麻豆社

Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2008

Maddeuwch i mi...

Vaughan Roderick | 18:55, Dydd Sadwrn, 29 Mawrth 2008

Sylwadau (1)

Draw i Gasnewydd heddiw ar gyfer cynhadledd Plaid Cymru a sawl (wel, ambell) un yn gofyn pam nad ydwyf wedi blogio am ychydig. Y rheswm syml yw bod gen i dair wythnos o wyliau. Maddeuwch i mi, fe fydd yn rhaid i mi gofio gadael nodyn y tro nesaf!

Ta beth roeddwn i yn 么l yn gweithio am y dydd heddiw ac yn cael cyfle i weld y ffordd y mae grym yn newid Plaid. Cymerwch un enghraifft, tan yn ddiweddar fe fyddai adloniant yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn golygu dal bws i rhyw sgubor yn rhywle ar gyfer Twmpath. Nid felly yng Nghasnewydd. Mae Plaid Cymru yn cynnal cinio mawreddog hen yng ngwesty y 鈥淐eltic Manor鈥. Y pris? 拢75 (heb gynnwys gwin). Credwch neu beidio mae cant chwedeg o bobol yn mynd.

A phwy yw hwnna yn nghyntedd y gynhadledd? Wel pwy fyddai'n meddwl? Steve Morgan, neb llai. Y lob茂wr a fu'n rhedeg ymgyrch Peter Hain am y dirprwy arweinyddiaeth Llafur. Cofiwch, efallai bod na fwy o groeso iddo fe fan hyn na fyddai 'na yng Nghastell Nedd y dyddiau yma.

Yr hyn sy'n rhyfeddol yma yw bod pawb yma mewn hwyliau rhyfeddol o dda. Anghofiwch am yr helyntion ynghylch 鈥淵 Byd鈥 ac ysgolion Gwynedd mae hon yn blaid sy'n rhyfeddol o hyderus. Fe ddaw diwedd ar y mis mel, heb os, ond does dim arwydd o hynny eto. Tri chant yn y gynhadledd (y nifer fwyaf erioed mewn cynhadledd wanwyn) a dim un ohonyn nhw'n grwgnach.

Llais Gwynedd? Dim problem. Fe fydd na fwy na digon o seddi annibynnol yn 鈥渄od drosodd鈥 i'r Blaid i wneud yn iawn am unrhyw golledion. 鈥淵 Byd鈥? Penderfyniad call er mwyn osgoi methiant anorfod (nid bod modd dweud hynny ar goedd wrth gwrs).

Fe gawn weld ymhen y mis faint o sail sy na i'r holl optimistiaeth yma.

Podlediad

Vaughan Roderick | 13:08, Dydd Gwener, 14 Mawrth 2008

Sylwadau (0)

Mae 'na gyfle i glustfeinio ar wersi Cymraeg rhai o'r aelodau ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde.

CF99

Vaughan Roderick | 18:47, Dydd Mercher, 12 Mawrth 2008

Sylwadau (0)

Fe fydd cynrychiolwyr o'r pedair plaid yn trafod y gyllideb ar CF99 heno. 10 o'r gloch, S4C.

Mae'n bosib gwylio pigion o'r rhaglen yn fan hyn

Cyfri Ceiniogau

Vaughan Roderick | 14:57, Dydd Mercher, 12 Mawrth 2008

Sylwadau (0)

Gostegu mae'r storom ynghylch cyflogau aelodau'r cynulliad. Cawn weld faint o niwed tymor hir mae'r codiadau'n achosi ond gyda aelodau Llafur ac aelodau'r ddwy wrthblaid yn benderfynol o dderbyn yr arian does dim dwywaith y bydd y newidiadau yn dod i rym. Pedwar ar ddeg o aelodau fydd yn gwrthod derbyn y codiadau sef tri ar ddeg o aelodau Plaid Cymru a'r aelod annibynnol Trish Law. Fe fydd dau aelod o Blaid Cymru yn derbyn yr arian. Dafydd Elis Thomas yw un ohonyn nhw wrth gwrs ond pwy yw'r llall? Wel mae Mohammed Asghar yn gyfrifydd wedi'r cyfan.

