Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Medi 2011

257, 221 a Radio Ceredigion

Vaughan Roderick | 09:49, Dydd Iau, 29 Medi 2011

Sylwadau (3)

Ar wahân i gael eich gwahodd i fod yn aelod o'r Orsedd bo brin fod 'na fwy o anrhydedd yn y Gymru Gymraeg na bod yn westai ar "Beti a'i Phobol". Mae codi'n fore i Bost Cyntaf yn fwrn a chyfrannu i Bost Prynhawn yn ddyletswydd. Mae bod mewn stiwdio gyda La Betisima ar y llaw arall yn fraint.

Ces i'r anhrhydedd honno'n ddiweddar a chewch glywed y sgwrs yn y dyfodol agos. Fel sy'n tueddu digwydd fe esgorodd y sgwrs ar ambell i atgof gan gynnwys un sy'n
berthnasol i rywbeth sy'n dipyn o bwnc llosg ar hyn o bryd.

Sôn oeddwn am weithio i orsaf radio Darlledu Caerdydd - gorsaf a oedd yn fagwrfa i giwed o ddarlledwyr Cymraeg gan gynnwys Sian Lloyd y tywydd, Eifion Jones, Gareth Charles ac Ian Gwyn Hughes. Draw yn y gorllewin roedd Sain Abertawe yn cynhyrchu pobol fel Glynog Davies, Garry Owen a Sian Thomas.

Fe ofynnodd Beti gwestiwn syml - y rheiny sy'n cael yr atebion gorau weithiau. "Pam oedd y ddwy orsaf yn cynhyrchu gymaint o raglenni Cymraeg?" oedd y cwestiwn. Roedd yr ateb yr un mor syml. "Roedd hi'n amod o'r drwydded" meddwn i heb feddwl ymhellach am y peth.

Ond arhoswch eiliad. Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd Iaith ac Ofcom yn cyflwyno tystiolaeth i Leighton Andrews ynghylch dadl rhyngddynt am ddyletswyddau'r rheoleiddiwr darlledu tuag at y Gymraeg. Mae'r Bwrdd yn mynnu nad yw cynllun iaith Ofcom yn ddigonol gan nad yw'n gorfodi i'r corff osod amodau ieithyddol wrth hysbysebu trwyddedi ddarlledu. Mae Ofcom yn mynnu nad oes ganddi'r hawl gyfreithiol i wneud hynny.

Mae'n anodd credu bod gan y Gymraeg statws is ym myd darlledu heddiw nac oedd ganddi ddeng mlynedd ar hugain yn ôl - cyn cyflwyno dwn i ddim i faint o fesurau a deddfau iaith a darlledu. Rwy'n cyfaddef nad wyf wed cribo trwyddyn nhw i gyd i wybod hyd sicrwydd bod hynny'n wir. Fe gawn wybod pan ddaw dyfarniad Leighton ynmhen ychydig fisoedd.

Yn y cyfamser mae Ofcom yn bwriadu ail-hysbysebu trwydded Radio Ceredigion heb amodau ieithyddol. Ar ôl llusgo traed gan eraill mae'r Gweinidog Addysg i'w ganmol am weithredu ynghylch y ffrae rhwng y Bwrdd Iaith ac Ofcom - ond oni ddylai fe hefyd ofyn am rewi'r broses drwyddedi yng Ngheredigion nes i'r mater gael ei setlo'r naill fordd neu'r llall?


Mili a'i Fand

Vaughan Roderick | 17:54, Dydd Mercher, 28 Medi 2011

Sylwadau (1)

Gwylio'r Gynhadledd Lafur o bell ydw i - neu yn achos araith yr arweinydd - gwrando o bell. Dwn i ddim beth aeth o le ar y ffid teledu ond mae'n enghraifft efallai o'r fath o anlwc sy'n gallu taro gwrthblaid o bryd i'w gilydd. Yr un anlwc mae'n debyg oedd yn gyfrifol am ddewis can gan "Florence and the Machine" i'w chwarae ar ddiwedd yr araith. Pwy oedd yn credu ei bod hi'n gymwys i'r geiriau yma daranu ar draws y neuadd wrth i'r arweinydd dderbyn cymeradwyaeth?

"Sometimes it seems that the going is just too rough
And things go wrong no matter what I do"

Mae hen ddigon o bobol eraill wedi dweud eu dweud am berfformiad Ed Miliband yn ei flwyddyn gyntaf fel arweinydd. Dydw i ddim am ychwanegu at y dadansoddiadau ac eithrio trwy ddweud un peth. Mae Llafur rMiliywsut wedi llwyddo i osgoi'r fath o ymgecru mewnol a ddaeth i'w rhan ar ôl colli grym yn 1951 ac eto yn 1979. I'r graddau y mae'r arweinydd yn gyfrifol am hynny gall y blaid bod yn ddiolchgar iddo. P'un ai fe yw'r gŵr i'w harwain yn ôl i rym yn San Steffan ai peidio - "pwy a ŵyr?" yw'r unig ateb synhwyrol ar hyn o bryd.

