Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Deg i dragwyddoldeb

Vaughan Roderick | 11:09, Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009

Dydw i erioed wedi deall pam fod paentio'r bont ar draws Afon Forth yn gymaint o jobyn. Efallai mai un dyn bach yn defnyddio brws sâl sy'n gyfrifol am y dasg! Ta waith, yn ôl y chwedl yr eiliad mae'r gwaith wedi ei gwblhau mae angen dechrau eto.

Rhaglenni noson etholiad yw'r peth agosaf i'r bont ddiarhebol ym myd darlledu. Yr eiliad mae un yn dod i ben mae'n rhaid dechrau ar y nesaf. Y pethau anoddaf a mwyaf pwysig yw sicrhâi bod y meddalwedd ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau yn gweithio'n effeithiol a dewis y llefydd i osod yr unedau darlledu allanol. Dydyn ni ddim yn gwneud y dewisiadau cywir bob tro. Fe wnaethon ni golli canlyniad Ceredigion yn 2005, er enghraifft.

Mae dewisi yn gywir ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf yn arbennig o anodd. Mae ambell i sedd yn amlwg. Does dim angen bod yn athrylith i wybod bod yn rhaid bod yn bresennol yn Aberconwy, Maldwyn a Gorllewin Caerfyrddin!

Y tu hwnt i'r rhai amlwg mae'n fwy anodd. Mae'n ymddangos y bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn un eithaf hen ffasiwn. Yr economi, mae'n debyg, fydd maes y gad gyda gwahaniaethau polisi amlwg a sylfaenol rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr. Os felly fe fydd yn wahanol iawn i unrhyw etholiad yn ystod y chwarter canrif diwethaf ac mae'n bosib y bydd 'na wasgfa ar y pleidiau llai.

Os ydy hynny'n digwydd (ac mae'n "os" go fawr) fe fydd yn rhaid i ni ychwanegu llwyth o seddi newydd at y rhestr or etholaethau gwledig ecsentrig sydd wedi hawlio'n sylw yn ystod etholiadau diweddar. Fe fyddwn yn ôl ar y tir lle ymladdwyd etholiadau'r chwedegau a'r saithdegau- etholaethau trefol a dinesig ymylol fel Gogledd Caerdydd, Gorllewin Casnewydd a Bro Morgannwg. Mae hynny'n creu problem i ni.

Gan amlaf mae adnoddau yn cyfyngu'r nifer o ddarllediadau allanol i rhyw ddwsin. Y tro hwn mae'n ddigon hawdd llunio rhestr o ugain neu fwy o etholaethau diddorol. Mae hynny'n nifer rhyfeddol o fawr yng nghyd-destun hanes gwleidyddol Cymru. Byswn yn tybio bod yn rhai mynd yn ôl i ddauddegau'r ganrif ddiwethaf i ganfod cymaint o etholaethau gwerth eu gwylio. Dyma fy neg uchaf i- fe fyddaf yn sgwennu'n fanwl am bob un o nhw rhwng nawr a'r etholiad.

Aberconwy
Gogledd Caerdydd
Ceredigion
Bro Morgannwg
Arfon
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Dyffryn Clwyd
Ynys Môn
Maldwyn
Pen-y-bont

Mae croeso i chi anghytuno. Beth am Frycheiniog a Maesyfed, Llanelli a Gorllewin Abertawe? Oes gobaith gan Lafur ad-ennill Gorllewin Clwyd? Roedd De Clwyd a Gŵyr yn ymylol yn etholiad y cynulliad- ydy'r un peth yn wir mewn etholiad cyffredinol? Mae 'na ddigon i drafod!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:21 ar 7 Ionawr 2009, ysgrifennodd FiDafydd:


    Dwi'n edrych ymlaen at glywed rhagor! Ond mae'r cwestiwn pryd hefyd yn un diddorol ...

