Trafodaeth
Rwy'n teimlo bod 'na drafodaeth dda a phwysig (efallai) wedi codi ynghylch cywirdeb iaith. Dw i am wneud rhywbeth anarferol trwy ail-gyhoeddi'r post a'r sylwadau a'ch croesawi i wneud sylwad. Diawl, weithiau mae ychydig bach o ddiogi yn talu o safbwynt cael ymateb!
Dyma'r post gwreiddiol.
Dydw i ddim yn cyhoeddi pob un o'r sylwadau sy'n cael eu postio ar y blog yma. Weithiau mae nhw'n anghymwys, weithiau mae nhw'n bersonol.
Ddoe fe dderbyniais un sylwad (caredig, dw i'n meddwl) gyda chais i beidio cyhoeddi. Gan barchu hynny, ac heb ei ddyfynnu, mae'n codi pwynt hynod ddiddorol. Hanfod y sylwad oedd bod 'na nifer o wallau gramadegol yn y post "Hen Hanes". Dydw i ddim am wastraffu amser yn anghytuno a'r cyweiriadau. Dyw post bach diog o gartref ddim cweit mor drylwyr ac erthyglau o'r gwaith!
Ond mae'n codi cwestiwn diddorol. Cwestiwn "mas a gras" os liciwch chi. Mae emynau Pantycelyn yn gyson yn defnyddio "mas" a "gras" fel geiriau sy'n odli. Mae'r llyfrau emynau ar y llaw arall yn gyson yn troi'r "mas" yn "maes" gan golli'r odl. Mae'r cywirdeb ieithyddol yn lladd y farddoniaeth.
Wrth gychwyn y blog 'ma fe wnes i benderfynu defnyddio Cymraeg ychydig yn wahanol i'r iaith y byswn yn defnyddio wrth 'sgwennu erthyglau newyddion- sef rhyw fath o fersiwn ysgrifenedig o'r iaith dw i'n ei siarad yn ddyddiol. "Dw i" yn lle "rwyf" neu " mi ydwyf", "mas" yn lle "allan", "cryts" yn lle "bechgyn", "taw" yn lle "mai" ac yn y blaen.
Mae'r rheiny efallai yn wallau ieithyddol -os ydych chi'n feistr at y Cywiriadur Cymraeg- ond mae'r gwallau hynny'n ran o ymgais i ddod o hyd i ffordd o sgwennu sy'n ddarllenadwy i bobol nad ydynt gan amlaf yn darllen Cymraeg.
Mae'r "stat-porn"ynghylch nifer darllenwyr y blog yma'n awgrymu rhyw faint o lwyddiant. Mae'r adwy rhwng y nifer o bobol sy'n medru siarad Cymraeg a'r nifer sy'n gallu ei darllen yn broblem ddifrifol. Mae 'na angen ddybryd i greu Cymraeg ysgrifenedig sy'n ddealladwy i siaradwyr Cymraeg yn hytrach nac iaith sy'n eiddo i gwlt o ramadegwyr.
Mae 'na beryglon wrth gwrs. Mae safonau gramadegol yn bwysig. Ond mae'n beryglus hefyd i ddyrchafu'r Gymraeg i fod yn iaith sy'n eiddo i'r ychydig sy'n gallu ei sgwennu mewn modd clasurol gywir Ydy ni'n credu, mewn gwirionedd, bod sefyllfa'r Gymraeg mor gryf nes ei bod yn gallu fforddio bod yn llai hyblyg na'r Saesneg?
Os oedd "mas" yn ddigon da i Bantycelyn mae'n ddigon da i fi.
Vaughan
Dyma'r sylwadau.
Fyddwn i ddim yn poeni'n ormodol.'Dwi'n blogio'n rheolaidd a 'dwi'n defnyddio dull 'sgwennu sy'n gyfaddawd rhwng fy iaith lafar a fy iaith ysgrifenedig.Dyna ti'n ei wneud - ac yn fy marn bach i, dyna'r ffordd briodol i flogio.