Daran Hill yn troi'n Nashi

Vaughan Roderick | 10:00, Dydd Iau, 22 Medi 2011

Sylwadau (3)

"Ar ôl clywed hyn i gyd - dwi'n teimlo y dylen ni gyd fynd lan ir Alban i ymgyrchu dros annibyniaeth gyda gyda Alex Salmond." Daran Hill a'i ddywedodd ar ddiwedd sesiwn frecwast yr oeddwn i'n cadeirio y bore ma i Sefydliad Bevan. Nawr yn groes i'r pennawd pryfoclyd dyw pennaeth Positif Politcs a chydlynydd ymgyrchoedd "Ie dros Gymru" 1997 a 2011 ddim yn brysur lawrlwytho caneuon gorau Dafydd Iwan tra'n cynllunio i baentio'r byd yn wyrdd.

Siarad oedd Daran ar ôl i Jane Hutt gyfaddef mai ystyriaethau gwleidyddol ynghylch yr Alban yw'r maen tramgwydd bob tro wrth geisio trafod unrhyw newid i fformiwla Barnett. Fe fyddai'r maen tramgwydd hwnnw'n diflannu wrth gwrs pe bai Alex Salmond yn cael ei ffordd.

Aeth Gerry Holtham, Cadeirydd y Comisiwn wnaeth ymchwilio i'r ffordd y mae Cymru'n cael ei hariannu ar ran y cynulliad gam ymhellach. Gallai Cymru fanteisio o weld yr Alban yn annibynnol meddai gyda San Steffan yn fodlon cynnig pob math o ddels i ddiogelu 'r hyn o'r Undeb oedd yn weddill. Nid y posibilrwydd o annibyniaeth i'r Alban oedd yn poeni Gerry ond opsiwn arall ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol ein cefndryd Celtaidd - yr hyn a elwir yn 'devo max'.

Yn ôl Gerry gellir crynhoi'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithio ar hyn o bryd trwy ddefnyddio'r hen arwyddair Marcsaidd "o bawb yn ôl eu gallu - i bawb yn ôl eu hangen". Gellir dadlau ynglŷn â'r mecanwaith a'r union symiau ond does neb erioed wedi herio'r egwyddor.

Fe fyddai 'devo max' yn chwalu'r egwyddor honno gan sicrhau bod y trethi a godwyd yn yr Alban yn aros yn yr Alban. O dan y fath amgylchiadau mae'n anorfod bron y byddai Lloegr yn mynnu'r un fath o driniaeth. Lle fyddai hynny'n gadael Cymru? Yn ôl Gerry fe fyddai'n wynebu'r holl broblemau ariannol a chyllidol y mae unoliaethwyr yn priodoli i annibyniaeth - ond heb fod yn annibynnol.

Diddorol - a dweud y lleiaf. Mae'n amlwg bod Daran MacHill yn credu hynny hefyd!

Cornel y Beirdd

Vaughan Roderick | 14:58, Dydd Mercher, 21 Medi 2011

Sylwadau (0)

Cyfraniad gan Siencyn, Bardd Llys y Blog

Bu aberth Cilybebyll - yn atgof,
un atgas a thywyll,
am a gostio gweithio'r gwyll
hyd arch y ceudod erchyll.

Addas a Phriodol

Vaughan Roderick | 15:39, Dydd Mawrth, 20 Medi 2011

Sylwadau (3)








Mae'r newyddiadurwyr wedi bod yn ôl y Bae ers rhai wythnosau ond heddiw mae'r rhan fwyaf o wleidyddion wedi dychwelyd i'r senedd. Os oedd unrhyw un ohonyn nhw wedi bod yn colli Carwyn Jones fe gafwyd dos ddwbl o'r Prif Weinidog yn y siambr y prynhawn yma. Cyn ei sesiwn gwestiynau arferol fe wnaeth Carwyn ddatganiad ynghylch y ddamwain yng ngwaith glo Gleision gan roi cyfle i aelodau dalu teyrngedau cwbwl addas a phriodol i'r dynion a'r timau achub.

Addas a phriodol. Haws dweud na gwneud.

