Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rogers a Ron

Vaughan Roderick | 16:05, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

_42842757_peterrogers203bbc.jpgMae Peter Rogers wedi cadarnhau i'r Â鶹Éç ei fod yn bwriadu sefyll ar Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol os nad yw amseriad triniaeth feddygol yn rhwystro hynny. Dewis Ceidwadwyr yr ynys sy'n gyfrifol am benderfyniad Peter. "Nid Ynys Môn yw'r lle i hyfforddi Torïaid amhrofiadol" meddai. Newyddion drwg i'r Ceidwadwyr felly ac ychydig o glec i Blaid Cymru. Fe fydd Albert yn codi gwydred heno.
_203759_druid_150.jpg
Yn y cyfamser mae ffynonellau o fewn Plaid Cymru yn awgrymu bod y Western Mail yn llygaid ei le wrth awgrymu y bydd Ron Davies yn sefyll fel ymgeisydd y blaid yng Nghaerffili yn etholiad y Cynulliad. Ond beth am y rheol yna ynghylch bod yn aelod o Blaid Cymru am flwyddyn cyn cael sefyll- y rheol oedd yn gymaint o rwystr pan soniwyd am y posibilrwydd y gallai Angharad Mair sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?

Mae'n ymddangos y gallai'r "rheol" fod yn "hyblyg". Weithiau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:24 ar 26 Ionawr 2010, ysgrifennodd Haydn Hughes:

    Mae mwy na blwyddyn i fynd tan etholiadau'r Cynulliad, siawns.

  • 2. Am 17:43 ar 26 Ionawr 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ond nid tan y gynhadledd ddewis

  • 3. Am 20:23 ar 26 Ionawr 2010, ysgrifennodd dewi Thomas:

    Bloody brilliant, os fysa Dafydd Wigley yn dod nol hefyd fel Arweinydd mi fysa'r Blaid hefo'r A-team. Yna cael gwared a Ieuan a dwi'n siwr gall blaid Cymru adlewyrchu llwyddiant yr SNP yn yr Alban.

    Erioed yn meddwl bod Ron yn Welsh-Nat chwaith?

    Pwy nesa? Rhodri?

  • 4. Am 20:36 ar 26 Ionawr 2010, ysgrifennodd dewi Thomas:

    Sori i ysgrifennu eto!

    Ond dwi o hyd yn flin hefo "dewisadau" Plaid Cymru. Mae o fel bod HQ hefo ryw neges siopa i ticio off
    -"we need two young women" - Bethan Jenkins, Nerys Evans
    -"we need a minority"- Mohammad Ashgar

    ...and oh yes get one or two people who've actually done something in their lives and do have true Plaid principles.
    ayyb

    ----
    Ond wir i chi Vaughan, dwi ddim yn ffan o gwbwl ar Bethan Jenkins, yn enwedig ar ol darllen rhai o'i pethau hi ar twitter- y ffordd odd hi'n siarad am Ashgar. Ond yn fwy na hynny, pwy ydy hi i barnu pobl eraill, dwi wedi chwilio a chwilio a allai ddim gweld DIM o be ma hi wedi wneud i'r blaid "bloody nothing". Yr oll mae hi wedi bod ydy myfyriwr yn Aber, ac yn pennaeth yr Undeb. Ond heb law am hynny- not a thing. Sut all hi cynrychioli busnesau lleol? neu rywun sydd wedi gweithio mewn swydd?. Allaim diodde hi.

    A i fod yn onesd allaim diodde be mae HQ yn Atlantic Wharf, Bae Caerdydd yn wneud i'r Blaid. Mae nhwn troi yn rhy debygl i'r ffordd maer ceidadwyr yn dewis eu ymgeiswyr yn Llundain. RHAID i nhw gael pobl sydd wedi acutally gwneud rwbath hefoi bywydau, pobl sydd hefo asgwrn cefn a pobl hefo charisma. Mewn dwy air- Dafydd Wigley x60 mae nhw eisiau.

    Ond rhaid i fi ddweud dwi yn ffan o'r gweinidog materion gwledig ac hefyd Helen Mary- mae'r ddwy yn top notch. Ond Ieu, yndi mae'n ddyn neis ond rhaid dweud mae'n useless.

    Daf.El- dwi dal ddim yndeall PAM nath o gymryd set yn Ty'r Arglwyddi?

    ------
    Ond ydyr blaid wedi dysgu gwers- na.... edrychwch ar rhai o'i ymgeiswyr ir etholiad cyffedinol. Llond llaw ohonyn yn genod ifanc heb neud dim byd i'r blaid, i gymru na chymdeithas.
    ------

    Sori am "comment" hir!

  • 5. Am 09:04 ar 27 Ionawr 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dewi, dwi'n cytuno efo lot o be ti'n ei ddweud (ddim popeth chwaith) ond dwi'n anghytuno ar y pwynt olaf yn fawr. Does gan Blaid Cymru ddim gobaith mul o ennill yn 33 o seddau Cymru, felly mae cael pobl ifanc fel ymgeiswyr yn ffordd dda o roi profiad o ymgyrchu iddynt. Mae hynny o les i'r Blaid.

    Dwi'n 24 oed a dwi'n falch ofnadwy o weld bod 'na bobl ifanc yn y Cynulliad - dwi'n meddwl bod Nerys Evans yn arbennig wedi serennu a'i bod hi'n llawer mwy effeithiol a galluog na rhai o 'fawrion' y Blaid.

    Mae profiad yn wych mewn gwleidydd. Ond dydi o'n ddim o'i gymharu â medrusrwydd, gwaith caled ac egwyddorion - y rheini, nid oedran, sy'n bwysig mewn gwleidyddiaeth.

  • 6. Am 17:58 ar 27 Ionawr 2010, ysgrifennodd harri bach:

    Mae na elfen beryg o wrth-ferched yn sylwadau arwynebol Dewi. Fel Hogyn o Rachub, dwi'n gweld Nerys yn wir seren y dyfodol ond dwi hefyd yn credu fod Bethan wedi ennill ei phlwyf yn effeithiol drwy ymgyrchu dros materion sydd o bwys i lawer iawn o bobol ifanc. Mae ei defnydd o Twitter hefyd yn nodweddiadol o don newydd o ymgyrchu ac mae hi'n ceisio cysylltu'n fwy uniongyrchol gyda;i etholwyr na sawl un.
    O ran Ron a Wigley yn anffodus, dwi'n credu fod dyddiau gorau'r ddau wedi hen basio a bod hi'n hen bryd i ni edrych i'r dyfodol ac nid y gorffennol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.