Blogmenai
Cytuno'n llwyr bod angen i'r Gymraeg fod yn hyblyg - mewn gwirionedd mae'n fy mhoeni i yn fwy i weld gwallau gramadegol syml fel diffyg atalnod llawn a ballu, na ffurfiau tafodieithol. Eto i gyd, wrth gwrs, mae angen rheolau - ac er ei bod yn wir i ddweud mai ychydig gannoedd ohonom ni sy'n cyrraedd unrhyw safon ac yn gwbl hyderus gyda'r iaith ysgrifenedig, y peth pwysica' ydy ein bod ni'n trafod ac yn dadlau am y pethau 'ma yn agored. Neu fel arall sut ydyn ni i fod i ddysgu?
Iesgob Annwyl
Posib dweud mwy am yr ystadegau Vaughan? Ffigyrau?
Dewi
(Ateb;Dydw i ddim yn y gwaith ar hyn o bryd ond fe wnai)
Am eich bod chi wedi dewis codi'r pwynt yn gyhoeddus, buasai'n well gen i pe tasech chi wedi trafod yr union bwyntiau a godais innau. Dan yr amgylchiadau hyn, fyddai dim ots gen i pe bai'r sylwad o'r blaen yn cael ei gyhoeddi. Eto, does dim ots gen i 'chwaith os penderfynwch y dylai'r drafodaeth ddod i ben fan hyn.
Fyddwn i ddim yn dychwelyd at y pwynt, oni bai eich bod chi wedi cam-ddehongli fy neges gynt ryw ychydig.
Nid "mas" vs "maes" (neu "ma's") oedd dan sylw o gwbl gen i. Sylwch na soniais i o gwbl am eich defnydd o "ochor", "pobol", "Dadlau... [y] mae Huw Lewis", "...yn weithred [ ]wleidyddol" a.y.b.. Nid y "tafodiaethol" vs y "clasurol" oedd gen i mewn golwg, ond *cywirdeb" (fel dw i'n ei weld).
Tri phwynt gramadegol a godais innau yn fy neges, os cofiaf yn iawn (yn ogystal â rhai manion dibwys ynghylch atalnodi ac ati - manion na ddylwn fod wedi eu crybwyll mewn gwirionedd). Yr unig bwyntiau y soniais amdanynt oedd y rhai a wnaeth y gwaith o ddarllen yn anos imi, sef:
i) y dryswch yn eich blog rhwng ffurfiau berfol unigol a lluosog. Mae hyn i'w weld eto yn y blog diweddaraf: "Ydy [sic] ni'n credu" yn lle "Ydyn ni'n credu" (sylwer, nid wy'n mynnu taw "ydym ni" gydag "-m" sydd i'w ddefnyddio yma).
Mae'n wir taw gwall teipio yw hwn yn fwy na thebyg, ond mae'n anffodus iawn fod y gwall penodol hwn yn un sy'n lledu ar dudalennau Â鶹Éç Cymru'r Byd, a dylid gofalu rhag ofn i'r defnydd "swyddogol" yma ei droi yn ffurf 'dderbyniol'.
ii) Diffyg treiglad meddal mewn berf ar flaen cymal negyddol: "Gwnaeth ychydig ddyddiau fawr o wahaniaeth" yn lle "Wnaeth..." (pwynt bach iawn, mae'n wir, sy'n hawdd ei anghofio wrth ysgrifennu ar frys, ond mae'r treigladau yn bwysig o hyd).
iii) nid "mai" vs "taw" oedd fy mhwynt i (rydw i, fel un o Sir Gâr, yn hollol o blaid "taw"!), ond "mai" vs "mae" mewn cymalau perthynol.
