麻豆社

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Dechrau Prydeindod?

Vaughan Roderick | 10:11, Dydd Llun, 29 Mehefin 2009

Pan oeddwn i'n grwt un o fy hoff gyfresi teledu oedd "Adam Adamant" hanes arwr o oes Victoria wnaeth gael ei rewi mewn bloc o i芒 a dihuno yn y 1960au. Mae 'na elfen o Adam Adamant yn perthyn i David Melding. Gyda'i gwrteisi hen ffasiwn a'i len-garwch mae 'na rywbeth o'r oes o'r blaen yn ei gylch.

Pwy ond David fyddai'n cychwyn llyfr ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru gyda'r frawddeg yma?

"When that remarkable man, Publius Aelius Hadrianus, commissioned the wall that would forever bear his name, he knew that the Imperium had limits"

Pwy ond David, o ran hynny, fyddai'n cychwyn llyfr am wleidyddiaeth Cymru trwy gyfeirio at y Rhufeiniaid? Fe wna i ateb y cwestiwn fy hun. Fe fyddai Gwynfor Evans yn gwneud.

Mae llyfr newydd David "Will Britain Survive Beyond 2020?" bron fel pa bai wedi ei ysgrifennu fel ymateb i lyfr Gwynfor "Diwedd Prydeindod". Hwn yw'r llyfr cyntaf i mi gofio sy'n cyflwyno achos deallusol o blaid parhad y Deyrnas Unedig ar seiliau hanesyddol ac athronyddol.

Fe fyddai nifer o gasgliadau David wrth fodd Gwynfor. Mae'n wfftio'r ddadl economaidd yn erbyn annibyniaeth, er enghraifft. Mae'n gwahaniaethu hefyd rhwng cenedl a gwladwriaeth ac yn datgan bod gan y Cymry, fel cenedl, eu sofraniaeth gynhenid eu hun. Yn wir, yn 么l David, does 'na ddim dadl ddilys yn erbyn annibyniaeth i Gymru os ydych chi'n credu nad yw Prydain yn genedl a nad oes rhinwedd mewn Prydeindod. Rheiny, wrth gwrs, oedd union safbwyntiau Gwynfor.

Mae David, ar y llaw arall, yn credu bod 'na genedl Brydeinig, cenedl sy'n bodoli'n gyfochrog a'r cenhedloedd hanesyddol. Mae'n rywbeth amgenach na "Lloegr fawr" ac mae'n dymuno gweld ei pharhad. Yn ei lyfr mae'n croniclo pwysigrwydd "y syniad o Brydain" yn hanes y Cymry ac yn myfyrio ynghylch llanw a thrai Cymreictod a Phrydeindod ar hyd y canrifoedd.

Mae'n amlwg bod David bellach yn ystyried ei hun yn genedlaetholwr Cymreig o safbwynt sofraniaeth Cymru ac yn genedlaetholwr Prydeinig o safbwynt r么l rhyngwladol yr ynysoedd hyn. Dyw e ddim yn dymuno gorfod dewis rhwng Cymru a Phrydain ac mae'n gofidio y bydd gwendidau y setliad cyfansoddiadol presennol yn gorfodi iddo wneud hynny.

Yn 么l David er mwyn sicrhau parhad y Deyrnas Unedig yn y tymor hir mae angen llunio setliad cyfansoddiadol newydd. Fe fyddai'r cyfansoddiad hwnnw yn cynnwys cydnabyddiaeth eglur o hawl unrhyw un o'r cenhedloedd hanesyddol i adael y wladwriaeth Brydeinig os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Fe fyddai gan Loegr ei senedd ei hun ac fe fyddai senedd San Steffan ond yn delio a materion oedd yn effeithio ar y deyrnas gyfan. Ni fyddai hawl gan y senedd honno i ymyrryd mewn unrhyw ffordd a breintiau na gweithredoedd y seneddau cenedlaethol. Fe fyddai'r seneddau cenedlaethol ynghyd a'r senedd ffederal newydd i gyd yn sofran.

Cofiwch mai cydlynydd polisi y Blaid Geidwadol Cymreig sydd wedi sgwennu hyn oll. Yn ddeallusol mae'n chwyldroadol i Geidwadwr ddadlau bod sofraniaeth Prydain yn deillio o'i phobol trwy ei chenhedloedd hanesyddol yn hytrach nac o'r Goron.

