Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pregeth gan Peter

Vaughan Roderick | 15:24, Dydd Iau, 28 Chwefror 2008

Mae Peter Hain wedi mentro yn ôl i'r llwyfan cyhoeddus gydag araith yn Nhŷ’r Cyffredin ac e-daflen yn amlinellu ei weledigaeth ynghylch dyfodol Cymru. Fe fydd y daflen yn ymddangos ar safle yn y man.

Mae'r cyn-ysgrifennydd yn ofalus i beidio â beirniadu llywodraeth y cynulliad one mae e yn mynegi pryder ynghylch dyfodol economi Cymru oherwydd yr hyn mae fe'n gweld fel gorddibyniaeth ar y sector gyhoeddus.

Dyw'r ffigyrau y mae Peter yn eu dyfynnu ddim yn rhai newydd ond maen nhw'n werth eu hail-adrodd. Mae gwariant cyhoeddus yn 59% o GDP Cymru o gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 44%. Yn ôl aelod Castell Nedd dyw e hi ddim yn bosib adeiladu economi ffyniannus heb leihau’r orddibyniaeth yna ar y sector gyhoeddus. Er mwyn cau'r bwlch mae'n dadlau y dylai llywodraethau Bae Caerdydd a San Steffan geisio sicrhâi bod y sector breifat yng Nghymru yn tyfu'n gynt nac yng ngweddill Prydain.

Sut mae gwneud hynny? Wel mae gan Peter gyfres o awgrymiadau ond efallai mai'r mwyaf dadleuol yw hwn; "penderfyniadau anodd ynghylch gwariant cyhoeddus gyda moratoriwm ar gynlluniau rhad ac am ddim er mwyn buddsoddi mewn creu economi gystadleuol."

Nawr dw i ddim am roi geiriau yng ngheg Peter ond dw i'n meddwl ei fod yn cyfeirio yn fan hyn at rai o'r polisïau sydd wedi nodweddi "dwr coch clir" Rhodri Morgan pethau fel dileu taliadau presgripsiwn a theithio rhad i bensiynwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dw i'n sicr nad yw Peter yn dadlau dros ddileu'r cynlluniau hynny, yn hytrach mae'n rhybuddio y dylai llywodraeth y cynulliad ochel rhag y temtasiwn i brynu poblogrwydd yn y dyfodol.

Mae'r neges yn un amserol. Roedd 'na duedd ym mlynyddoedd cynnar y cynulliad i wleidyddion y Bae geisio profi eu gwerth trwy ddelifro cynlluniau symbolaidd. Gydag arolwg barn y Â鶹Éç a gyhoeddir heddiw yn awgrymu bod datganoli bellach yn cael ei dderbyn gan y mwyafrif llethol o bobol Cymru efallai bod yr amser wedi dod i fuddsoddi ar gyfer y tymor hir.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:46 ar 28 Chwefror 2008, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Roeddw ni yn un o bolsters ICM nol ym Mhol Mehefin 2007. Roedd yn dra ddiddorol OND roedd yna un peth problematig iawn, doedd y gwr o'r India (fe'i holais ar y diwedd o lle roedd yn gweithio) methu yn lan ac ynganu "Plaid Cymru", "Elfyn Llwyd", "Ieuan Wyn Jones" etc...

    Ceisiais esbonio iddo fod y pol yn flawed gan nad oedd yn ynghanu'r enwau yna yn iawn (un opsiwn oedd 'ddim wedi clywed am Plaid Cymru', ac oherwydd yr ynghaniad mi fydd llawer yn dewis hwna jest oherwydd nad ydyn nhw'n sylwi mae cyfeirio at y Blaid neu Elfyn Llwyd oedden nhw) ond protestiodd ei fod wedi bod ar sawl cwrs dysgu Saesneg ac ei fod a sawl cymhwyster yn yr iaith Saesneg - yna esboniais iddo mae nid Saesneg oedd iaith yr enwau oedd yn eu cam ynghanu! Holais am gael siarad gyda'i
    reolwr ond sypreis sypreis doedd y rheolwr ddim yna.

    Vaughan, tybed all y Â鶹Éç gadarnhau fod ICM wedi defnyddio gweithwyr oedd yn drwydl yn eu ynganu y tro yma? Oni bai am hynny nid yw'r pol yn un teg yn fy nhyb i, sy'n drist i feddwl fod ICM yn un o'r asiantaethau uchaf eu parch fel arfer.

  • 2. Am 17:57 ar 28 Chwefror 2008, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

  • 3. Am 12:26 ar 29 Chwefror 2008, ysgrifennodd Vaughan:

    Rhys, Mi wyt ti yn llygad dy le bod 'na gwynion ynghylch ynganu yn arolwg blaenorol. Y tro hwn rhoddwyd canllawiau manwl i'r holwyr. Serch hynny gwn am un gwyn o'r fath y tro hwn. Roedd y gwyn yn ymwneud ar ynganiad o Blaid Cymru yn y cwestiwn ynghylch pwy oedd yn ffurfio'r llywodraeth. Rhoddodd y Â鶹Éç fawr o bwys ar y cwestiwn hwnnw ta beth (er bod eraill wedi gwneud) ac mae ICM yn ein cynghori na fyddai'r cam ynganiad hwnnw wedi cael effaith ar y canlyniadau. Serch hynny fe fydd angen rhagor o waith, dybiwn i. Sylw personol gyda llaw nid ymateb swyddogol!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.