Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Adenydd Colomen Pe Cawn

Vaughan Roderick | 15:02, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

BigglesMissions.jpgMae pŵer y blog yma'n rhyfeddu dyn weithiau. Ddydd Gwener fe wnes i adrodd hanesyn bach am y ffordd y gwnaeth "IeuanAir" lwyddo i golli bagiau teithwyr rhywle rhwng y Fali a Chaerdydd*. O fewn dyddiau roedd dyfodol cwmni Highland Airways yn y fantol ac amheuon yn cael eu codi am ddyfodol y gwasanaeth. Nid fi oedd ar fai, onest!

Ta waith, gellir synhwyro nad y gwasanaeth Cymreig sydd wrth wraidd problemau'r cwmni o gymryd bod ei reolwyr wedi gwneud eu symiau'n iawn yn y lle cyntaf. Mae'r gwasanaeth yn cario mwy o deithwyr na'r disgwyl ac roedd y cwmni yn gwybod beth oedd lefel y cymhorthdal a phrisiau'r tocynnau i fod wrth arwyddo'r cytundeb a Llywodraeth y Cynulliad. Mae'n anodd coelio felly nad yw'r gwasanaeth yn talu ei ffordd i Highland Airways.

Mae p'un ai ydy'r gwasanaeth yn un gwerth chweil o safbwynt y trethdalwr yn fater arall wrth reswm. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwrthwynebu'r gwasanaeth o'r cychwyn gan ddadlau bod y cymhorthdal o ryw £84 y teithiwr yn wastraffus a bod y gwasanaeth yn groes i amcanion amgylcheddol y Llywodraeth. Dyw hi ddim yn syndod bod y blaid wedi achub ar y cyfle i ymosod ar y gwasanaeth unwaith yn rhagor yn sgil trafferthion Highland Airways.

Dim ond sinig byddai'n amau y byddai lein y Democratiaid Rhyddfrydol yn wahanol pe bai Môn neu Arfon yn uwch ar eu rhestr targedau. Yn yr un modd fe fyddai'n rhaid bod yn sinigaidd iawn un i amau bod ymrwymiad Llafur a Phlaid Cymru i'r gwasanaeth ynghlwm a sefyllfaoedd gwleidyddol Albert Owen ac Ieuan Wyn Jones!

Beth bynnag yw'r cymhellion dyw safbwyntiau pleidiau'r llywodraeth ddim yn debyg o newid yn sgil y datblygiadau diweddaraf. Yn ôl un ddylai wybod pe bai Highland Airways yn mynd i ddwylo'r derbynwyr mae 'na siawns go dda y byddai'r rheiny yn cynnal y gwasanaeth. Pe na bai hynny'n digwydd fe fyddai'n bosib sicrhau contractwr arall "o fewn dyddiau" yn ôl y Llywodraeth.

Yn y cyfamser mae Cyngor Ynys Môn yn chwilio am i baratoi adroddiad ar ddatblygu rhagor o wasanaethau o'r Fali. I fyny bo'r nod!

*Roedd y bagiau yn nhÅ· bach yr awyren trwy'r amser!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.