Rydym ni'n hollol gytûn y dylid defnyddio "Cymraeg ysgrifenedig ... dealladwy", a hefyd rwy'n cytuno fod hyblygrwydd y Saesneg yn beth da. Mae'r Â鶹Éç Saesneg yn lle gwych i glywed - ac i ddarllen - trafodaethau am gywirdeb ac esblygiad ieithyddol. Eto, mae byd o wahaniaeth rhwng sefyllfaoedd y ddwy iaith.
Efallai y dylwn ychwanegu fy mod i'n parchu'ch gwaith chi yn fawr iawn - a hefyd waith William Williams, er na fyddwn i'n mynd â'r gymhariaeth yn rhy bell (^^), ac - ie - roedd y neges i fod yn "garedig"! 'Mond dadlau er mwyn y ddadl, efallai - ond mae'n ddadl bwysig.
Diolch ichi. Rwy'n gobeithio fod hyn wedi egluro fy marn ryw ychydig.
(Gan ymddiheuro am unrhyw wallau teipio yn y neges frysiog yma!)
Pedant Iaith
Cytuno'n llwyr. Mae sawl cywair i iaith a does dim mor chwithig ag arddull lenyddol yn cael ei gwthio ar drafodaethau anffurfiol. Ac os nad yw'r bobl yr anelir atyn nhw'n deall yr hyn sy'n cael ei ddweud neu'i ysgrifennu mewn unrhyw iaith mae'r awdur wedi methu. Byddai'n well iddo fo neu hi ganolbwyntio ar weu.Ond, i hollti blew ac i ddangos y gallaf innau fod yn bedant hefyd, mae 'sicrhâi' yn codi fy ngwrychyn. 'Sicrhau' yw'r sillafiad cywir. Mae hwn yn gwestiwn sy'n codi ei ben yn aml yn y Gymraeg. Rydw i'n credu taw diffyg siaradwr "cyffredin" yw rhan o'r broblem. Mae yna lwyth o bobl sy'n mynnu ar ddefnyddio iaith gor-ffurfiol ac mae yna lwyth sy'n mynnu ar ddefnyddio iaith gor-dafodieithol. Ond does yna uffern o lawer ohonom sy'n bodoli yn y canol. Felly mae'n anodd dod o hyd iaith gyffredin, anodd dod o hyd diffiniad o beth yw'r fath beth.
Ar fy rhan i, rydw i'n anelu at ddefnyddio iaith Wlpanaidd gyda sillafu cywir. Yn fy marn i, does pwynt i sillafu gair yn "anghywir" er mwyn gweddu ei ynganiad. Megis "falle" yn lle nag "efallai" -- gellir ynganu gair yn ôl pa bynnag awydd ond does angen ei sillafu'n wahanol. Oherwydd mae'n achosi drysu -- yn enwedig ymhlith ni dysgwyr annwyl. Allem ni ddim canfod y gair yn ein geiriaduron. A dyna ddylai fod yn amcan ryw iaith gyffredin -- bod yn ddealladwy i gynifer â phosib. Ar y cyfan rydw i'n credu eich bod yn llwyddo yma.
Chris
Fel ddwedais i fe wnes i gymryd y post fel un caredig. Efallai bod 'na werth i fi nodi un peth. Er bod y blog yma'n ymddangos ar wefan y Â鶹Éç, fi, a fi'n unig, sy'n gyfrifol am y cynnwys. Mae 'na fanteision ac anfanteision yn hynny ond does na ddim "staff" enfawr yn gofalu am y cynnwys. Y gwir amdani yw fy mod yn tueddu bod yn weddol llipa o safbwynt cywirdeb ieithyddol wrth flogio yn fy amser hamdden.
Vaughan
O Chris, gwir pob gair. Pam ar y ddaear y mae pobol yn mynnu bod "Mae nhw" yn anghywir a "maen nhw" yn gywir ac eithrio bod Syr John Morris Jones wedi penderfynu hynny ar fympwy? Fe fydd rhyw un yn cynnig esboniad!
Vaughan
Mae "nhw" yn rhagenw personol, ac maen nhw (a ni) yn dilyn y rheol sillafu yma er mwyn i eraill fedru deall ein brawddegau.
