Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 17:21, Dydd Gwener, 26 Mehefin 2009

Mae'r ffilmiau yn ôl- a'r tro 'ma mae 'na gwis bach hefyd !

1. Ydych chi'n gallu sbotio rhywbeth yn gyffredin rhwng y darllediad Llafur yma o 1970 ac ogof nid anenwog?

2. Darllediadau gwleidyddol o Singapore sydd nesaf. I ba blaid y byddai Leonard Nimoy yn pleidleisio?

3. Pa arweinydd Ewropeaidd fyddai'n hoffi rhain?

4. Beth yw'r cysylltiad rhwng yr ymgeisydd aflwyddiannus yn y ffilm yma ac Aberystwyth?

Diolch i obell am rhain.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:15 ar 27 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Blue Bottle gan y Frank Barcley Group yw'r thema enwog. (Nid ateb i'r cwis, dwi'n gwybod nesa peth i ddim am wleidyddiaeth, ond ychydig bach o wybodaeth ychwanegol).

  • 2. Am 18:59 ar 27 Mehefin 2009, ysgrifennodd ceri jones:

    Ife Silvio Berlusconi yw'r trydydd? Dim clem beth yw'r ateb i'r tri arall.

  • 3. Am 21:51 ar 27 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Cywir. Fe fydd yr atebion yn ymddangos yfory. Oes unrhyw un arall am gynnig? Rwyf wedi cael fy sbwylio gan sylwadau'r wythnos hon! Does dim rhaid gwneud!

  • 4. Am 23:30 ar 27 Mehefin 2009, ysgrifennodd PechadurBerffro:

    Blaw am y cyfeiriad amlwg am ddyddiau cynnar ms.Berlusconi, sgyna fi ddim syniad chwaith. Fydd rhaid i chi gosod cwestiynau llawer fwy hawdd os bod chi eisiau fwy o sylwadau Vaughan...

  • 5. Am 14:30 ar 28 Mehefin 2009, ysgrifennodd ³§¾±Ã¢²Ô:

    1) Ai miwsig Miri Mawr yw hwn? Caleb a Blodyn Tatws a Dan Dŵr oedd yn byw yn yr ogof, ie?

  • 6. Am 18:14 ar 28 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Cywir! Mae eraill yn gywir mae Berlusconi oedd yr ateb i gwestiwn tri. Dau i fynd felly! Fe wna i tan yfory i chi!

  • 7. Am 23:53 ar 28 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Dim clem ar Singapore,,roedd teulu Humphrey di gadael Cymru yn 1780..o Aber?

  • 8. Am 09:04 ar 29 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Cywir, Dewi. Yr ateb i gwestiwn 2 yw y "Singapore Democratic Party". Mae'r blaid yn defnyddio bathodyn yr USS Enterprise fel ei logo. Leonard Nimoy oedd yr actor wnaeth chwarae Spock. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n amhosib llunio cwis lle nad oedd Google yn gallu eich helpu. Roeddwn i'n anghywir!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.