Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 20:16, Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf 2009


Mae'n ymddangos bod yn gweithio o'r diwedd, i fi, o leiaf! Mae'r diwyg hefyd wedi ei foderneiddio. Hwre! Dwi'n edrych ymlaen at y ffeit! Mae cystadleuaeth yn beth da!

Mae yn sgwennu ynghylch yr union bwnc yn y "Western Mail". Fel bron pawb arall mae Lefi yn parhau i gyfeirio at wasanaeth arlein Cymraeg y Â鶹Éç fel "Cymru'r Byd". Mae'r enw hwnnw wedi diflannu o'r safle am ryw reswm. Nid myfi yw'r un i ofyn pam... o na!

Hefyd yn y "Western Mail" mae 'na ynghylch gwahodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ymuno a'r llywodraeth yn y Bae. Twt lol yn fy marn i. Gan fy mod wedi gwylltio Plaid Cymru gyda ambell i bost yn ddiweddar gadewch i mi ddweud fy mod yn credu bod y sylw yma gan lefarydd y blaid yn llygaid ei le.

""There are some in the Labour Party who are out to undermine the Labour-Plaid agreement and are trying to damage Ieuan for their own ends, helped by the Liberal Democrats."

Pwy yw'r "some" 'na? Fe fedra i ddyfalu!

Mae 'na flog sosialaidd newydd wedi ymddangos yn y gogledd ddwyrain- un da hefyd. "" yw'r enw. Rhyfedd. Roeddwn i'n meddwl mai rhan o dafodiaith Saesneg Caerdydd oedd y term hwnnw.



Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.