Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O'r Pulpud

Vaughan Roderick | 13:35, Dydd Gwener, 29 Chwefror 2008

Gan nad yw'r rhain yn cael rhyw lawer o sylw gan amlaf dw i wedi penderfynu cyhoeddi ambell i ddatganiad Gŵyl Dewi gan ein harweinwyr crefyddol. Dau yn arbennig sy wedi denu fy sylw. Hwn yn gyntaf gan Esgob Tyddewi.

"Yr wyf yn llongyfarch y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn eu swyddi allweddol yn llywodraeth glymblaid newydd Cymru. Cefais y pleser o arwain Esgobion yr Eglwys yng Nghymru i fabwysiadu cyfres o gynlluniau ledled Cymru wedi eu sylfaenu ar fframwaith strategol Cymru'n Un. Yr ydym o ddifrif ynglŷn â Chymru'n Un, ac yr ydym yn sicrhau holl aelodau'r cabinet a'r Cynulliad o'n cefnogaeth wrth wynebu'r sialensiau sydd o'n blaen."

Mae'n ymddangos bod yr Eglwys yng Nghymru, er gwaetha'r degawdau ers y datgysylltiad o hyd yn hoff o ymddwyn fel Eglwys Sefydledig! A fydd cytundeb Cymru'n Un yn rhan o'r gyffes ffydd maes o law?

Nawr dyma ddatganiad gan yr Annibynwyr;

Bydd y Cymry yn darfod fel cenedl os na awn ni nôl at ein gwreiddiau Cristnogol - dyna rybudd difrifol Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parchg Dewi Myrddin Hughes yn ei neges Gŵyl Ddewi. "Fe wnaeth y ffydd Gristnogol a'r genedl gyrraedd gyda'i gilydd - tua mil a hanner o flynyddoedd yn ôl," meddai "ac mae'r ddau wedi cynnal ei gilydd fyth ers hynny."

"O gyfnod Dewi Sant tan ein dyddiau ni, mae'r genedl Gymreig wedi wynebu peryglon mawr. Fwy nag unwaith, bu ond y dim inni ddiflannu. Ond rhoddodd Duw bobl ardderchog i'n dysgu ac i'n harwain : Dewi Sant ei hun a'r holl seintiau eraill sydd a'u henwau'n fyw yn ein 'Llannau' hyd heddiw ; William Morgan, a ymestynnodd oes yr Iaith Gymraeg drwy gyfieithu'r Beibl ; merthyron fel John Penri, ac emynwyr mawr fel Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths."

Ond eto, meddai Mr Hughes, er gwaetha'r hyder newydd a ddaeth yn sgil datganoli gwleidyddol, digon bregus yw bywyd y genedl. "Mae'r wasgfa yn fawr, a gyda'r iaith Saesneg yn ymwthio i bobman, ac mor gryf, ofnwn weld y Gymraeg yn cael ei thagu. Rydym ninnau yn aml yn wangalon ; nid yw'r taerineb i gadw'r iaith yn fyw yn ddigon cryf ynom. Rhaid i ni ddal ein gafael yn yr iaith, y ffiol hon sydd wedi cynnal y ffydd ar hyd y canrifoedd."

Ydy'r Iaith a Christnogaeth mor ddibynnol ar ei gilydd erbyn hyn? Os fu 'na gynnydd ym myd y Capeli yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng Nghapeli Efengylaidd Saesneg a Chapeli'r Bedyddwyr Saesneg y mae e wedi bod. Mae'r syniad y byddai adfywiad crefyddol yn arwain at adfywiad ieithyddol wastad wedi taro fi fel un weddol ddi-sail. Wedi'r cyfan gwnaeth diwygiad 04-05 fawr ddim i atal dirywiad yr iaith yn hanner gyntaf y ganrif ddiwethaf. Ta beth am hynny fe fyddai'n Nhad-cu yn falch fy mod wedi rhoi mensh i’r hen enwad!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:09 ar 1 Mawrth 2008, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Difyr iawn Vaughan, diolch. Maen bwnc ac yn fater dyrus (dyma ydy asgwrn cefn fy thesis PhD am waith a dylanwad Dr. R. Tudur Jones gyda llaw). Ar y cyfan dwi'n meddwl fod dyn, wedi cael troedigaeth Grefyddol, yn tueddu i gymryd popeth yn fwy difrifol, ac mae hynny yn cynnwys dyfodol diwylliant a rol gwleidyddiaeth. Rwyt ti'n iawn i nodi na fu hynny o'r rheidrwydd yn wir yn 04-05 ond roedd 04-05 yn unigryw oherwydd dylanwad pietistiaeth a Keswickiaeth ar y pryd. Dwi wedi trio esbonio hyn yn fy mhapur sy'n trafod Critique Pennar Davies (un y 'Lys Llangadog' wrth gwrs) o Biestisiaeth:

    O ran y sefyllfa gyfoes gyda thwf Eglwysi Efengylaidd a Bedyddiedig Saesneg. Ar y cyfan rwyt ti'n iawn i nodi eu bod nhw yn reit oblivious i'r ffaith ei bod nhw mewn gwald arall - hynny yw - wrth weddio dros "our Nation" ar y Sul dy chi'n gwybod eu bod nhw'n cyfeirio at Brydain ac nid at Gymru. Fodd bynnag mae yna shift i'w weld yn eu hagweddau dwi'n meddwl - mae mwy a mwy o Eglwysi mawr Saesneg Caerdydd a'r Cymoedd a rhai yma ar arfordir y Gogledd yn dod i weld eu cyfrifoldeb penodol dros y "winllan wen" fel petae. Er enghriafft mae gan yr Evangelical Alliance (corff ffederal sy'n uno llawer o'r Eglwysi Efengylaidd a Bedyddiedig modern yma) lobiwr llawn amser yn y Cynulliad nawr, Jim Stuart, ac mae e wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Nid oes yr un o'r hen enwadau wedi gwneud unrhywbeth mor arloesol a hynny hyd yma. Hefyd mae Eglwysi mawr Saesneg fel Rhiwbina Baptist yn teimlo baich dros y Gymry Gymraeg ac wedi anfon aelodau ifanc allan i'r Fro i weithio i adfywio eglwysi Cymraeg.

    Ond fe wyddost yn iawn pwy yw'r arbennigwr mawr ac y pwnc hwn? Neb llai na'r Gweinidog Diwylliant ei hun ac un o gywion Bala-Bangor Dr. Tudur y Parch. Rhodri Glyn-Thomas oblegid yn 1993 bu iddo ennill gradd M.Th am ei thesis ar 'Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a'r ymgyrchoedd dros statws i'r iaith Gymraeg yng Nghymru 1962-1991.' Tybed be fyddai'r Tadau ymneulltuol yn ei wneud o'i gampau diweddaraf?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.