Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Swyno'r Sun

Vaughan Roderick | 12:24, Dydd Mawrth, 25 Medi 2007

Digon diflas a disylwedd oedd cynadleddau newyddion wythnosol y llywodraeth a'r brif wrthblaid heddiw gydag Edwina Hart yn canolbwyntio ar fusnes dydd i ddydd y cynulliad a'r Ceidwadwyr unwaith yn rhagor yn galw am refferendwm ar ddyfodol yr Undeb Ewropeaidd. Yfory fe fydd y cynulliad yn trafod y pwnc yn amser y Ceidwadwyr er wrth gwrs mai mater i San Steffan yw pleidlais o'r fath.

Mae'r cwestiwn o refferendwm wedi dod i frig yr agenda unwaith yn rhagor gyda'r Sun yn lansio ymgyrch rymus dros gynnal pleidlais. Serch hynny, dw i ddim yn sicr pa mor fanteisiol yw hi i'r Ceidwadwyr drafod y pwnc. Mae'n ddigon gwir bod arolygon barn yn awgrymu bod y mwyafrif llethol o bobol am weld pleidlais yn cael ei chynnal ond does 'na fawr ddim tystiolaeth bod Ewrop yn effeithio ar batrymau pleidleisio ac eithrio mewn etholiadau Ewropeaidd.

Y peryg i'r Torïaid yw bod son gormod am y pwnc yn atgoffa'r etholwyr o gyfnod John Major a'r rhaniadau o fewn y blaid yn ystod y blynyddoedd hynny. Y gwir amdani yw nad yw Ewrop yn bwnc o bwys i'r rhan fwyaf o etholwyr ac mae'r rheiny sy'n obsesiynol am sofraniaeth y DU eisoes yn cefnogi'r Ceidwadwyr neu'n fflyrtio ac UKIP. Ydy'r Ceidwadwyr mewn gwirionedd yn dymuno dychwelyd i'r dyddiau rhyfedd hynny lle'r oedd pob Tori gwerth ei halen yn gorfod gwisgo bathodyn siâp y bunt ar ei got?

Dw i ddim yn gweld bod rhygnu ymlaen am Ewrop yn mynd i ennill pleidleisiau i'r Ceidwadwyr ond efallai nad hynny yw'r bwriad. Efallai bod yr ymgyrch wedi ei anelu at ennill cefnogaeth un person penodol a Rupert Murdoch yw'r person hwnnw.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.