Syr Wmffra- Y gair olaf (efallai)
Efallai eich bod yn cofio i'r "cythraul blogio" afael ynof rhai wythnosau yn ôl ynghylch y busnes yna o gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yng nghofnod swyddogol y cynulliad.
Rwyf wedi bod yn ymwybodol bod trafodaethau'n mynd ymlaen i alluogi i gomisiwn y cynulliad ildio'n rasol ynghylch y pwynt ac osgoi cynnig a allai droi'n cynnig o ddiffyg hyder yn y Llywydd a/neu'r Comisiwn.
Diddorol felly oedd clywed ar y "Politics Show" heddiw;
"O bosib bydd yna gyfaddawd, ond ni allaf ragweld beth fydd penderfyniad fy nghyd aelodau... ac wrth gwrs nid wyf eisiau anghytuno gyda fy nghyfeillion ar Fwrdd yr Iaith."
Roedd anhapusrwydd y Bwrdd yn ddigon i berswadio'i swyddogion nad oedd dewis ond cymryd y cam unigryw o gyhoeddi cynnwys llythyr at gorff y mae'r Bwrdd yn ei oruchwylio.
Y rheswm am hynny, mae'n debyg, oedd bod y corff hwnnw, sef y Comisiwn, wedi ceisio defnyddio dadleuon/esgusodion cyfreithiol i ddadlau nad oedd gan y Bwrdd yr hawl i'w goruchwylio- er mai hynny oedd dymuniad unfrydol y Cynulliad ei hun. Pe bai'r stranciau yma'n cyrraedd llys barn (ac os nad yw'r Comisiwn yn ildio maen nhw'n debyg o wneud) fe fyddai'r gost i'r cyhoedd llawer yn fwy na'r symiau y mae'r Comisiwn yn gobeithio eu harbed.
Adolygiad yw'r cyfaddawd tebygol gyda'r gyfundrefn gyfieithu presennol yn parhau yn y cyfamser. Mewn gwirionedd dyw adolygiad ddim yn beth drwg. Mae 'na gwestiynau pwysig i ofyn ynghylch y defnydd (neu ddiffyg defnydd) o'r Gymraeg mewn rhai o'r pwyllgorau, er enghraifft.
Y cam cyntaf holl-bwysig i rai yw sicrhau bod y Comisiwn yn cymeradwyo Cynllun Iaith y Cynulliad gan gau'r ddihangfa gyfreithiol yw oedd ambell i Syr Wmffra'n gobeithio ddianc drwyddi.
Yn y cyfamser ymhen ychydig wythnosau fe gewch weld ffrwyth cynllun gan y Â鶹Éç i ddatblygu meddalwedd "llais i destun" Cymraeg, hynny yw meddalwedd sy'n "clywed" Cymraeg llafar ac yn ei throsglwyddo i ffurf ysgrifenedig.
Fel "Google Translate" bodolaeth y Cofnod ar ei ffurf bresennol sydd wedi gwneud y datblygiad yma'n bosib. Wrth gwrs unwaith y mae meddalwedd llais i destun a meddalwedd cyfieithu wedi eu perffeithio bydd yr holl ddadl yma'n amherthnasol. Fe fydd cost paratoi'r Cofnod yn y ddwy iaith yn disgyn i'r nesaf peth i ddim.
Pam y brys?