Mae delio gyda digwyddiad o'r fath yn beth hynod o anodd i aelodau etholedig. Fel dywedodd Bethan Jenkins yn siambr heddiw does 'na ddim cynllun gwaith neu god ymddygiad i lywio ymddygiad cynrychiolwyr yn y fath amgylchiadau. Fe fyddai gwneud dim neu ddim digon yn ennyn beirniadaeth lem. Os gwnewch chi ormod mae 'na beryg y bydd pobol yn amau eich bod chi'n godro'r sefyllfa er mwyn sicrhau mantais wleidyddol.

Yn y cyd-destun hwnnw cafwyd ambell i sylw ciaidd a chwbwl annheg ynghylch Peter Hain a Bethan Jenkins am fod mor uchel eu proffil yn ystod y dyddiau wedi'r ddamwain.

Yn achos Peter mae peth o'r bai am y feirniadaeth arnom ni'r newyddiadurwyr am gyfeirio ato fel y "Llefarydd Llafur ar Gymru". Gwell yn y sefyllfa yma fyddai cyfeirio ato fel "Aelod Seneddol Castell Nedd" er mwyn gwneud ei rôl yn fwy eglur.

Mae Peter wedi cynrychioli Castell Nedd ers ugain mlynedd ac mae fe a'i deulu wedi bwrw gwreiddiau yno. Nid dyn a siwtces yw Peter ond arweinydd yn ei gymuned sydd wedi ei ethol droeon gyda mwyafrifoedd enfawr. Pwy gwell i siarad dros y gymuned ac i leihau'r baich ar y gwasanaethau achub trwy ymddangos ar sianel ar ôl sianel a gorsaf ar ôl gorsaf fel llefarydd ar ran yr ymdrech i achub y dynion?

Yn yr un modd treuliodd Bethan, sy'n byw yn ardal, oriau lawer yn rhoi cysur a chymorth i'r teuluoedd. Unwaith yn rhagor roedd yn gwbwl naturiol iddi siarad ar ran ei chymuned. Mae hynny'n rhan o rôl aelod etholedig.

Addas a phriodol.

Teg yw bod yn sinigaidd am wleidyddiaeth weithiau ond mae sinigiaeth rhai yn ystod y dyddiau diwethaf yn dweud mwy amdanyn nhw nac am y gwleidyddion yng Nghwm Tawe.

Cilybebyll

Vaughan Roderick | 11:36, Dydd Gwener, 16 Medi 2011

Sylwadau (0)

Fel bron pawb arall yng Nghymru mae'n meddyliau ni yma yn y Bae gyda'r rheiny yng Nghilybebyll gan ryfeddu efallai ein bod yn gorfod blasu o'r cwpan chwerw hwn yn yr unfed ganrif ar hugain.

Efallai bod rhai wedi synnu i ddarganfod bod gan Gymru ddiwydiant glo o gwbwl gan gofio'r sylw a roddwyd i gau'r Twr y pwll dwfn olaf. Fe ddaeth oes y pyllau i ben ar rostir Hirwaun ond mae 'na bedwar glofa'n dal i weithio un yn Nhorfaen ac Aberpergwm, Unity a Gleision yng Nghastell Nedd Port Talbot. Rhyngddyn nhw maen nhw'n cyflogi ychydig dros bedwar cant o ddynion.

Cyn y Streic fawr roedd 'na ryw ddwy fil ar hugain o lowyr yn gweithio ym maes glo'r de. Pan oedd y diwydiant ar ei anterth yn 1913 roedd 230,000 yn cael eu cyflogi. Mae'n ffigyrau noeth hynny'n dweud y cyfan ynghylch y rheswm am dlodi cymharol Cymru.

Rhai dyddiau cyn damwain Cilybebyll roedd David Melding ar Good Morning Wales yn dadlau dros annibyniaeth i'r Blaid Geidwadol Gymreig a newid ei henw. Un o ddadleuon David oedd y byddai plaid o'r fath, pe bai'n bodoli ar y pryd, wedi gallu dadlau yn erbyn y dinistr a ddaeth i'r diwydiant glo ar ôl y streic a dros broses hir o ddad-gomisynu pyllau dros gyfnod o ddegwadau fel y digwyddodd ynn Ngorllewin yr Almaen.

Roedd rhai yn dadlau'r achos hwnnw ar y pryd. Barn Cyfarwyddwr y Maes Glo - ac yn ddiweddarch cadeiydd cwmni Tower, Phillip Weekes, oedd bod angen cau oddeutu hanner y ddau ar hugain o lofeydd oedd yn bodoli ar ddechau'r streic er mwyn creu diwydiant cynaladwy. Does dim dwywaith bod pyllau llawer may addawol ac effeithlon na'r Twr wedi eu cau a hwnnw mewn modd oedd yn ymddangos ar adegau yn faleisus bron.