  • 2. Am 17:19 ar 7 Ionawr 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Fe fydd De Clwyd yn hynod ddiddorol, Martyn Jones yr aelod lleol wedi dod mewn am dipyn o sylw negyddol...pwy ydy o, lle mae on, be mae o'n neud ayb. Mae John Bell yr ymgeisydd Ceidwadol wedi bod yn amlwg yn sgwennu i'r wasg yn aml yn gosod hi ar Martyn. Rhaid cofio hefyd am Janet Ryder sydd a proffil reit uchel yn y rhan yma o'r byd. Dwi ddim yn gwybod pwy ydy'r Rh Dem ond mi fuasa presenoldeb Aled Roberts yn gneud y ras yn fwy diddorol fyth.

  • 3. Am 19:21 ar 7 Ionawr 2009, ysgrifennodd Heledd Fychan:

    Fyswn i'n newid Arfon am Lanelli ar y rhestr, ond fel arall, yn dueddol o gytuno. Yn bersonol, y rhai o ddiddordeb imi ydi Ynys Mon, Ceredigion, Aberconwy, Llanelli a Maldwyn. Edrych ymlaen yn arw at yr etholiad, er dwi'n amau byddwn yn aros reit hir erbyn hyn... Llwyth yn medru newid rhwng rwan a 2010 os ydi Brown am aros mor hir a hynny!

  • 4. Am 09:15 ar 8 Ionawr 2009, ysgrifennodd lewsyn:

    Aberconwy - hwn wastad di bod yn sedd "swing"
    Gogledd Caerdydd - i ba raddau mae patrymau San Steffan a'r Cynulliad am ddilyn ei gilydd?
    Ceredigion - Plaid v Lib Dems, Round 2
    Bro Morgannwg - Dylai fod yn saff i'r Toriaid tro ma.
    Arfon - Ddim yn dallt pam fod hwn ar y rhestr
    Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro - Sedd arall tebyg i Aberconwy lle mae Llafur dan fygythiad gan Plaid a'r Toriaid
    Dyffryn Clwyd - Martyn Jones yn Ne Clwyd yn fwy bregus na Chris Ruane dybiwn i.
    Ynys Môn - Plaid angen ennill fama
    Maldwyn - Dibynnu faint o ddarllenwyr Daily Sport sy na yn yr etholaeth?
    Pen-y-bont - nol i'r Toriaid? Os ydio'n mynd yna dan ni nol i 1979 pan ennillodd y Toriaid 13 o seddi Cymru.

    Byswn i'n ychwanegu Delyn i'r rhestr ac efallai y bydd Llafur yn gobeithio adennill Blaenau Gwent gan nad yw Llais y Bobol wedi llwyddo i dorri allan o'r un sedd arbennig yna.

  • 5. Am 16:28 ar 8 Ionawr 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dwi'n cytuno â Heledd Fychan am gyfnewid Llanelli ac Arfon. Fel un sy'n nabod Arfon dwi'n meddwl y bydd hi'n enilliad digon anniddorol a hawdd i Blaid Cymru, waeth beth fo'r sefyllfa economaidd ar hyn o bryd a'r "Brown Bounce" 'ma. Ar y llaw arall, o ystyried etholiadau Cynulliad a Chyngor yn Llanelli, gallai honno fod yn sedd ddiddorol.

  • 6. Am 20:43 ar 8 Ionawr 2009, ysgrifennodd dai T:

    Cytuno a'r Hogyn o Rachub. Mae Helen Mary yn boblogaidd fel AM...gall Pl Cymru ennill y sedd hon

  • 7. Am 12:12 ar 9 Ionawr 2009, ysgrifennodd FiDafydd:


    Yr unig gwestiwn yng Ngheredigion dwi'n credu fydd a yw Mark Williams wedi twyllo digon o bobl ei fod o'n aelod lleol effeithiol - gyda help, nid ansylweddol, ei ffrindiau yn y Cambrian News.

    Tydw i ddim yn credu iddo wneud cyfraniad mawr fel aelod seneddol o gwbl, mae'n rhaid i mi ddweud, ond mae'n syndod pa effaith mae cael eich llun yn y papur yn gyson gyson yn ei gael ar rai.

    O leiaf mi fydd y rhai a bleidleisiodd drosto y tro dwetha gan gredu ei fod o'n gallu siarad Cymraeg yn gwybod yn well y tro hwn - yn byddan?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.