Yn hanesyddol, siwr iawn, y rheswm dros y gwahaniaeth yma yw bod "maen nhw" yn deillio o "maent (hwy)", a'r terfyniad berfol yn "-t" yno yn glir. Wrth golli'r "-t" ar lafar (ac mewn cyweiriau llai ffurfiol) mae angen cadw'r "-n" er mwyn gwahaniaethu.
Arfer a chonfensiwn yw'r cyfan, wrth gwrs, megis pob rheol iaith. Ond mae rheolau o'r fath yn bwysig, a hebddi nw byzhe ny miwn tipun o bucyl ac yn ool yn y kanol oesoet nev rywbet! :)
Pedant Iaith
Hmm.. Dyma gwestiwn caled. Rwyf i yn 'pedantic' eithradol yn y Saesneg, ond mae gramadeg fy Nghymraeg yn wael iawn.. ac yn mynd yn waeth.
Trici iawn...
Beddgelert
Diawl, mi wyt ti'n dda!
Vaughan
Mae datblygiad iaith yn ddeinamig. Buaswn wrth fy modd yn darllen blogs Vaughan yn iaith tects....P9n 'ma, neu dros y Pen8nos.....
Dewi
Pedant - ti'n codi nifer o bwyntiau da a dwi mewn parchedig ofn o dy allu i ddeall gramadeg. Ond, gan gymryd fod gwahaniaeth rhwng 'Maen nhw' a 'Mae nhw' tydw i heb gam-ddeall beth sydd gan Vaughan neu eraill dal sylw. Mae'r un peth yn wir am 'Ydyn nhw' (yn hytrach na'r anghywir 'ydy nhw'). Mae'n rhaid cael safon ond onid y cwestiwn a yw'n amser i ni newid beth yw'r safonnau hynny. Os nad ydy pobl yn cael trafferth deall fod Mae nhw yn cyfleu mae'n nhw, yna oni ddweud mai 'mae nhw' / ydy nhw' sy'n yw'r ffurf safonnol bellach? Iesgob, os nad ydy Vaughan ac eraill methu sgwennu Cymraeg cywir, yna pwy ddiawl sydd? Efallai ei bod yn amser symleiddio pethau? Pwynt Chris Cope yn un da - doeddwn i hwb feddwl am beth o'r safbwynt honno o'r blaen.
D.enw
SylwadauAnfon sylw
Does dim byd yn bod ar unrhyw un o'r rhain: iaith testun, iaith e-bost, iaith Wlpan, iaith William Morgan, iaith Pantycelyn (etc.). Mae iddynt i gyd eu priod lefydd (a chawn ystyried nifer o ieithoedd iach eraill megis Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, etc. i ddeall taw arwydd o iechyd yw amrywiaeth a'r gallu i amrywio).
Ond yn syniad y *priod-lefydd* y mae'r ateb, efallai. Nid symleiddio yn gyffredinol sydd eisiau (D.enw) - effaith hynny fyddai gwneud yr iaith yn dlotach - ond sylweddoli coethder ac amrywiaith yr iaith.
Byddai gweld blog yn cael ei ysgrifennu yn gyfan gwbl mewn iaith testun yn iawn - fe fydden ni'n deall taw dyna oedd cywair y peth, taw 'blog-destun' oedd 'genre' ieithyddol y peth, os mynnwch chi. (Cafwyd awdl eisteddfodol yn ddiweddar a ddefnyddiai'r ieithwedd yma, a da iawn hynny).
Ond rhaid cael rheolau - rhaid medru deall y 'genre'.