Works Wonders

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Mawrth, 11 Mawrth 2008

Sylwadau (4)

Roedd Clwb y Double Diamond yng Nghaerffili bron mor ddiflas 芒'r cwrw o'r un enw. Roedd y lle'n debycach i sied neu warws na neuadd gyngerdd ond yn y dyddiau cyn agor Neuadd Dewi Sant ac Arena Rhyngwladol Caerdydd y Double Diamond oedd y lle i fynd os am weld enwau mawr y byd adloniant. Fel mae'n digwydd cyn-berchennog y clwb oedd un o'r rhai oedd yn gyfrifol am godi'r cerflun o Tommy Cooper yn ddiweddar. Y cyfan ddwedai am hwnnw yw ei fod yn drawiadol ond efallai braidd yn ddi-chwaeth- yn gwbwl addas i'w destun felly.

P芒r arall oedd yn gallu llenwi'r Double Diamond oedd Ryan a Ronnie ac ar hyn o bryd mae S4C yn paratoi drama am y berthynas stormus rhwng y ddau ddigrifwr. Mae'r ffilm gyfan yn cymryd lle yn y clwb nos ac mae hynny wedi pery problemau i'r cynhyrchwyr.

Er bod y Double Diamond wedi diflannu mae 'na hen ddigon o neuaddau a chlybiau a fyddai'n gwneud y tro ar gyfer y ffilm. Nid dyna yw'r broblem. Yr hyn sy'n anodd yw ail-greu naws ac awyrgylch yr hen glwb. Dw i fy hun ddim yn cofio rhyw lawer am y lle ond dwi'n cofio'r drewdod, y sawr sur oedd yn gymysgedd o gwrw rhad, saim sglodion a Players No.6.

Y No.6 yw'r broblem wrth gwrs. Yn 么l yn nyddiau Ryan a Ronnie roedd bron pawb, yn y cymoedd o leiaf, yn smocio ac fe fyddai portreadu'r Double Dimaond neu Ryan ei hun heb sigar茅ts fel dangos y Moulin Rouge heb ferched.

Yma yng Nghymru does 'na ddim eithriadau i'r gwaharddiad ar smygu yn y gweithle. Yn Lloegr ar y llaw arall mae modd gwneud cais i gyngor lleol am eithriad at ddibenion artistig. Lle felly mae鈥檙 ddrama yn cael ei ffilmio? Yn ble mae miloedd S4C yn cael eu gwario? Yn Lerpwl.

Nid trwy hap a damwain y mae hyn wedi digwydd. Yn sgil sefyllfa yn yr Alban lle cafodd Mel Smith ei wahardd rhag cynnau sig芒r yn ystod ei sioe un dyn am Winstone Churchill roedd aelodau'r cynulliad yn gwybod yn iawn y gallai'r fath sefyllfa godi. Gan ddangos anwybodaeth lwyr o'r dechnoleg awgrymwyd y gellid defnyddio technoleg CGI i osod sigarennau yn nwylo actorion. Cymaint oedd pryder yr aelodau dros effaith hyd yn oed y mymryn lleiaf o fwg ar ysgyfaint actorion neu cymaint oedd eu culni Calfinaidd nes iddynt wrthod pob ymdrech i sicrh芒i cyfaddawd.

Yn bersonol mae'n well gen i oglau baco i ddrewdod yr hunangyfiawn!