Mae dwy enghraifft o'r malais hwnnw'n aros yn y cof. Yn achos pwll y Marine yng Nglyn Ebwy cafwyd seremoni fawr i ddathlu cychwyn system gloddio newydd oedd wedi ei chomisiynu ar gost o filiynau o bunnau. O fewn byr o dro cyhoeddwyd bod y pwll i gau. Seliwyd y siafft gan adael yr holl offer drudfawr i rydu dan ddaear.

Pan gaewyd Aberpergwm dymchwelyd pob un adeilad ar wyneb y gwaith - yr ystafelloedd newid, y swyddfeydd, yr olchfa - popeth a hynny am ddim rheswm o gwbwl. Pan ail-agorwyd y gwaith gan lowyr lleol rhai blynyddoedd yn ddiweddarach roedd yn rhaid gweithio o gytiau pren a chabannau dros dro.

Beth bynnag ddigwyddodd i'r diwydiant yn yr wythdegau a beth bynnag yw ei gyflwr yn awr - un peth sy'n ddigyfnewid. Mae torri glo o grombil y ddaear wastad wedi bod yn fusnes caled a pheryglus. Mae Cilybebyll yn ein hatgoffa o hynny gan awgrymu efallai na ddylem alaru gormod am dranc y diwydiant glo nac hiraethu gormod am yr hen ffordd Gymreig o fyw.

Ffwdan y Ffed

Vaughan Roderick | 09:08, Dydd Iau, 15 Medi 2011

Sylwadau (1)

Diawch, mae Jonathan Edwards yn hoffi tynnu blew o drwyn! Efallai ei fod braidd yn amrwd fel gwleidydd ond, iesgob, mae'n dweud pethau diddorol. Fe achosodd ei ddoe ynghylch defnydd y cyfryngau o'r enwau "Llafur Cymru" a "Cheidwadwyr Cymru" gryn drafod yn y swyddfa ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni feddwl yn ei gylch. Y bore 'ma yn y mae Jonathan yn mynd cam ymhellach gan ddadlau y dylai esgyll "cenedlaethol" ac "unoliaethol" y blaid Lafur Gymreig wahanu.

Nawr, rwy'n gwybod o hir brofiad nad oes dim yn gwylltio pobol Llafur yn fwy nac honni bod ganddi ddwy asgell. Dim ond yr enw "Margaret Thatcher" sy'n gwneud mwy o niwed i'w pwysedd gwaed. Gwell efallai yw son am ddau draddodiad - traddodiad Aneurin Bevan a thraddodiad Jim Griffiths.

Mae gan Lafur bresenoldeb ym mhob rhan o Gymru. Yn wir gellid dadlau mae hi yw'r unig blaid sydd yn wirioneddol 'genedlaethol'. I raddau mae honiad Carwyn Jones mai Llafur yw "gwir blaid Cymru" yn fater o ffaith. Serch hynny mae ei datblygiad deallusol yn deillio bron yn llwyr o faes glo'r de ac mae'r gwahaniaethau rhwng y ddau draddodiad yn cychwyn yn gynnar iawn yn hanes y blaid.

Yn nwyrain y maes glo, asgell wleidyddol Ffederasiwn Glowyr De Cymru oedd y blaid Lafur. Rhyngwladoldeb ac undod y dosbarth gwaith oedd ei hefengyl.

Roedd y Ffed yn bwysig yn ardal y glo caled hefyd - roedd Jim Griffiths yn llywydd arni wedi'r cyfan. Ond roedd 'na ddylanwad arall ar ddatblygiad Llafur yng ngorllewin y maes glo. Y capeli oedd y dylanwad hwnnw. Roedd ciwed o weinidogion yr Annibynnwyr yn ardal y glo caled yn allweddol yn natblygiad yr ILP yn lleol. Roedd Niclas y Glais yn un ohonyn nhw. Roedd fy nhad-cu TM Roderick yn un arall. Gellir cael blas o'r cyfnod trwy wrando ar Gwenallt yn fan hyn.

Roedd y traddodiad hwn yn trysori Cymreictod a'r syniad o "werin". Mae pobol fel Carwyn Jones, Keith Davies a Gwenda Thomas wedi etifeddu'r traddodiad hwnnw.

Ond siomwyd rhai o'i sylfaenwyr yn ardal y glo caled gan Lafur. Wedi ei dadrithio mudodd rhai i'r blaid Gomiwnyddol ac eraill i Blaid Cymru. Pobol fel Jonathan ac Adam Price yw eu hetifeddion.

Nawr, mae Jonathan yn llygad ei le nad oes 'na fawr yn gwahaniaethu daliadau gwleidyddol rhai o fewn y blaid Lafur ac asgell chwith Plaid Cymru . Yn wir ar adegau mae'n rhaid ceisio creu gwahaniaethau ffug trwy ffetisheiddio annibyniaeth ar y naill ochor neu esgus bod yn "falch o fod yn Brydeiniwr" ar y llall.