Mae'n codi gwên bob tro 'rwy'n clywed rhywun yn achwyn am "gyflwr y Saesneg heddiw", yn wyneb arwydd yn hysbysebu "tomato's" neu safle "taxi's". Does dim rhaid i'r Saesneg fecso'n ormodol am fân-bethau fel'na mewn cyd-destunau o'r fath oherwydd y ffaith fod digon o barch at yr iaith safonol yn y prifysgolion (a'r rhan fwyaf o ysgolion), y llysoedd, y llywodraeth, o blith awduron, athrawon, ac ati. Mae Saesneg da yn gryf, a'r Saesneg yn goethach oherwydd hynny - oherwydd y ffaith fod yr holl rychwant o wahanol mathau o Saesneg yn cael anadlu. Dydyn ni ddim yn gallu dweud hynny am y Gymraeg, ac mae rhaid gofalu ein bod ni'n sicrhau safonau, yn enwedig mewn llefydd megis yr ychydig gyfryngau Cymraeg sydd yno.
Cwestiwn arall wedyn, efallai, yw "beth ddylai'r safonau fod?" ond am y tro o leiaf mae'r geiriaduron a'r gramadegau sydd gyda ni (ar y cyd â greddfau naturiol siaradwyr yr iaith) yn rhoi canllawiau da iawn ynghylch ble i ddechrau'r drafodaeth.
Dyma ddyfynnu paragraff ar hap o wefan Â鶹Éç Cymru'r Byd sy'n dangos mor wael yw'r sefyllfa. Merch yn sôn am ei phrofiadau hi ei hun sy'n siarad (felly berfau a rhagenwau person cyntaf unigol sydd eisiau). Sylwch ar yr anghysonderau:
"Doeddwn ni ddim yn cysgu yn y nos oherwydd fy mod yn diodde o iselder, ac yna byddwn yn cysgu yn ystod y dydd.
"Doeddwn i ddim yn bwyta. A byddwn yn aros yn fy stafell am nawr awr a gwenud dim.
"O ni'n teimlo nad oedd yna ddim byd ar fy nghyfer - dim cymorth, dim byd."
Gellid rhoi ugeiniau o enghreifftiau fel hyn (o bob math o wall). Mae hyn yn broblem.
Cytunaf yn llwyr gyda'r hyn mae Pedant Iaith yn ei ddweud. Mae'n bwysig iawn annog pobl i ysgrifennu erthyglau mewn Cymraeg cywir boed nhw ar y We neu mewn papurau newydd. Mae'r enghreifftiau uwchben o ramadeg gwael yn dangos y byddai Cymraeg cywir, gloyw, yn hwyluso'r darllenydd i ddeall y deunydd.
Mae gyda ni gyfarwyddyd mewn llyfrau gramadeg mai 'Maen nhw' yn hytrach na 'Mae nhw' sy'n iawn, a chredaf y dylen ni barchu'r rheolau hyn er lles cysondeb yr iaith ysgrifenedig.
Credaf hefyd fod tuedd ymysg Cymry Cymraeg i adleywrchu'r iaith lafar yn ormodol wrth ysgrifennu, yn wir, i raddau na dderbynnir o gwbl yn Saesneg na'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewropeaidd eraill.
Fel yr awgrymodd Chris, mae'n normal bod bobl o wahanol ardaloedd yn ynganu geiriau'n wahanol. Ond teimlaf y dylid gwneud ymdrech i barchu rheolau ffurfiol ar sillafu a rhedeg berfau ac ati er lles dealltwriaeth y darllenydd o'r testun.
Hoffwn i ddweud hefyd fy mod yn mwynhau'n arw darllen eich gwaith, Vaughan.
"Doeddwn ni ddim yn cysgu yn y nos oherwydd fy mod yn diodde o iselder, ac yna byddwn yn cysgu yn ystod y dydd.
"Doeddwn i ddim yn bwyta. A byddwn yn aros yn fy stafell am nawr awr a gwenud dim.
"O ni'n teimlo nad oedd yna ddim byd ar fy nghyfer - dim cymorth, dim byd."
.. sori, ai fi sy'n dwp? Dwi methu gweld beth sydd o'i le gyda'r enghraifft uchod. Mae'n swnio'n gywir ac yn glir i mi. Os unrhyw beth mae'n swnio i mi fel petai'r newyddiadurwr wedi chwynnu'r cyfweliad gan prin yw'r pobl sy'n dweud ar lafar 'byddwn yn aros yn fy ...'
