Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Porffor ac Oren a Glas

Vaughan Roderick | 10:17, Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009

Mae'r blogio wedi bod yn gymharol ysgafn yw wythnos hon a hynny am reswm. Rwyf wedi bod yn defnyddio'r munudau sbâr hynny sy gan amlaf yn amser blogio i baratoi cyflwyniad ar gyfer cynhadledd Sefydliad Bevan wythnos nesaf.

Nid fi wnaeth ddewis y testun ac mae'n un rhyfeddol o anodd sef ceisio darogan pa liw neu liwiau y bydd llywodraeth Cymru ar ôl 2011. Mae'n dasg amhosib bron. Gallaf ddychmygu am sefyllfaoedd a fyddai'n arwain at bron pob un cyfuniad posib. Serch hynny mae 'na ddau gyfuniad sy'n hynod o annhebyg. Un o'r rheiny, wrth reswm yw clymblaid rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr. Y llall yw'n hen gyfaill o 2007- yr "enfys".

Os gofiwch chi fe ddaeth yr "enfys" (sef clymblaid o Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol) o fewn y dim i ffurfio Llywodraeth y Cynulliad. Oni bai am y tebot siocled o gyfansoddiad sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol y glymblaid honno fyddai'n llywodraethu heddiw.

Roedd yr enfys yn opsiwn pwysig yn 2007 oherwydd cyfuniad o ddau ffactor. Y cyntaf oedd y ffaith nad oedd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr a digon seddi rhwngddyn nhw i ffurfio llywodraeth. Yr ail ffactor oedd amharodrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio clymblaid a Llafur. Yr enfys a chlymblaid "coch-gwyrdd" (fel yr oeddwn yn ei galw ar y pryd) oedd y dewisiadau posib yn 2007 felly.

Fe fydd 'na wahaniaeth pwysig yn 2011. I'r Democratiaid Rhyddfrydol roedd y profiad o wrthod clymblaid a Llafur yn ddigon tebyg i brofiad crwt yn gwlychu ei drowsus. Roedd hi'n gynnes a phleserus am ychydig funudau ond yn hynod o amhleserus ar ôl hynny. Dyw'r blaid ddim yn mynd i wneud yr un camgymeriad eto.

Pa ddewisiadau fydd ar y bwrdd yn 2011 felly? Wel, fe fydd coch-gwyrdd ar gael o dan bob amgylchiad tebygol. Os ydy cyfanswm aelodau'r Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy na thrideg cyfuniad rhwng y pleidiau hynny yw'r dewis arall. Os ydy'r cyfanswm hwnnw yn llai na thrideg clymblaid rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yw'r ail opsiwn.

Dim "enfys" felly. Mae hynny'n pery loes calon i mi. Nid cymhellion gwleidyddol sy gen i dros ddweud hynny. Yn nyddiau cynnar y blog yma fe ges i lot o sbort yn llunio penawdau ynghylch yr enfys; "enfys yw fy mywyd", "pot o aur", "Draw dros yr enfys" ayb.
Roedd y posibiliadau'n ddiddiwedd ac roeddwn yn gobeithio eu hail-gylchu nhw i gyd yn 2011! Damnia!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:34 ar 3 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Mae BlogMenai wedi dweud ambell i beth difyr ynghylch hyn yma:
    ("mai'r blaid sydd yn sicr o fod mewn clymblaid efo rhywun neu'i gilydd sy'n llywio'r agenda - beth bynnag ei maint cymharol")
    ac yma:
    ("Petai yna storm berffaith yn erbyn Llafur, yr oll fyddai'n weddill ganddynt fyddai Dwyrain Abertawe, Rhondda, Cwm Cynon, Merthyr, Ogwr, Islwyn, Aberafan a Chastell Nedd (a gallai honno fod yn sigledig). Gallent hefyd ennill Blenau Gwent yn ol. Ychydig iawn o dir Cymru fyddai'n goch - dyna beth fyddai map etholiadol rhyfeddol - hyd yn oed i greadur sy'n ddall i liw.")

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.