Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Eluned a'r dŵr coch claer

Vaughan Roderick | 13:23, Dydd Mawrth, 25 Medi 2007

Mae Arfon Jones wedi codi cwestiwn diddorol yn y sylwadau. Cystal cwestiwn nes i mi benderfynu ei ddyrchafu i'r dudalen flaen!

"Oes 'na rywbeth mawr wedi digwydd o fewn y Blaid Lafur Gymreig...a dwi wedi methu'r digwyddiad? O'n i'n meddwl fod yna ddwy garfan lafurol yng Nghymru, sef cenedlaetholwyr ar unoliaethwyr. Rwan mae ganddo ni Eluned Morgan a Carwyn Jones yn siarad oddi ar yr un sgript a Touhig/Murphy a Kinnock. Ydy'r dynamics cyfansoddiadol wedi newid?"

Cyfeirio mae Arfon at y stori .

Mae Arfon yn gywir bod Llafur Cymru yn ceisio cyflwyno ffrynt unedig ar drothwy etholiad ond dw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth sylfaenol wedi newid. Mae'r posibilrwydd o etholiad cynnar yn golygu y bydd y tensiynau sy'n bodoli yn cael eu claddu am y tro. Mae'n bwysig hefyd dw i'n meddwl i gofio nad cenedlaetholwyr yw pobol fel Carwyn ac Eluned ond datganolwyr. Does 'na ddim byd anghyson mewn dadlau dros lywodraeth fwy grymus yng Nghaerdydd tra ar yr un pryd yn amddiffyn undod y DU.

Mae safbwynt Eluned yn hynod ddiddorol. Cefais sgwrs a hi Ddydd Gwener ynghylch canlyniadau etholiad y cynulliad ac mae hi o'r farn nad yw'r Blaid eto wedi sylweddoli pa mor agos y daeth hi at drychineb etholiadol. Ym marn Eluned oni cheir ymdrech i apelio yn fwy eang mae 'na beryg go iawn y gallai Llafur fod yn ail blaid y cynulliad yn 2011.

Mae apelio'n fwy eang yn golygu dau beth. Yn gyntaf mae angen i Lafur apelio at etholwyr yn y Gogledd a'r Gorllewin wnaeth droi at Blaid Cymru. Roedd y ffordd wnaeth y blaid ddelio a David Collins yn brawf yn ôl Eluned bod y wers honno wedi ei dysgu. Ond mae'n rhaid i Lafur hefyd gynyddu ei hapêl yn y dinasoedd lle mae'r Ceidwadwyr yn ennill tir. Dyw polisïau asgell chwith draddodiadol (fel rhai Rhodri Morgan- a Phlaid Cymru o ran hynny) ddim yn debyg o wneud hynny ym marn Eluned. Yn lle hynny dylai'r blaid ddysgu gwersi gan Lafur Newydd yn Lloegr ar bynciau megis cynnig rhagor o ddewis i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus.

Mae hon yn ddadl gwbwl gwahanol i'r ddadl gyfansoddiadol. Fe fyddai "unoliaethwr" fel Huw Lewis er enghraifft yn tueddu ochri gyda Rhodri dros y dŵr coch claear tra bod "datganolwraig" fel Eluned ar yr ochr arall i'r ffens.

Yn fy marn i mae 'na gryn sylwedd yn nadansoddiad Eluned. Mae'r nifer o gefnogwyr Llafur "traddodiadol" yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn ac mae newidiadau demograffig mewn etholaethau fel Gwyr, Caerffili a Phontypridd yn golygu bod etholaethau oedd yn gadarnleoedd yn prysur droi'n ymylol ar lefel gynulliadol. Mae 'na beryg go iawn y gallai na fod "dwr coch claer" rhwng polisïau Llafur Cymru a safbwyntiau a dyheadau nifer cynyddol o etholwyr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:19 ar 25 Medi 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Gall rhywun esbonio i fi beth yw'r gwahaniaeth rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr bellach? A lle mae hyn yn gadael eu strategaeth 'Vote Plaid Get Tory'?