Mae angen safon ond dwi'n meddwl ei bod yn amser newid y safonnau hynny.
Y broblem yw bod y llacrwydd gramadegol yn y darn dan sylw yn amharu ar ei ystyr. Hynny yw, mae'r person yn amrywio rhwng siarad am 'ni' 'Doeddwn NI' a fe/hi 'Doeddwn I'. Mae e/hi wedyn yn parhau i son am fwy nag un person, 'O ni'. Sylwer hefyd mai 'O'n i'n' fyddai'n well fan hyn.
Efallai bod hyn braidd yn bedantig, ond credaf fod hon yn enghraifft eitha cryf o ramadeg gwael yn effeithio'n niweidiol ar ystyr y darn.
Efallai byddai'n syniad i Pedant Iaith gychwyn blog ei hun - byddai llawer yn gwerthfawrogi ambell eglurhad gramadegol ac ambell i drafodaeth!
"Doeddwn ni ddim yn cysgu yn y nos oherwydd fy mod yn diodde o iselder, ac yna byddwn yn cysgu yn ystod y dydd.
"Doeddwn i ddim yn bwyta. A byddwn yn aros yn fy stafell am nawr awr a gwenud dim.
"O ni'n teimlo nad oedd yna ddim byd ar fy nghyfer - dim cymorth, dim byd."
----------------------------------
Ia, ti'n dwp Anon ('mond jocan) - elli di ddim defnyddio'r person lluosog amherffaith i ddechrau'r frawddeg off ac wedyn ar ei hanner - ddweud 'fy mod i'.
Hefyd, achosir penbleth pan fo rhywun yn gweud 'o'n ni'n teimlo' a bennu'r peth gida 'ar fy nghyfer'.
Fe all swno'n iawn ar lafar cyflym ond wrth ysgrifennu, ma'n merwino'r llygad a rhaid edrych nol drosto i ddeall y peth.
Wela i ddim byd yn bod wrth roi blas tafodieithol ar rywbeth. Mae lot o enghreifftiau ohoni yn y Gymraeg - a hefyd gymysgu'r dafodiethol a'r safonol.
Un o gryfderau'r Gymraeg yw bod modd gwneud hyn - dyw hi ddim yn dderbyniol yn y Saesneg o bosib, ond mae hi wedi hen ennill ei phlwy yn y Gymraeg - o Eirwyn Pontsian i Kate Roberts.
Ia, ti'n dwp Anon ('mond jocan, ‘chan!) – ond elli di ddim defnyddio cymysgedd o’r person lluosog a’r unigol amherffaith i ddechrau'r frawddeg off (doeddwn ni // doedden ni) ac wedyn ar ei hanner - ddweud 'fy mod i' heb gal rhediadau dy ferfau’n iawn yn y lle cyntaf.
Hefyd, achosir penbleth pan fo rhywun yn gweud 'o'n ni'n teimlo' a bennu'r peth gida 'ar fy nghyfer'. Fe all swno'n iawn ar lafar cyflym ond wrth ysgrifennu, ma'n merwino'r llygad a rhaid edrych nôl drosto ar y papur i ddeall y peth yn iawn.
Wela i ddim byd yn bod wrth roi blas tafodieithol ar rywbeth. Ma’n dibynnu ar byw gywair ti’n moyn - mae lot o enghreifftiau ohoni yn y Gymraeg; a hefyd gymysgu'r dafodiethol, y llenyddol a'r safonol. Dewis yr awduron yw hi a pham lladd arnyn nhw am hynny. Pawb at y peth y bo. Un o gryfderau'r Gymraeg yw bod modd gwneud hyn - dyw hi ddim yn dderbyniol yn y Saesneg o bosib, ond mae hi wedi hen ennill ei phlwy yn y Gymraeg - o Eirwyn Pontsian a Kate Roberts i awduron cyfoes heddi.