O Geiniog i Geiniog

Vaughan Roderick | 10:49, Dydd Gwener, 7 Mawrth 2008

Sylwadau (3)

Maddeuwch i mi am beidio blogio ynghylch y busnes cyflogau 'ma cyn hyn. Roedd neithiwr yn noson hir a bore 'ma'n fore cynnar! Does gen i ddim clem sut mae'r holl fusnes yn debyg o ddatblygu ond dw i'n amau nad yw rhai o'n gwleidyddion yn sylweddoli eto pa mor amhoblogaidd y bydd y codiadau ymhlith yr etholwyr. Yn wir mae'n bosib y bydd yr aelodau yn gorfod dewis yn y diwedd rhwng derbyn y codiad a thrwy hynny sicrh芒i pleidlais Na mewn refferendwm a gwrthod y codiad yn y gobaith o sicrh芒i rhagor o bwerau i'r cynulliad.

Nawr mewn sawl ystyr mae hynny'n annheg ond dyw'r byd yma ddim yn berffaith. Gadewch i mi ddweud i ddechrau bod 'na ddim amheuaeth yn fy meddwl i fod aelodau'r trydydd cynulliad yn gweithio llawer yn galetach nac oedd yr aelodau o dan yr hen drefn. Does dim dwywaith chwaeth eu bod yn gweithio cyn galeted ac Aelodau Seneddol os nad yn galetach.

Serch hynny peth peryg yw'r cysylltiad yma rhwng cyflogau yn y Bae a chyflogau San Steffan. Wedi'r cyfan os ydy Aelodau Cynulliad yn haeddu codiad cyflog am wneud mwy o waith oni ddylid torri cyflogau Aelodau Seneddol Cymru am eu bod yn gwneud llai? Wedi鈥檙 cyfan, ydy hi'n deg bod Aelodau Seneddol o Gymru yn derbyn yr un cyflog a lwfansau a rhai o Loegr er bod Aelodau Cynulliad bellach yn delio a'r rhan helaeth o'r gwaith o roi cymorth a chyngor i etholwyr?

Mae amseru yn holl bwysig mewn gwleidyddiaeth. Dw i ddim yn meddwl bod 'na amser da ar gyfer cyhoeddiad o'r fath yma ond mae amseriad yr adolygiad yn arbennig o anffodus. Ar 么l i lywodraeth y Deyrnas Unedig wrthod argymhellion yr ymchwiliadau annibynnol i gyflogau plismyn a'r nyrsys mae'n anodd i'n gwleidyddion ddadlau bod yn rhaid derbyn argymhellion y panel a fu'n ymchwilio i'w cyflogau nhw ddoed a ddelo.

Dyw'r addewid o adolygiad o lwfansau'r aelodau ddim yn gwneud llawer i wella pethau. Mae'n amlwg bod yr adolygiad hwnnw yn ymdrech i ychwanegu m锚l at y moddion trwy awgrymu y bydd yr aelodau'n colli mas mewn rhai ffyrdd ac ar eu hennill mewn ffyrdd eraill. Dyw'r cysylltiad yna ddim yn bodoli mewn gwirionedd. Fe fydd y codiad cyflog yn cael ei 么l-ddyddio i etholiad 2007. Fe fydd unrhyw newid sylfaenol i'w system lwfansau ond yn dod i rym ar ol etholiad 2011. Mae'n bosib y byddai'r etholwyr yn fodlon derbyn sefyllfa lle'r oedd aelodau'r cynulliad yn derbyn codiadau cyflog sylweddol tra'u bod yn colli rhai o'u breintiau a lwfansau ond dim ond os oedd y newidiadau yn digwydd ar yr un pryd. Dyw cael talp o godiad nawr tra'n mwmian am ryw newidiadau aneglur rhywbryd yn y dyfodol ddim yn debyg o dycio.

Be nesaf felly? Wel yn wahanol i'r sefyllfa yn San Steffan does dim angen pleidlais yn y cynulliad er mwyn gwireddu'r argymhellion ond ar ol clochdar cymaint ar y tonfeddi radio a theledu fe fyddai'n rhyfeddol pe na bai aelodau Plaid Cymru yn ceisio codi'r mater yn y siambr. Fe fydd yr wythnos nesaf yn hynod ddifyr a dweud y lleiaf!

