Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Syniad Bach

Vaughan Roderick | 11:33, Dydd Sadwrn, 20 Rhagfyr 2008

Un o'r arfau y mae llywodraeth y cynulliad yn defnyddio i geisio lleddfu effeithiau'r argyfwng economaidd yw cynyddu'r nifer o dai fforddiadwy sy'n cael eu codi. Mae'n syniad da. Mae'n creu gwaith i adeiladwyr ac yn ymateb i angen go iawn. Ond mae 'na rhywbeth arall y gallai'r Llywodraeth, neu yn hytrach y Llywodraeth a'r Cynghorau ystyried fyddai'n gwneud gwahaniaeth i'r sefyllfa dai yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig.

Am y tro cyntaf ers degawdau mae na dai ar gael am brisiau rhesymol yn yr union ardaloedd hynny lle roedd hi bron yn amhosib i bobol leol fforddio prynu tan yn ddiweddar. Am wn i mae rhain yn dai neu'n dai haf y mae'r perchnogion yn gorfod eu gwerthu- am unrhyw bris bron.

Mae cipolwg sydyn ar wefannau y gwerthwyr tai yn ddadlennol. Yng Ngogledd Penfro, er enghraifft mae 'na ddigonedd o fythynnod a thai dechau ar werth am rhwng £100,000 a £150,000. Mae'r un peth yn wir ym Mhen Llŷn. Mewn amgylchiadau arferol fe fyddai'r tai yma o fewn cyrraedd cyplau ifanc ar gyflogau cymharol isel. Y broblem yw, wrth gwrs. nad yw'r amgylchiadau'n arferol ac mae hi bron yn amhosib sicrhâi morgais.

Nawr dyma i chi ffaith fach ddiddorol. Tan y saithdegau roedd hi'n gwbwl arferol i awdurdodau lleol gynnig morgeisi. Diflannodd yr arfer yn wyneb y cystadlu ffyrnig rhwng y Banciau a'r Cymdeithasau Adeiladu am fusnes ond mae'r pŵer cyfreithiol yn bodoli o hyd. Hynny yw fe fyddai'n bosib i Gyngor Sir Benfro, dyweder, fenthyg arian (ac mae 'na arian ar gael i gynghorau ei fenthyg) ac yna benthyg yr arian yna ymlaen i deuluoedd lleol brynu cartrefi. Mae ambell i gyngor yn Lloegr eisoes yn ystyried y syniad.

Jyst dweud.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:30 ar 20 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Ian:

    Ffaith fach ddiddorol efallai, ond Adam Price eisioes wedi codi syniad morgeisi gan awdurdodau lleol yn ystod yr hydref.

    "https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2008/10/09/council-mortgage-call-91466-21996654/

  • 2. Am 19:30 ar 20 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Damia! A dyna fi'n meddwl fy mod yn bod yn wreiddiol. Mae'n werth nodi bod y "Local Government Network" yn gweithio'n galed ar y pwnc hwn ac mae 'na gyfle i'n cynghorau gwelidg yn fan hyn!

  • 3. Am 21:28 ar 20 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Dai :

    Fe fydde unrhyw un ag unrhyw synnwyr yn cadw draw oddi wrth prynnu unrhyw dy yn y presennol. Mae gan prisiau tai lot o gwympo i'w gwneud. Ar gyfarteledd....mae marchnad sy'n cwymp yn cymeryd 3-5 mlynedd. Roedd prisiau tai ar eu mwyaf yn Hydref 2007. Wrth-gwrs, fydd Gordon Brown yn gwneud ei eithaf i gael y gwallgofrwydd i ail-gynnau......ond fel y dywedodd rhywun rhwy dro.....'you can't buck the market'

  • 4. Am 23:36 ar 20 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwynt digon teg...ond ar yr adeg iawn oni fyddai cynnig morgais "fast trac" i bobol leol yn syniad da?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.