Cadw teithi’r Gymraeg sy’n bwysig a chywirdeb iaith yn rhan o’r peth – ond camgymeriad yw lladd ar gyweiriau’r iaith sydd gennym.
I "B"edant iaith - treiglad meddal ar ol arddodiad!!!
Syniad da, Wil. Dydw i ddim yn credu taw fi yw'r un i gychwyn blog o'r fath - Cymraeg digon gwanllyd sydd gyda fi, o gymharu â llawer, ond rwy'n cytuno'n gryf iawn y byddai'n syniad ardderchog cael rhagor o fanylu a thrafod cyhoeddus am safonau iaith. Gwaith efallai i Gymdeithas yr Iaith? Bwrdd yr Iaith? Yr Academi? Â鶹Éç Cymru?
Mae'r ddadl yn un gymhleth, on'd yw hi, fel yr awgrymodd Vaughan reit ar y dechrau: mae angen cynyddu'r niferoedd sydd yn ymwneud â'r Gymraeg yn ysgrifenedig (ac mewn pob ffordd arall, a bod yn onest!) - mae'r diffyg defnydd o adnoddau Cymraeg megis llinellau ffôn, ffurflenni swyddogol ac ati yn arf i'r rhai sy'n dweud bod rhoi statws i'r iaith yn wastraff arian. Ond un o'r rhesymau nad yw pobl yn defnyddio'r adnoddau Cymraeg hyn yw'r ffaith fod yr iaith yn aml yn annealladwy.
Proses hir fydd gwella'r sefyllfa, ond cymerwn hyder o'r ffaith fod pob iaith wedi wynebu problemau tebyg: sylwer ar yr holl sylw a roddwyd ac a roddir i "jargon-free English", "gobbledygook" a phethau tebyg ar y cyfryngau Saesneg, a'r "".
Yn anffodus, yr unig enghreifftiau o Gymraeg gwael sy'n becso'r Cymry mae'n debyg, yw'r ambell enghraifft o bethau doniol megis "llid y bledren" ar arwyddion i seiclwyr (a sylwch taw cyfieithu _gwael_ sy'n cael y sylw yn fan'na, yn lle'r cannoedd a miloedd o enghreifftiau o _beidio â chyfieithu_).
"Gwell Cymraeg crap na Saesneg slic" meddai rhai (sef cyfieithiad Ifor ap Glyn o'r Wyddeleg: "Is fearr Gaeilge bhriste ná Béarla cliste"), ac mae hyn yn wir mewn llawer i gyd-destun, yn enwedig os yw'n ffordd i gael gweld a chlywed Cymraeg lle na fyddai dim fel arall (e.e., yn lle cwyno am y collnod yn "potato's" neu "ticket's", beth am holi pam nad oes na'r un gair o Gymraeg o ba bynnag safon!?).
Eto, mae modd mynd â'r syniadaeth yna'n rhy bell, gan feddwl nad oes ots o gwbl am Gymraeg clir, safonol (a choeth).
Rwy'n gweld fod y drafodaeth hon yn dechrau chwythu'i phlwc. Diolch ichi, felly, Vaughan, am y cyfle i wyntyllu'r syniadau yma.
(Dylwn efallai ychwanegu hefyd bod agwedd Ifor ap Glyn ei hun at yr iaith (a'i defnydd ohoni) yn benigamp).
Pedant Iaith - [a Mr Roderick] Plis peidiwch boddran efo'r gramadeg gwarthus y post yma ['all will become clear']. Y peth pwysig yw dy fod wedi bwrw hoelen ar ei ben fod yna broblem yma. Ond beth yw'r achos ??
Rwyf i yn 'pedantic' iawn am y Saesneg achos :-
1/ Mae'r rheolau yn fwy syml, ac rwyf yn gallu sylwu yn gloi le mae nhw'n cael eu torri.