Serch hynny mae'r syniad y gallai Llafur wahanu yn freuddwyd gwrach. Ar y cyfan nid ideoleg sy'n gwahaniaethu'r pleidiau yng Nghymru ond ymlyniad llwythol. Mae unrhyw un sy'n disgwyl i hynny newid yn y dyfodol agos yn amrwd a dweud y lleiaf!

Jim Cro Crystyn

Vaughan Roderick | 11:36, Dydd Mercher, 14 Medi 2011

Sylwadau (0)

Yn wahanol i'r Unol Daleithiau dyw'r term "voter suppression" ddim yn un sy'n gyfarwydd iawn i bobol y gwledydd yma. Efallai bod hynny ar fin newid.

Fe ddechreuodd yr arfer yn nhalaethiau deheuol yr UDA ar ôl y rhyfel cartref. O ganlyniad i fuddugoliaeth gwyr y Gogledd gorfodwyd i'r taleithiau deheuol ganiatáu i bobol ddu, neu yn hytrach dynion duon, bleidleisio. "Voter suppression" oedd y dulliau a ddefnyddiwyd i rwystro'r bobol hynny rhag cofrestri. Yn amlach na pheidio roedd 'na ymdrech i roi wyneb parchus ar yr arfer trwy ei alw'n brawf llythrennedd neu brawf gwybodaeth. Gallwch weld un o'r rheiny yn .

Weithiau roedd y peth yn gwbwl ddigywilydd gan ofyn ,er enghraifft, i bobol faint o losin oedd mewn jar neu fygwth diswyddo person am gofrestri. Fe gafodd y profion eu gwahardd gan y "Voting Rights Act" yn 1965 - un un o fuddugoliaethau mawr yr ymgyrch hawliau sifil. Yn ogystal fe osododd y Mesur etholiadau yn y rhan fwyaf o daleithiau'r de ac ambell i sir a thref arall o dan oruchwyliaeth ffederal. Yn 2006 arwyddodd George W Bush orchymyn yn ymestyn yr oruchwyliaeth honno am chwarter canrif arall.

Roedd 'na reswm da dros wneud hynny. Mewn sawl talaith nad yw'n cael eu goruchwylio mae mesurau wedi eu cyflwyno i wneud hi'n anoddach i bleidleisio trwy, er enghraifft, ofyn i bleidleiswyr ddangos trwydded yrru. Yn anorfod bron y bobol dlotaf a mwyaf difreintiedig sy'n cael eu heffeithio ac mae hynny'n cynnwys canran uchel o bobol ddu - pleidleiswyr mwyaf ffyddlon y Democratiaid. "Voter Fraud measures" yw term y Gweriniaethwyr am y mesurau hyn. "Voter Suppression" yw term y Democratiaid.

Ym Mhrydain dros y ddegawd ddiwethaf mae sawl achos wedi cyrraedd y llysoedd lle cofrestrwyd etholwyr ffug - hynny yn bennaf mewn wardiau a chanran uchel o leiafrifoedd ethnig. Dim ond achosion amlwg sydd wedi arwain at achosion llys. Does wybod felly pa mor gyffredin yw'r broblem ond er mwyn ceisio eu datrys fe fydd system lle fydd unigolion yn gorfod cofrestru yn hytrach na chofrestri fesul cartref yn cael eu cyflwyno yn 2014.

Mae darn hynod o bwysig o waith ymchwil ynghylch y newid wedi ei gyhoeddi gan Brifysgol Abertawe heddiw. Dengys hwnnw bod y canran o etholwyr sydd wedi eu cofrestri wedi gostwng o 95% i oddeutu 91% heddiw. Yng Ngogledd Iwerddon lle cyflwynwyd cofrestru unigol rhai blynyddoedd yn ôl mae'r nifer sy'n cofrestru wedi gostwng i 82% erbyn hyn - a hynny mewn talaith sydd yn draddodiadol yn hynod wleidyddol.

Does dim angen bod yn broffwyd i synhwyro ein bod yn wynebu sefyllfa lle na fydd enwau hyd at chwarter yr etholwyr ar y cofrestri etholiad.

Yn ystod yr etholiadau lleol yma yng Nghymru yn 2008 fe ymchwiliodd yr heddlu i bum achos o dwyll etholiadol. Hyd y gwn doedd dim un achos llys.

