Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:19, Dydd Sul, 20 Medi 2009

SDPPoster.jpgDydw i ddim yn mynd i'r cynadleddau Prydeinig eleni ond mae cyfarfod y Democratiaid Rhyddfrydol yn Bournemouth yn rhoi cyfle/esgus i mi gynnwys un o berlau "Spitting Image". Dyma'r ddau David yn ffarwelio a'i gilydd wrth i'r Cynghrair gwympo'n ddarnau.

O leiaf dyw Nick Clegg ddim yn gorfod poeni am gyd-arweinydd!

Nesaf dyma ymosodiad arlein effeithiol a thrawiadol gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gynharach eleni. Mae hon ar y restr fer am wobr yng nghystadleuaeth blogio'r blaid. Yn anffodus mae 'na un fach.

Rwy'n gobeithio nad wyf wedi pechu Adam Price gormod trwy dorri'r newydd am eu gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn gynt nac oedd e'n dymuno. Mae'r ddwy ffilm nesaf yn offrymau heddwch. Os ydy Adam yn mynd i un o golegau'r "Ivy League" mae gan Tom Lehrer rybudd iddo!

Mae 'na rwydwaith arall o golegau yn yr Unol Daleithiau sef y "Colegau Du Traddodiadol". Rhain oedd y colegau, yn y de yn bennaf, gafodd eu sefydlu yn nyddiau tywyll "seperate but equal". Dyma'r dathliadau yn un ohonyn nhw ar noson yr etholiad arlywyddol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:00 ar 20 Medi 2009, ysgrifennodd Myrddin:

    Tud wan Vaughan!

    Jysd bod Nick Clegg, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Ffederal, yn deud fod o'n mynd i gyflwyno 'top-up fees', di hyna ddim yn meddwl fod Democratiaid Rhyddfrydol CYMRU yn mynd i wneud yr un peth.

    Mae addysg, wedi'r cyfan, wedi cael ei ddatganol. Felly mae penderfyniadau polisiau addysg wedi cael eu datganoli i Ddemocratiaid Rhyddfrydol CYMRU

    Felly, lle ma'r broblem?

  • 2. Am 19:35 ar 20 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Joc fach ar y sesiwn ffilmiau oedd honna! Dylet ti weld beth mae eraill yn dweud. Efallai bod corddi mab darogan Plaid Cymru a Myrddin mwyn o fewn deuddydd yn awgrymu fy mod yn troi mewn i hen ddyn blin!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.