2/ Mae rhai camgymeriadau yn swno'n 'wrong' ac mae nhw'n irritating iawn.
3/ Rwyf yn ddigon snobyddlyd i gredu fod pobol sydd yn defnyddio 'phenomena' yn yr unigol yn 'thick'.
['double standards' neu beth ??]
4/ Mae y rhan fwyaf o beth rwyf yn darllen yn Saesneg, a dyna'r iaith rwyf yn defnyddio yn y gwaith. Ac mae'r geirfa i chattan gyda'r teulu yn lot llai nag i ysgrifennu erthygl newyddion.
A dyma's 'glo man'. Rwyf yn cydfynd efo John Humphrys, sydd wedi sgwennu llyfr ardderchog 'Lost for Words', fod ystyr yn cael ei golli pan nad ydyn yn defnyddio'r geiriau, neu y ramadeg gywir. Mae yn swnio'n anghywir, ac yn 'awkward'. Ac mae yn gwneud hi yn bosib i ni gael ein twyllo gan wleidyddwyr neu gyfreithwyr sydd yn deall yr iaith yn llawer gwell.
Ond heb newyd fy mywyd [swydd?] i allu defnyddio llawer mwy o'r Gymraeg yn ddyddiol, fydda i, a llawer o bobl fel fi, yn colli yr iaith heb hyd yn oed sylweddoli !!
A fyddai hynna yn trasiedi, nid jyst i mi, ond i llawer o blant sydd yn cael y siawns cyntaf i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol, ond fydd efallai yn gorfod symud i ffeindio gwaith neu, fel lot o blant heddiw, sydd ddim yn hoffi darllen gymaint a gwylio teledu a ffilmiau Americanaidd.
Mae hwn yn mynd i fod yn broblem enfawr. 'For what it's worth' rwyf yn credu fod Mr Roderick yn gwneud job dda iawn ar y blog - nid gwaith 'official' yw hwn [gweled y 'policy' ar yr "Editors' Blog" am esboniad] ac mae lle i iaeth mwy 'colloquial'.
Ond rwy'n cydfynd efo P.I. dylai trial cadw safon y iaith i fyny - "I'm a fine one to talk!" - ond fel gallwch weld, os na gwnawn hynny, a symleiddio y rheolau, neu 'ditcho' nhw yn gyfangwbl, fydd y baban yn mynd mas gyda'r dwr bath, achos fydd 'stealth erosion' yn digwydd i'r nifer o bobol sydd yn defnyddio'r Gymraeg, ac iw 'vocabularly' a fydd neb yn gwybod gwell.
"Until it's too late..."
p.s. Os ydych yn credu fod gramadeg gwael yn rhywbeth 'working class', neu fod fy ngramadeg i yn wael, rwyf fi yn argymell chi i ddarllen 'The Dirk Bogarde Letters'. Mae'r diffyg sbelian a gramadeg gwael yn warthus, ond hwn yw'r llyfr mwyaf doniol rwyf wedi darllen 'in many a long year'.
Reit 'te. Rwy' wedi cymryd cyngor Will. Dyma gychwyn blog newydd: Cawn weld beth ddaw o'r peth! ^^
diawch - yn sydyn reit daeth llif o negeseuon i gyd ar yr un pryd, a minnau'n meddwl fod y drafodaeth wedi "chwythu'i phlwc"!!
Fel ddwedais i, does 'na ddim staff! Roeddwn i ffwrdd o'r cyfrifiadur heddiw!
Ond un o'r rhesymau nad yw pobl yn defnyddio'r adnoddau Cymraeg hyn yw'r ffaith fod yr iaith yn aml yn annealladwy.
Dwi'n meddwl fod yr ofn o gael eu dilorni am ddefnyddio Cymraeg anghywir, pan mewn gwirionedd maent yn defnyddio Cymraeg berffaith naturiol, hefyd yn ffactor yn niffyg hyder pobl i ddefnyddio eu Cymraeg.