Dyddiad o'r diwedd
Fe fydd y Cynulliad yn trafod adroddiad Confensiwn Syr Emyr ar y nawfed o Chwefror. Cyhoeddodd Carwyn Jones hynny'r bore 'ma gan fynnu nad dadl ddiystyr i nodi'r adroddiad fydd yn cael ei chynnal.
Yn ôl y prif weinidog mae'n benderfynol o gynnal pleidlais ar y nawfed ac mae'n rhaid i'r bleidlais honno "symud y broses ymlaen". Ond ydy hynny'n golygu y bydd y bleidlais yn un sy'n unol a chymal 103 o ddeddf llywodraeth Cymru- hynny yw pleidlais i alw refferendwm?
Yn ôl y llywodraeth mae hynny dibynnu ar drafodaethau gyda'r ddwy wrthblaid gan fod angen mwyafrif o ddwy ran o dair er mwyn cymeradwyo cais swyddogol.
Does dim dwywaith y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi cais swyddogol. Fe fyddai hynny'n ddigon o safbwynt sicrhau'r mwyafrif angenrheidiol ond gyda'r posibilrwydd o lywodraeth Geidwadol yn San Steffan mae'n amlwg bod y llywodraeth am sicrhau cefnogaeth y Torïaid hefyd.
O safbwynt y Ceidwadwyr mae'n debyg y bydd na bleidlais rydd. Serch hynny y disgwyl yw y byddai 'na unfrydedd barn o blaid cynnal referendwm yn yr hydref.
SylwadauAnfon sylw
Croeso nol Vaughan! Mae yna rhyw eironi rhyfedd bod y ddadl yn digwydd union ddeng mlynedd ers ymddiswyddiad dramatig y Prif Ysgrfennydd cyntaf Alun Michael