd unigol.

Er mwyn gwneud hynny fe fyddai'n rhaid mynd i ymrafael a'r gwariant gwirioneddol mawr - y 45.9% o'r gyllideb sy'n cael ei wario ar dyfiant economaidd gan gynnwys y cronfeydd strwythurol a'r 40.8% sy'n cael ei wario ar yr amgylchedd - y polisi amaeth yn bennaf.

Go brin y byddai Llafur Cymru na Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld toriadau sylweddol yn y naill neu'r llall o'r rheiny! Dyma i chi ddyfyniad o gan Carwyn Jones yn cyfarch Llysgennad Iwerddon ychydig ddyddiau yn ôl.

"Mae'r UE yn bwysig iawn i'n dwy wlad ac mae llawer o faterion sydd o ddiddordeb cyffredin i ni, o raglenni cyllido'r UE sy'n cefnogi swyddi, at bolisïau gwledig a pholisïau pysgodfeydd. Mae'r Farchnad Gyffredin yn ein galluogi ni i deithio a masnachu yn rhydd rhwng yr holl aelod-wladwriaethau ac mae'n hanfodol i lwyddiant economi Cymru ac economi Iwerddon yn y dyfodol."

Mae'n haws bod yn wrthblaid nac yn Lywodraeth, wrth gwrs, ond fe hoffwn fod yn bry ar y wal y tro nesaf y mae Carwyn Jones yn cwrdd ac arweinydd ei blaid!

Fe fyddai'n ddiddorol clywed Ed Miliband yn esbonio sut y byddai'r syniad o dorri taliadau i'n ffermwyr a chymorth economaidd i'n hardaloedd tlotaf yn apelio at etholwyr Cymru.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.