Dal i fyny

Vaughan Roderick | 13:30, Dydd Iau, 6 Mawrth 2008

Sylwadau (0)

Roedd 'na drafodaeth fywiog ar CF99 neithiwr ynglyn a'r tenuisynau rhwng San Steffan a'r bae. Dyw rhaglenni Cymraeg y 麻豆社 ddim yn ymddangos ar yr iPlayer" hyd yma. Yn ffodus mae gen i vPlayer!
Os wnaethoch chi golli'r rhaglen cliciwch yn fan hyn.

Iaith ar waith

Vaughan Roderick | 12:47, Dydd Iau, 6 Mawrth 2008

Sylwadau (3)

Pan oeddwn i'n grwt dw i'n cofio cael fy synnu o weld y geiriau "Dinas Caerdydd" yn ymddangos ar ochrau'r bysus oren. Hwnnw oedd y tro cyntaf yn fy mywyd i mi weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn unrhyw fath o ffordd swyddogol.Mae'n anodd cofio nawr pa mor anweladwy oedd y Gymraeg yn nwyrain Cymru tan ddiwedd y chwedegau. Ac eithrio ambell i arwydd capel ac ambell i enw stryd, Saesneg, a Saesneg yn unig oedd yn teyrnasu.

Mae pethau wedi newid erbyn hyn wrth gwrs ac mae'r newidiadau hynny'n parhau. Un newid nodweddiadol diweddar yw'r duedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn unig wrth enwi sefydliadau newydd. Ddoe er enghraifft cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer ysbyty cyffredinol newydd yng Nglyn Ebwy. "Ysbyty Aneurin Bevan" fydd enw'r lle. "Ysbyty Aneurin Bevan" sylwer nid "Ysbyty Aneurin Bevan Hospital". Yr un yw'r patrwm gydag Ysbyty'r Tri Chwm yn yr un ardal ac Ysbyty Ystrad Fawr yng Nghwm Rhymni.

Maw hwn yn gam bychan ond yn un reit bwysig o safbwynt normaleiddio'r Gymraeg. Cymerwch f'annwyl gyflogwyr fel esiampl. Ar raglenni Saesneg y gorfforaeth cyfeirir at "Ysbyty Gwynedd" gan mai hwnnw yw'r enw swyddogol ond "Glan Clwyd Hospital" sy'n cael ei ddefnyddio gan fod enw swyddogol y sefydliad hwnnw'n ddwyieithog.

Nawr dw i ddim yn dadlau am eiliad bod hyn yn achubiaeth i'r Gymraeg ond yn enwedig mewn ardaloedd fel cymoedd Gwent mae gwneud y Gymraeg yn weladwy ac yn rhan o fywyd bob dydd yn bwysig.

Cafwyd cam bach arall ymlaen i'r iaith gyda'r cyhoeddiad bod yr Undeb Ewropeaidd yn bwriadu cydnabod y Gymraeg fel "cyd-iaith swyddogol. Nawr dyw hynny ddim cweit cystal 芒 bod yn iaith swyddogol- ac mae rhai o rheiny a llawer llai o siaradwyr na'r Gymraeg. Serch hynny mae'n golygu y bydd gan y Gymraeg yr un statws a'r Gatalaneg a'r Fasgeg. O hyn ymlaen fe fydd hi'n bosib defnyddio'r Gymraeg i ohebu 芒 sefydliadau鈥檙 undeb ac i siarad Cymraeg mewn rhai cyfarfodydd. Yr unig broblem yw mai'r cynulliad fydd yn gorfod darparu a thalu am y gwasanaeth. Mae cost gwasanaethau mewn ieithoedd swyddogol, y Wyddeleg er enghraifft, yn cael eu talu o goffrau'r undeb. Esgus arall dros eu wado nhw Ddydd Sadwrn.