Does dim angen cytuno a'r syniadau yma i ddeall eu pwysigrwydd. Hon yw'r drafodaeth yr oedd Gwynfor Evans yn dymuno ei chael. Yn lle hynny yr hyn a gafwyd oedd codi bwganod economaidd a ieithyddol gan unoliaethwyr a datblygiadau cyfansoddiadol oedd yn seiliedig ar ymdrechion y Blaid Lafur i ddatrys ei thensiynau mewnol ei hun.

Mae'n annhebyg y bydd llyfr David yn cael llawer o ddylanwad o fewn rhengoedd ei blaid. Dydw i ddim yn meddwl y bydd trwch ei haelodau yn fodlon cofleidio'r syniadau yma. Dim eto, o leiaf.

Yn eironig gallai'r llyfr gael mwy o ddylanwad ymhlith Cenedlaetholwyr. P'un ai ydych chi'n credu mewn bodolaeth cenedl Brydeinig ai peidio mae'n amhosib gwadu bod 'na lawer yn gyffredin rhwng pobloedd yr ynysoedd yma- ac mae hynny'n cynnwys Gwyddelod y Weriniaeth. Fe ddylai dyfodol y cysylltiadau hynny fod yn rhan bwysig o'r ddadl gyfansoddiadol.

Will Britain Survive Beyond 2020? gan David Melding. Sefydliad Materion Cymreig. 拢11.99

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:24 ar 29 Mehefin 2009, ysgrifennodd Si么n Aled:

    Braf iawn clywed bod yna rywun arall yn hiraethu am yr hen Adam Adamant! Dwi鈥檔 cofio鈥檔 eglur y cyflwynydd yn cyhoeddi o flaen pa bynnag raglen a ddisodlodd yr arwr oeraidd 鈥淣ow that Adam Adamant is permanently back on ice ...鈥 a鈥檓 siom na ddeuai 鈥榥么l.

    Braf hefyd oedd clywed am David Melding yn ymh茅l o ddifrif 芒 chwestiwn y berthynas rhwng cenedligrwydd Cymru a鈥檙 cysyniad o Brydeindod. Er na fyddwn yn uniaethu 芒鈥檌 syniad am 鈥済enedl鈥 Brydeinig yn gyfochrog 芒鈥檙 cenhedloedd hanesyddol rwyf wedi teimlo ers tro byd mai un bwlch amlwg yn y drafodaeth wleidyddol gyfoes fu ymdriniaeth gall 芒 pherthynas cenhedloedd yr ynysoedd hyn sy鈥檔 trafod 鈥楶rydeindod鈥 amgen nag ymdrechion carbwl Gordon Brown i鈥檔 cael oll i wisgo tr么ns Baner yr Undeb gyda balchder.

    Beth bynnag a ddigwydd yn yr hirdymor i statws cyfansoddiadol Cymru a鈥檙 cenhedloedd eraill mae鈥檔 amlwg yn fater o synnwyr cyffredin y dylai gwahanol rannau Prydain ac Iwerddon ddechrau ystyried o ddifrif sut mae gweithio mewn partneriaeth gyfartal er budd pawb ar 么l i ni hepgor y berthynas gormeswr/gwas fu鈥檔 ein llesteirio gyhyd.

    Ond mi hoffwn i weld Adam Adamant yn chwifio鈥檙 faner dros yr hen Ymerodraeth eto hefyd. Wedi鈥檙 cyfan, os bu hi鈥檔 bosibl atgyfodi Dr Who mor llwyddiannus ...

  • 2. Am 20:50 ar 29 Mehefin 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Chwarae teg i David Melding am ddangos fod ganddo fren ac yn barod i'w ddefnyddio. Petai mwy o Meldiniaid yn y blaid Geidwadol fe fyddai carfan o'u pleidleiswyr yn mynd draw at UKIP ond fyddent yn gallu denu rhagor o gefnogaeth gan Lafurwyr a Phleidwyr meddal.

    Mae'n dda clywed gwleidydd yn rhoi rhyw syniad o lle hoffai a lle ddisgwyliau i ddatganoli fynd. Does yr un AC Llafur wedi rhoi unrhyw syniad o beth mae nhw'n gweld yw pen-llanw datganoli. Mae i gyd yn hollol fynpwyol ac yn dibynnu ar sut mae'r pleidleisiau'n mynd h.y. dim gweledigaeth dim ond ceisio creu ofn disutopia o annibynniaeth i Gymru.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.