Mae 'na gwestiynau difrifol iawn yn fan hyn. Ydyn ni ar fin "llifio coes i leddfu clwyf" gan achosi llawer mwy o niwed i'n democratiaeth nac ambell i ddihiryn yn ceisio bwrw mwy nac un bleidlais? Wedi'r cyfan pa fath o "gymdeithas fawr" sy'n cau miloedd o'i phobol fwyaf difreintiedig allan o'i gorsafoedd pleidleisio?

Mae'r adroddiad llawn yn ac os ydych chi'n pendroni ynghylch y pennawd mae'r esboniad yn a fan hyn!

Llethrau llithrig

Vaughan Roderick | 09:44, Dydd Mawrth, 13 Medi 2011

Sylwadau (0)

Neil Kinnock, rwy'n meddwl, gwnaeth fathu'r dywediad y "slippery slope to separation" yn ôl yn y saithdegau fel rhan o'i ymgyrch lwyddiannus i drechu cynlluniau datganoli llywodraeth Jim Callaghan.

Heb os roedd 'na elfen reddfol yn ymwneud ac iaith a chenedligrwydd ynghlwm ac ymateb Neil i'r cynlluniau ond doedd ei ddadl ddim yn ddisylwedd. Nid gwrthwynebu datganoli fel y cyfryw oedd Neil ond datganoli anghymesur. Heb ateb digonol i gwestiwn West Lothian roedd y llwybr llithrig i rywbeth yn dechrau gyda 'll' yn anorfod.

Mae Neil wedi dewis cadw'n dawel ynghylch datganoli ers rhai degawdau bellach gan ddangos hunan ddisgyblaeth annisgwyl efallai! Serch hynny mae'n anodd credu na fyddai'n gweld datblygiadau diweddar yng Nghymru a'r Alban fel cyfiawnhad o'i safiad fel gwr ifanc.

Nid bod dadl y llwybr llithrig wedi diflannu'n llwyr. Ceir adlais ohoni yn y gwrthwynebiad o fewn y Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur yng Nghymru i'r fath o newidiadau strwythurol sy'n cael eu hystyried gan eu cefndryd Albanaidd. Coeliwch neu beidio mae'r un peth yn wir yn y Blaid Werdd gyda Gwyrddion Cymru yn mynnu dal llaw plaid Lloegr yn hytrach na thorri cwys annibynnol fel Gwyrddion yr Alban.

Does dim brys mawr i benderfynu beth yw dyfodol y berthynas rhwng y pleidiau Cymreig a'r rhai Prydeinig neu Seisnig. Yn wir gellid dadlau y byddai 'na fanteision mewn oedi i weld canlyniadau'r broses yn yr Alban ac argymhellion Calman Cymru cyn cyrraedd penderfyniad.

Mae'r cwestiwn o p'un ai i seilio'i drefniadaeth leol ar etholaethau'r Cynulliad neu rai newydd San Steffan ar y llaw arall yn un fydd yn rhaid ei ateb yn weddol o fuan. Ysgrifennais wythnos ddiwethaf ynghylch y ffordd y mae ail gymal y Cyfansoddiad Llafur yn clymu dwylo'r blaid yng Nghymru. Does dim bwriad ar hyn o bryd i newid y cymal hwnnw ond dyw hen bennau Llafur ddim yn credu y byddai hynny'n broblem pe bai'r blaid Gymreig yn dymuno hynny.

Yn y cyfamser mae'n debyg y bydd y pleidiau oedi er mwyn gweld argymhellion Calman Cymru cyn gwneud penderfyniadau terfynol. Pe bai hwnnw'n arghymell cynyddu nifer y seddi rhestr ar draul yr aelodau etholaeth fe fyddai hynny'n datrys y broblem - er go brin y byddai Llafur yn croesawu hynny.

Yr hen ogledd

Vaughan Roderick | 13:55, Dydd Mercher, 7 Medi 2011

Sylwadau (0)

Yfory fe fydd aelodau Plaid Cymru yn cychwyn am Landudno ar gyfer ei chynhadledd flynyddol. Yn ôl yr arfer heddiw gafodd aelodau'r wasg y cyfle i gwrdd am sgwrs rhag blaen gyda'i harweinydd. Roedd yn rhyfedd sylweddoli mai hwn oedd y tro olaf i ni gyflawni'r ddefod fechan hon - gyda'r deiliad presennol o leiaf. Beth bynnag yw'r beirniadaethau o Ieuan Wyn Jones gall neb amau ei ddycnwch na'i allu i ddal ei afael ar awenau ei blaid.

Fel y gellid disgwyl ar drothwy ei gynhadledd olaf fel arweinydd roedd Ieuan mewn hwyliau meddylgar gan edrych yn ôl dros gyfnod ei arweinyddiaeth ac yn gwneud ambell i awgrym ynghylch y ffordd ymlaen i'w blaid a'i wlad.