Troi'n bersonol?

Vaughan Roderick | 17:09, Dydd Mercher, 5 Mawrth 2008

Sylwadau (1)

Mae llawer o son wedi bod yr wythnos hon am y tensiynau rhwng Llafur yn y cynulliad a'r Aelodau Seneddol. Erbyn hyn dyw pobol ddim hyd yn oed yn ceisio celu'r ffaith. Mae'r llawer o'r tensiynau hynny i'w gweld pan geir trafodaethau ar wasanaethau traws-ffiniol, pwnc sy'n destun ymchwiliad gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Lansiwyd yr ymchwiliad hwnnw ar gais Aelod Seneddol Wrecsam Ian Lucas.

Y prynhawn yma roedd y cynulliad yn trafod yr un pwnc ac mewn araith ryfeddol dywedodd cynrychiolydd Wrecsam ym Mae Caerdydd Leslie Griffiths hyn "Sadly in recent times the very term cross-border been somewhat hijacked by people who see themselves as self-styled sceptics on devolution and the phrase cropss-border is now almost a metaphor for a lack of aspiration and ambition that is now infecting the body-politic in certain parts of Wales."

Os nad oedd ffiniau yn bwysig wrth gyflenwi gwasanaethau meddai doedd dim pwrpas ceisio sicrh芒i Prifysgol yn Wrecsam. Wedi'r cyfan mae 'na hen ddigon o brifysgolion y tu hwnt i Glawdd Offa. Pam brwydro dros gael carchardy yng Ngogledd Cymru pan mae 'na garchardai yng Ngogledd Orllewin Lloegr? Pam ceisio denu gwaith i Wrecsam gyda hen ddigon o swyddi ar gael ym Manceinion?

Am bwy oedd Leslie Griffith yn meddwl wrth iddi draddodi ei geiriau, tybed? Nid Ian Lucas siawns?

CF99

Vaughan Roderick | 15:07, Dydd Mercher, 5 Mawrth 2008

Sylwadau (0)

Y darpar Arglwydd Dafydd Wigley, arweinydd Cyngor Wrecsam Aled Roberts a'r aelod seneddol Nia Griffith yw'r gwesteion ar CF99 heno. Ymhlith y pynciau mae cost gynyddol pencadlys Llywodraeth y Cynulliad yn y gogledd, y ffrae am barcio a'r berthynas rhwng llywodraethau Caerdydd a San Steffan a honiadau bod ein cynghorau yn gwastraffu arian cyhoeddus.

S4C 9.30

Oriau Gwaith

Vaughan Roderick | 15:01, Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2008

Sylwadau (1)

Heb fod yn or-bersonnol mae rhai a aelodau Llafur y Gogledd yn bobol reit fawr. Nid ar chwarae bach y byddai dyn yn ceisio troi eu breichiau. Serch hynny mae'n ymddangos bod rhywun wedi gythrel o gic iddyn nhw.

Ers tro byd bellach mae aelodau Llafur y Gogledd wedi bod yn gwrthsefyll pwysau i gynnal cyfarfodydd o bwyllgorau'r cynulliad ar bnawn dydd Iau.

Gyda'r gwaith ychwanegol yn sgil pwerau newydd y cynulliad does dim dewis ond ymestyn oriau gwaith yr aelodau a phrynhawn Ddydd Iau yw'r amser amlwg i wneud hynny. Dyna oedd barn y ddwy wrthblaid. Roedd Plaid Cymru a'r rhan fwyaf o aelodau Llafur yn cytuno. Ond doedd dim modd argyhoeddi llond dwrn o aelodau Llafur y Gogledd oedd yn credu, mae'n ymddangos, bod ganddyn nhw ryw hawl ddwyfol i gyrraedd Rhyl, y Fflint neu le bynnag cyn amser swper.

