Daran Hill yn troi'n Nashi
"Ar ôl clywed hyn i gyd - dwi'n teimlo y dylen ni gyd fynd lan ir Alban i ymgyrchu dros annibyniaeth gyda gyda Alex Salmond." Daran Hill a'i ddywedodd ar ddiwedd sesiwn frecwast yr oeddwn i'n cadeirio y bore ma i Sefydliad Bevan. Nawr yn groes i'r pennawd pryfoclyd dyw pennaeth Positif Politcs a chydlynydd ymgyrchoedd "Ie dros Gymru" 1997 a 2011 ddim yn brysur lawrlwytho caneuon gorau Dafydd Iwan tra'n cynllunio i baentio'r byd yn wyrdd.
Siarad oedd Daran ar ôl i Jane Hutt gyfaddef mai ystyriaethau gwleidyddol ynghylch yr Alban yw'r maen tramgwydd bob tro wrth geisio trafod unrhyw newid i fformiwla Barnett. Fe fyddai'r maen tramgwydd hwnnw'n diflannu wrth gwrs pe bai Alex Salmond yn cael ei ffordd.
Aeth Gerry Holtham, Cadeirydd y Comisiwn wnaeth ymchwilio i'r ffordd y mae Cymru'n cael ei hariannu ar ran y cynulliad gam ymhellach. Gallai Cymru fanteisio o weld yr Alban yn annibynnol meddai gyda San Steffan yn fodlon cynnig pob math o ddels i ddiogelu 'r hyn o'r Undeb oedd yn weddill. Nid y posibilrwydd o annibyniaeth i'r Alban oedd yn poeni Gerry ond opsiwn arall ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol ein cefndryd Celtaidd - yr hyn a elwir yn 'devo max'.
Yn ôl Gerry gellir crynhoi'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithio ar hyn o bryd trwy ddefnyddio'r hen arwyddair Marcsaidd "o bawb yn ôl eu gallu - i bawb yn ôl eu hangen". Gellir dadlau ynglŷn â'r mecanwaith a'r union symiau ond does neb erioed wedi herio'r egwyddor.
Fe fyddai 'devo max' yn chwalu'r egwyddor honno gan sicrhau bod y trethi a godwyd yn yr Alban yn aros yn yr Alban. O dan y fath amgylchiadau mae'n anorfod bron y byddai Lloegr yn mynnu'r un fath o driniaeth. Lle fyddai hynny'n gadael Cymru? Yn ôl Gerry fe fyddai'n wynebu'r holl broblemau ariannol a chyllidol y mae unoliaethwyr yn priodoli i annibyniaeth - ond heb fod yn annibynnol.
Diddorol - a dweud y lleiaf. Mae'n amlwg bod Daran MacHill yn credu hynny hefyd!
SylwadauAnfon sylw
Vaughan - dyw hyn ddim yn gysylltiedig a'ch post diweddar ac dwi'n siwr nad arnoch chi mae'r bai ond pam fod gennych ddolen i flog Betsan tra nad oes dolen atoch chi bellach ar ei blog hi? Diflannod y ddolen pan gafodd ei thudaleni hi, ynglyn a holl dudalenni newyddion Â鶹Éç Wales eu hailwampio. Afraid dweud bod Newyddion Â鶹Éç Cymru yn dal i hercian ymlaen gyda'r hen ddiwyg.... Enghreifftiau o wrth Gymreicdod sefydliadol y Bîb?
Dydw i ddim yn gwybod i'r cwestiwn am y dolenni. Fe wna i ofyn. Fe fydd na newidiadau i ddiwyg y gwefan Cymraeg yn weddol o fuan o'r hyn rwy'n deall.
Efallai mai'r cwestiwn i Darran Hill a'i gyd-Lafurwyr, yw 'Beth yw pwynt Llafur Cymru'? Mae fel byw yng nghyfnod Brezhnev wrth iddynt rheoli'r stagnation a'r managed decline.
Da iawn i'r Albanwyr am bleidleisio dros blaid genedlaetholaidd nid drips y Blaid Lafur.