Yr hyn oedd yn synnu fi ynghylch sylwadau Ieuan am ddatblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru oedd ei fod fel pe bai yn cymryd yn ganiataol na fyddai 'na bleidlais "Ie" yn y refferendwm annibyniaeth sydd i'w gynnal yn yr Alban. Pan ofynnais iddo a oedd e wedi meddwl pa ffurf fyddai ar wladwriaeth newydd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon pe bai'r Alban yn torri ei chwys ei hun "nac ydw, mewn gwirionedd" oedd yr ateb.

Dyw Ieuan ddim yn unigryw yn hynny o beth. Mae 'na ryw fath o deimlad cyffredinol ymhlith gwleidyddion Cymru na fydd yr Albanwyr ar ddiwedd y dydd yn dewis annibyniaeth. Wel, fel oedd Rhodri Morgan mor hoff o ddweud "denial isn't just a river in Egypt". Wedi'r cyfan mae Alex Salmond wedi cyflawni'r "amhosib" mewn dau etholiad Albanaidd o'r bron ac am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd yn ôl un arolwg barn mae'r ochr "Ie" a'i thrwyn ar y blaen.

Nawr efallai ei bod hi'n bosib deall amharodrwydd unoliaethwyr i gyfaddef iddyn nhw hun ei bod hi'n bosib bod dyddiau'r undeb y maen nhw mor hoff ohono yn dirwyn i ben. Mae'n anodd deall pam nad yw cenedlaetholwyr Cymreig yn cofleidio'r posibilrwydd a'r cyfleoedd allai cael eu creu.

Efallai bod 'na elfen o eiddigedd ynghylch y peth neu deimlad o gywilydd efallai o sylweddoli bod datgan eich safbwynt yn glir a dadlau drosto yn fwy effeithiol na chuddio'ch prif amcan yng nghrombil y maniffesto.

Cur pen Carwyn

Vaughan Roderick | 09:18, Dydd Mawrth, 6 Medi 2011

Sylwadau (0)

Mae 'na sawl rheswm mae'n sicr am ganlyniadau Etholiad yr Alban yn gynharach eleni. Dydw i ddim yn arbenigwyr ar y rhesymau y gwnaeth yr SNP mor dda a Llafur mor wael. Mae 'na ambell i gliw efallai ar safle "" gwefan a sefydlwyd gan yr aelod Seneddol Tom Watson i drafod dyfodol y blaid yn sgil trychineb mis Mai. Dyma i chi flas o'r drafodaeth o'r post diweddaraf gan Lafurwr amlwg.

"Obviously we presented the victory to them on a plate. We didn't take the election seriously; we had no proper policy platform of our own; some of our candidates could only be voted for by people who were completely ignorant of them personally; no-one had heard of our candidate for First Minister; and those who had didn't believe him to be up to the job."

Mae'n thema gyson ar "Labour Hame" mai Llafur gollodd yr etholiad yn hytrach nid yr SNP wnaeth ei hennill. Mae 'na hefyd gymariaethau cyson rhwng llwyddiant y Blaid yng Nghymru a'i methiant yn yr Alban. Cyn i aelodau Llafur Cymru frolio gormod am eu clyfrwch a'u trefniadaeth mae'n werth nodi bod gan Llafur yr Alban anfantais strwythurol enfawr yn yr etholiad o gymharu â Llafur Cymru - anfantais y mae'r blaid Gymreig ar fin ei hefelychu.

Ail gymal cyfansoddiad y blaid - y cymal sy'n dylunio trefniadaeth leol y blaid yw'r drwg yn y caws. Dyma mae'n ei ddweud.

The party shall be organised on the following basis:

(a) In every Westminster parliamentary constituency there shall be established a unit of the party, to be known as a 'constituency labour party' or 'CLP'

Does dim ffordd o gwmpas y peth. Heb newid y cyfansoddiad doedd dim modd i Lafur yr Alban lunio'i threfniadaeth ar sail etholaethau Holyrood. Rhaid oedd glynu at drefn lle'r oedd y pwyllgorau etholaeth yn seiliedig ar etholaethau San Steffan - er bod y rheiny yn hanesyddol y llawer llai cystadleuol na'r rhai Albanaidd.

Ymladdwyd yr etholiad felly ar sail trefniadaeth ad-hoc, dros dro. Dyna mae'r post uchod ar "Labour Hame" yn golygu wrth sôn am beidio cymryd yr etholiad o ddifri.

Doedd Llafur Cymru ddim yn wynebu'r un broblem eleni ond fe fydd hi y tro nesaf os daw'r newidiadau i ffiniau etholaethau San Steffan i rym ac oni cheir newid yn system etholiadol y Cynulliad neu gyfansoddiad y Blaid Lafur. Dyw naill na'r llall yn edrych yn debygol ar hyn o bryd.