Mae'r pwyllgor busnes wedi treulio oriau lawer yn ceisio cyrraedd consensws. Heddiw ar 么l cyfarfod stormus lle wrthododd yr aelodau Llafur ildio modfedd roedd hi'n amlwg bod y mwyafrif wedi cael digon. Dechreuodd yr e-byst a'r galwadau ff么n gyrraedd yn briffio'r cyfryngau am yr hyn oedd yn digwydd. Mewn cynhadledd newyddion bu'n rhaid i lefarydd y llywodraeth wrthod awgrymiadau bod yr aelodau yn "ddiawled diog".

O ba fodd y cwymp y cedyrn! O fewn oriau daeth y sibryd bod y gwrthryfel ar ben. Roedd aelodau Llafur y Gogledd wedi ildio. Pwy ddywedodd beth wrth bwy? Dyn a 诺yr ond mae'n amlwg bod neges ddigon eglur wedi ei ddanfon.

Iesgob!

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2008

Sylwadau (0)

Duw mae'r Esgobion 'ma'n bobol brysur!

Ddydd Gwener roedd Esgob T欧 Ddewi yn canmol llywodraeth y cynulliad i'r cymylau. Heddiw Esgobion Trefynwy a Henffordd sy wedi bod wrthi yn cyhuddo llywodraeth y Bae o ystyried ideoleg yn bwysicach na buddiannau cleifion. Roedd y ddau Esgob yn cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i wasanaethau traws-ffiniol.

Oes 'na sgism eglwysig i fod gyda Eglwys y Dwyrain yn ffafrio San Steffan ac Eglwys y Gorllewin yn bendithio'r Bae? Pwy fydd yn ennill y frwydr rhwng Pab T欧 Ddewi a Phatriarch Trefynwy? Ai Don Touhig yw ein Cystennin ac os felly pwy fydd yn Romulus Awgwstws Cymru?

A fo ben...

Vaughan Roderick | 11:58, Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2008

Sylwadau (0)

Doeddwn i ddim yn y gwaith ddoe, gwaetha'r modd. Roeddwn i'n gwybod bod y cyhoeddiad parcio yn dod ond go brin y gallwn i broffwydo'r ymateb yn enwedig sylwadau byrbwyll ac ymosodol Gweinidog Iechyd Lloegr Ben Bradshaw.

Mae sylwadau Mr Bradshaw wedi pery peth embaras i Lafur yn y cynulliad ond dim cymaint 芒 hynny. Wedi'r cyfan mae dileu taliadau parcio yn bolisi poblogaidd ac os ydy Lloegr yn gwrthod dilyn yr un trywydd onid yw hynny'n enghraifft berffaith o'r d诺r coch clir? Oedd 'na wen fach slei ar wyneb Carwyn Jones wrth iddo resynu bod sylwadau Mr Bradshaw wedi achosi tensiynau rhwng San Steffan a'r Bae?

Os ydy Llafur yn dawel fodlon mae Plaid Cymru wrth eu boddau. Creu hollt o fewn y Blaid Lafur rhwng gwleidyddion y Bae a rhai San Steffan yw un o brif amcanion strategol Plaid Cymru ac mae'r ffrae yma'n enghraifft berffaith o hynny.

Mae hynny'n gadael y gwrthbleidiau. Mae dadl y Ceidwadwyr yn un ryfedd. Tra eu bod yn cytuno a'i feirniadaeth o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mae'r blaid o'r farn bod Mr Bradshaw wedi torri confensiynau cyfansoddiadol trwy ymosod yn gyhoeddus ar lywodraeth ddatganoledig.Ond mae ganddyn nhw gwestiwn da sef hwn; "ydy Gordon Brown yn cytuno a'i weinidog?" Peidiwch 芒 synnu os ydy David Cameron yn gofyn y cwestiwn hwnnw yn San Steffan yfory.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.