Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Blwyddyn newydd hwyr

Vaughan Roderick | 09:18, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Reit. Dyma fi yn ôl felly. Rwy'n casglu bod hi wedi bod yn oer yma!

Dydw i ddim am sgwennu traethawd am fy ngwyliau. Fe wna i adael hynny i ddisgyblion TGAU! Serch hynny, fe ddysgais i ambell i beth tra roeddwn i bant. Dyma rai ohonyn nhw.

1. Mae grym y Saesneg yn gythreulig o anodd i wrthsefyll. Trist oedd clywed hysbysebion radio ym Malaysia yn cymell pobol i ddefnyddio'r iaith genedlaethol. Oes angen dweud taw Saesneg oedd iaith yr hysbysebion?

2. Mae Amgueddfeydd Melbourne yn defnyddio mwy o Gymraeg yn eu hadnoddau rhyngweithiol na rhai Llundain.

3. Mae llywodraeth Tasmania mewn trafferthion yn sgil cwymp arswydus yng nghyraeddiadau addysgol ar yr ynys. Daeth y cwymp yn sgil ddiddymu dosbarthiadau 6 traddodiadol yn er mwyn cynnig "rhagor o ddewisiadau i ddisgyblion 16+". Y plant tlotaf a lleiaf academaidd sydd wedi dioddef fwyaf. Dim ond dweud.

Ta beth mae 'na glasur o flwyddyn wleidyddol o'n blaenau. Fe fydd 'na un, ac efallai dau, etholiad cyffredinol, refferendwm, o bosib, ac mae etholiad cynulliad ar y gorwel. Bant a ni, felly!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:21 ar 12 Ionawr 2010, ysgrifennodd Iestyn:

    Blwyddyn newydd da, Vaughan, a chroeso nol.

    Tri phwynt diddorol i ddechrau'r flwyddyn. Deall taw gwamal yw nhw i raddau, ond 1) trueni, ond heb fo yn annisgwyl, 2) faint yw mwy, Vaughan? Hynny yw, defnydd teilwng yn ei gyd-destun ym Melbourne, neu un neu ddau air? 3)Tybed oes na gyffelybiaeth rhwng Tasmania a RCT? Synnen i ddim, on eto, nagwy'n nabod Tasmania o gwbl (heblaw am yr hyn o'n i arfer gwylio ar y cartwn "Taz of Tasmania" - falle nag yw hynny'n gymwys!)

    Disgwyl mlaen at drafodaethau difyr yn y flwyddyn i ddod!

  • 2. Am 12:48 ar 12 Ionawr 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Cyfeirio at yr Amgueddfa Ymfudo oeddwn i yn (2) Roedd y deunydd rhygweithiol ynghylch Cymru yn gyfangwbwl ddwyieithiog. Dyna oed y patrwm ar gyfer pob gwlad arall hefyd hy Saesneg+iaith gynhenid.

  • 3. Am 14:39 ar 12 Ionawr 2010, ysgrifennodd dawn:

    Croeso nol - mi welais eisiau'r blog dros yr wythnosau diwetha!

  • 4. Am 16:40 ar 12 Ionawr 2010, ysgrifennodd Kelv:

    Diddorol clywed am yr Amgueddfa Ymfudo. Mae tudalen am Gymru ar eu gwefan, ac maen nhw wedi darparu cyfieithiad Cymraeg hefyd:

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.