Ydy hi'n bryd i Carwyn gael ei "Clause Two moment"?

Carl a'r Cynghorau

Vaughan Roderick | 10:08, Dydd Iau, 1 Medi 2011

Sylwadau (0)

Dyma i chi gyffro! Mae ad-drefnu llywodraeth leol yn ôl yn y newyddion a'r pendil yng Nghymru yn symud tuag at ganoli ar yr union adeg y mae'r pendil yn Lloegr yn symud i'r cyfeiriad arall. Beth sy 'na i ddweud na ddywedyd eisoes a ble mae dechrau wrth drafod y pwnc hwn?

Wel, beth am ddechrau yn y darn bach o swbwrbia Caerdydd lle ces i fy magu a mynd yn ôl i'r flwyddyn 1081 - ymhell cyn i Gymdeithas y Pentrefi Gardd, Barratt Homes a Wimpy gael gafael ar diroedd yr Eglwys Newydd a Rhiwbeina?

1081 oedd y flwyddyn pan gododd y Normaniaid eu castell newydd yng nghanol Caerdydd ond bychan oedd y drefedigaeth newydd a chyfyng ei hawdurdod hyd yn oed ar ôl lladd Tywysog olaf Morgannwg yn 1093. Os ydy'r chwedloniaeth yn gywir yn ystod brwydr yn Rhiwbeina mewn cae wrth ymyl fy nghartref teuluol y digwyddodd tranc Iestyn ap Gwrgant. Coeliwch neu beidio pan oeddwn i'n grwt roedd y Ceidwadwyr lleol yn trefnu digwyddiad blynyddol i ddathlu'r digwyddiad hwnnw!

Nid bod marwolaeth Iestyn wedi gwneud llawer o wahaniaeth i bobol y cylch. Fe barodd yr ardal i fod yn rhan o Arglwyddiaeth Senghennydd gan gael ei gweinyddu trwy ddeddfwriaeth Gymreig am ganrifoedd ar ôl hynny. Yn 1316, deng mlynedd ar hugain ar ôl cwymp tywysogion Gwynedd arweiniodd Llywelyn Bren o Felin Grufydd wrthryfel gwyr Morgannwg i amddiffyn y breintiau hynny.

Beth sydd a wnelo hyn oll ac ad-drefnu llywodraeth leol? Wel, fe barodd yr hollt rhwng gweddill Caerdydd a'i phlwyf mwyaf gogleddol am gyfnod maith iawn - hyd fy nyddiau i mewn gwirionedd. I Neuadd y Dref Caerdydd y byddai Dad yn mynd i dalu'r trethi lleol nid i Neuadd y Ddinas a Chyngor Dosbarth Gwledig Caerdydd a Chyngor Sir Morgannwg nid Cyngor Dinas Caerdydd oedd ein cynghorau ni.

Doedd dim synnwyr o gwbl yn perthyn i'r peth a doedd dim synnwyr wedi perthyn iddo am ganrifoedd ond i genedlaethau o wleidyddion roedd potsio gyda threfniadau llywodraeth leol o fwy o ddrwg nac o werth.

Ceisiwyd dod o hyd i bob math o ffyrdd i wneud i'r hen drefn weithio cyn i Ysgrifennydd Cymru Peter Thomas benderfynu mai digon oedd digon a bod yn rhaid i bethau gwallgof fel y Sir Fflint wasgaredig ddiflannu.

Ar y cyfan roedd y drefn a gyflwynwyd yn 1973 yn ddigon synhwyrol. Roedd ambell i Gyngor Dosbarth yn rhy fach ond roedd y drefn o wyth Cyngor Sir a thrideg saith Cyngor Dosbarth yn gymharol effeithlon.

Y siroedd oedd yn gyfrifol am y gwasanaethau mawrion ac i bob pwrpas yr un fyddai rôl y grwpiau rhanbarthol y mae Carl Sargeant yn dymuno gweld yn cael eu creu. Fe fyddai rôl y cynghorau unigol yn ddigon tebyg i rôl yr hen gynghorau dosbarth.

Y broblem amlwg da'r cynllun yw'r peryg o ddiffyg tryloywder ac atebolrwydd. Fe fydd yn rhaid i'r llywodraeth roi llawer mwy o gig ar esgyrn y cynllun hwn cyn i gynghorwyr nac ethiolwyr ei lyncu.

Yn y cyfamser mae'n ymddangos bod mwy a mwy o gynghorwyr yn dod i'r un casgliad ac arweinydd Gwynedd, Dyfed Edwards - os ydych chi eisiau adrefnu - er mwyn y nefoedd adrefnwch!


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.