Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Deuparth Ffordd...

Vaughan Roderick | 10:08, Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2012

Dyma gyfaddefiad i chi. Mae siarad yn gyhoeddus yn rhywbeth sy'n hela fi'n nerfus. O flaen camera neu feicroffon does dim problem ond o flaen cynulleidfa fyw mae'r ieir bach yr haf yn dechrau dawnsio! Cymaint yn fwy felly wrth ymddangos gerbron cynulleidfa o fy nghyn-athrawon nos Wener mewn cyngerdd i ddathlu hanner canmlwyddiant fy hen ysgol, Rhydfelen.

Roedd penderfynu beth i ddweud yn anodd hefyd. Wedi'r cyfan, mae hon yn ysgol wnaeth weld ei henw yn cael ei llusgo trwy'r llaca oherwydd methiant moesol a drygioni John Owen, un o'i disgyblion mwyaf disglair - cyn colli ei henw yn gyfan gwbwl.

Ond er mai "G" Gartholwg sydd ar fathodyn yr ysgol erbyn hyn "Rh" Rhydfelen sydd ar deis y chweched ac am Rydfelen y mae'r plant yn canu yn eu gwersylloedd croeso yn Llangrannog ac ar eu penwythnosau awyr agored yng Nghwrt y Cadno.

Mae'n werth cofio hefyd cymaint o Ysgolion Uwchradd Cymraeg sydd o fewn dalgylch gwreiddiol Rhydfelen erbyn hyn. Dyma nhw - Ystalyfera, Bryn Tawe, Gwyr, Llangynwyd, Llanhari, Rhydywaun, Cymer, Bro Morgannwg, Glantaf, Plasmawr, Bro Edern, Cwm Rhymni, Gwynllyw ac wrth gwrs Gartholwg / Rhydfelen ei hun. Mae 'na ddwy arall ar ei ffordd, un yng Nghaerffli a'r llall rhywle yn ardal Cwmbran a Chasnewydd.

Oni bai am lwyddiant Rhydfelen yn ei blynyddoedd cynnar go brin y byddai'r un o'r ysgolion yna'n bodoli ac hebddyn nhw fe fyddai cyflwr y Gymraeg yn ne-ddwyrain Cymru fawr well na'r Gernyweg - yn ddim byd mwy nac atgof ac adlais.

Dydw i ddim am fychanu'r bryntni wnaeth ddigwydd yn Rhydfelen. Rwy'n nabod rhai o'r bobol wnaeth ddioddef ac yn ceisio deall y difrod a wnaed i'w bywydau. Amhosib yw deall y cyfan. Ond fe fyddai'n annheg i'r cyn-athrawon oedrannus yn y gynulleidfa nos Wener i beidio cydnabod gwyrth Rhydfelen yn ogystal â'i gwarth. Ar Daf yr iaith a dyfodd. Mae Emyr Lewis yn dweud y peth yn well na fi.

Dof i wylo'n Rhydfelen - heb ei gweld
Pob gwers wedi gorffen
Pob hwyl pob egwyl ar ben
Dof i wylo'n Rhydfelen

Dof i arddel Rhydfelen - ai henw
a'i hanes heb orffen
Dof rhag angof gyda gwen
Dof i hawlio Rhydfelen

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.