Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Works Wonders

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Mawrth, 11 Mawrth 2008

Roedd Clwb y Double Diamond yng Nghaerffili bron mor ddiflas â'r cwrw o'r un enw. Roedd y lle'n debycach i sied neu warws na neuadd gyngerdd ond yn y dyddiau cyn agor Neuadd Dewi Sant ac Arena Rhyngwladol Caerdydd y Double Diamond oedd y lle i fynd os am weld enwau mawr y byd adloniant. Fel mae'n digwydd cyn-berchennog y clwb oedd un o'r rhai oedd yn gyfrifol am godi'r cerflun o Tommy Cooper yn ddiweddar. Y cyfan ddwedai am hwnnw yw ei fod yn drawiadol ond efallai braidd yn ddi-chwaeth- yn gwbwl addas i'w destun felly.

Pâr arall oedd yn gallu llenwi'r Double Diamond oedd Ryan a Ronnie ac ar hyn o bryd mae S4C yn paratoi drama am y berthynas stormus rhwng y ddau ddigrifwr. Mae'r ffilm gyfan yn cymryd lle yn y clwb nos ac mae hynny wedi pery problemau i'r cynhyrchwyr.

Er bod y Double Diamond wedi diflannu mae 'na hen ddigon o neuaddau a chlybiau a fyddai'n gwneud y tro ar gyfer y ffilm. Nid dyna yw'r broblem. Yr hyn sy'n anodd yw ail-greu naws ac awyrgylch yr hen glwb. Dw i fy hun ddim yn cofio rhyw lawer am y lle ond dwi'n cofio'r drewdod, y sawr sur oedd yn gymysgedd o gwrw rhad, saim sglodion a Players No.6.

Y No.6 yw'r broblem wrth gwrs. Yn ôl yn nyddiau Ryan a Ronnie roedd bron pawb, yn y cymoedd o leiaf, yn smocio ac fe fyddai portreadu'r Double Dimaond neu Ryan ei hun heb sigaréts fel dangos y Moulin Rouge heb ferched.

Yma yng Nghymru does 'na ddim eithriadau i'r gwaharddiad ar smygu yn y gweithle. Yn Lloegr ar y llaw arall mae modd gwneud cais i gyngor lleol am eithriad at ddibenion artistig. Lle felly mae’r ddrama yn cael ei ffilmio? Yn ble mae miloedd S4C yn cael eu gwario? Yn Lerpwl.

Nid trwy hap a damwain y mae hyn wedi digwydd. Yn sgil sefyllfa yn yr Alban lle cafodd Mel Smith ei wahardd rhag cynnau sigâr yn ystod ei sioe un dyn am Winstone Churchill roedd aelodau'r cynulliad yn gwybod yn iawn y gallai'r fath sefyllfa godi. Gan ddangos anwybodaeth lwyr o'r dechnoleg awgrymwyd y gellid defnyddio technoleg CGI i osod sigarennau yn nwylo actorion. Cymaint oedd pryder yr aelodau dros effaith hyd yn oed y mymryn lleiaf o fwg ar ysgyfaint actorion neu cymaint oedd eu culni Calfinaidd nes iddynt wrthod pob ymdrech i sicrhâi cyfaddawd.

Yn bersonol mae'n well gen i oglau baco i ddrewdod yr hunangyfiawn!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:46 ar 11 Mawrth 2008, ysgrifennodd Helen:

    Beth? Mae oglau baco’n wenwynig iawn – ffaith sydd wedi’i phrofi droeon – felly byddai’n well defnyddio sigarennau ffug, fel a geir o siopau iechyd, ynghyd â mwg theatr, i greu’r effaith a’r naws – ac yna ffilmio yng Nghymru. Yn anffodus, roedd smygu’n ffasiynol iawn yn y 70au a hyd yn oed ymlaen i’r 80au ond, erbyn hyn, mae agwedd y mwyafrif wedi newid. Rhaid symud gyda’r oes yn hyn o beth, dyna ddywedaf i, yn enwedig a ninnau ar drothwy Diwrnod Dim Smygu.

  • 2. Am 19:54 ar 11 Mawrth 2008, ysgrifennodd D Thomas:

    Beth wyt ti'n siarad amdano Helengyfiawn. Mae polonium-210 yn wenwynig iawn.....Wir, beth yw'r pwynt ceisio esbonio. Rwy'n gadel hi fan 'na.

  • 3. Am 10:59 ar 19 Mawrth 2008, ysgrifennodd Helen:

    Mae'n wir na wnaiff un sigarét ladd neb, yn wahanol i sylweddau gwenwynig eraill, ond mae mwg sigarét yn yr awyr nid yn unig yn wenwynig, ond hefyd yn drewi ac yn mynd i wallt a dillad pobl - annifyr dros ben. Felly rwy'n dal i ddweud na ddylid gwthio neb i'r math yna o awyrgylch. Ar y llaw arall, er fy mod 100% o blaid gwahardd smygu ym mhob man cyhoeddus dan do, credaf ei bod yn eithafol iawn gwahardd cleifion ysbytai meddwl rhag ysmygu hyd yn oed yn y gerddi! Dylid neilltuo lle iddynt yn yr awyr agored.

  • 4. Am 11:40 ar 19 Mawrth 2008, ysgrifennodd Helen:

    Mae’n wir na wnaiff un sigarét ladd neb, yn wahanol i sylweddau gwenwynig eraill, ond mae mwg sigarét yn yr awyr nid yn unig yn wenwynig, ond hefyd yn drewi ac yn mynd i wallt a dillad pobl – annifyr dros ben. Felly rwy’n dal i ddweud na ddylid gwthio neb i’r math yna o awyrgylch. Ar y llaw arall, er fy mod 100% o blaid gwahardd smygu ym mhob man cyhoeddus dan do, credaf ei bod yn eithafol iawn gwahardd cleifion ysbytai meddwl rhag ysmygu hyd yn oed yn y gerddi! Dylid neilltuo lle iddynt yn yr awyr agored.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.