    Mae'n edrych yn debyg i mi fod Llafur nawr wedi abwysiadu'n gyfangwbwl bolisiau cydmeithasol, iechyd ac addysg a hefyd yr un agwedd at y cyfansoddiad ac Ewrop oedd gan y Ceidwadwyr c1994.

    A'r neges i'r Cynulliad a'r Cymry - 'get in line, know your place' Prydain yw'r genedl iawn, is-genedl yw Cymru.

    Ydy llafur yn meddwl terfynnu clymblaid Cymru'n Un?

  • 2. Am 15:36 ar 25 Medi 2007, ysgrifennodd Helen:

    Pe bai ymgeiswyr y Blaid Lafur yn y cymoedd yn symud tua'r dde, a phe bai Plaid Cymru'n tynnu sylw at y mater hwn yn ei hymgyrchoedd, gallai hynny agor y drws led y pen i PC ennill seddi mewn etholaethau fel Pontypridd a Chaerffili - wedi'r cwbl, rhaid i bleidlais y chwith fynd i rywle.

  • 3. Am 16:08 ar 25 Medi 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Helen - does dim pleidlais y chwith i'w gael. Pleidlais i fersiwn o genedlaetholdeb Brydeinig yw pleidlais Llafur y Cymoedd. Jingoistiaeth dosbarth oedd e 'na gyd.

    Mae nhw bellach wedi newid jingoistiaeth dosbarth am, wel, jyst jingoistiaeth Brydeinig.

    Bydda angen i Blaid Cymru fod yn ofalus iawn os ydyn nhw'n credu y gwnawn nhw godi fots wrth fynd yn fwy asgell chwith. Er, fe alle Plaid Cymru aros yn yr unfan a dal fod yn fwy asgell chwith na Llafur bellach.

  • 4. Am 23:47 ar 25 Medi 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    "Yn gyntaf mae angen i Lafur apelio at etholwyr yn y Gogledd a'r Gorllewin wnaeth droi at Blaid Cymru. Roedd y ffordd wnaeth y blaid ddelio a David Collins yn brawf yn ôl Eluned bod y wers honno wedi ei dysgu."

    Dyw Llafur heb ddysgu yr un wers. Maent o hyd yn talu sylw tocenistaidd yn unig i'r Iaith Gymraeg, ac yn trin Cymry Cymraeg â dirmyg.

    Pam fod gwefan newydd Llafur Cymru yn wefan Saesneg, gyda ambell i bwt Cymraeg yma ac acw?

    A beth am wefannau Cymry Cymraeg amlwg yn y Blaid Lafur megis Carwyn Jones, Eluned Morgan a Rhodri Morgan? Gwefannau i gyd yn uniaith Saesneg:




    Efallai y byddai'n syniad i chi godi'r pwynt yma gyda Eluned Morgan y tro nesaf y mae hi'n traethu'r rwtsh fod Llafur Cymru wedi dysgu gwers!

    Mae Llafur yng Nghymru wedi colli cefnogaeth y Cymry Cymraeg gan fod y Blaid yn trin ein iaith a'n diwylliant â dirmyg. Dwi'n credu fod mwy o siawns gan y Ceidwadwyr wneud yn dda mewn ardaloedd Cymraeg yn y dyfodol agos nag sydd gan y Blaid Lafur, ac mae hynny yn sefyllfa drist iawn.

  • 5. Am 14:18 ar 26 Medi 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Diolch am ateb mor drylwyr Vaughan. Ydy hyn yn meddwl y gallwn ddisgwyl ethoilad gyffrediniol mis nes? Unwaith fydd honno allan o'r ffordd allwn ni gyd fynd yn ol i fwynhau y ffraeo o'r newydd yn y Blaud Lafur Gymreig!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.