Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 21:50, Dydd Gwener, 19 Rhagfyr 2008

Hwre! Mae'n fore Sadwrn unwaith yn rhagor ac mae'n bryd i ni fwynhau'n hun yn y fflics!

Fe wnâi gadw'r teitl "Rialtwch" ar gyfer y gyfres fach yma...ond dychmygwch y tro hwn eich bod yn mynychu nid rhyw Rialto crand ond "fleapit" bach diarffordd, rhywle fel y sinema yn Nhaibach, Port Talbot. Y "cachfa" oedd llysenw'r lle ar lafar gwlad- a nid tynnu coes ynghylch enw'r pentref oedd yr unig reswm am hynny!

Gan ein bod ni yn y de diwydiannol beth am wylio cyfres o ffilmiau o'r rhan honno o'r byd gan gychwyn gyda llewyrch Aberpennar ar drothwy streic fawr 1926

Mae'n anodd credu erbyn hyn pa mor bwysig oedd y Blaid Gomiwnyddol Gymreig ar un adeg. Hawdd yw diawlio'r Comiwnyddion- neu rhamantu yn eu cylch. Mae gen i atgofion personol hoffus o Annie Powell, Dai Francis a Bert Pierce.

Dw i'n teimlo cymysgedd o ryfeddod a mudandod ynghylch ystyfnigrwydd/ teyrngarwch/ dallineb athronyddol Robert Griffiths, Gwyn Griffiths, Gareth Miles a'r gweddill sy'n glynu at yr hen ffydd. Ond fe ddwedai hyn, mae diawlio Hitler a Stalin fel eu gilydd fel llofruddion gwaedlyd yn un peth. At bawb ei haeddiant. Ond roedd, neu mae, Marcsiaeth yn athroniaeth go iawn wedi adeiladu ar seiliau meddylgar cadarn. Ffug athroniaeth, esgus i ladd, oedd Naziaeth.

Dyma ffilm fach rhyfedd yn talu teyrnged i gochion Cymru.


Pwy ar y ddaear fyddai'n comisiynu ffilm i ddathlu pen-blwydd adrefnu llywodraeth leol yng Nghymru? Rhondda Cynon Taf wrth gwrs- ac mae'n hyfryd!

Ac yn olaf David Alexander. Mae na bobol sy'n dal i ddwli...

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:22 ar 20 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Adferwr:

    Robert Griffiths, Gwyn Griffiths a Gareth Miles. Ymysg y triawd mwyaf di-hiwmor a welais erioed. Darllenais lyfr Gwyn Griffiths ar Lydaw er mwyn gwybod lle a pwy i osgoi (Os yr oedd yn ei argymell) ac ymweld (os yr oedd yn ei ffieiddio).
    Gwelwyd Gareth Miles ar ei orau wrth iddo bwdu gyda'r llun honedig ohono yn 'Lol' flynyddoedd yn ol. Awdur arall na fydd neb yn prynu ei lyfrau'r 'Dolig yma.

  • 2. Am 19:33 ar 20 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ar y llaw arall mae bywgraffiad SO Davies gan Robert Griffiths yn llyfr hynod o ddifyr- er y byddai'n annodd peidio bod yn achos SO!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.