Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sibrydion

Vaughan Roderick | 16:26, Dydd Mercher, 26 Medi 2007

Dw i'n clywed bod y Ceidwadwyr wedi bod yn cynnal arolygon barn mewn etholaethau ymylol. Yn ôl yr hyn dw i'n clywed mae canlyniadau Brycheiniog a Maesyfed yn hynod ddifyr gyda'r blaid yn proffwydo y gallai Suzie Davies fod ar ei ffordd i San Steffan.

Draw yng Ngheredigion mae Plaid Cymru wrthi'n dewis ymgeisydd seneddol. Yr enwau sy'n cael eu crybwyll yw Penri Williams, Mabon ap Gwynfor a Sion Jobbins.

Cywiriad; Dw i ddim am guddio camgymeriad trwy newid y post! Penri James nid Williams yw'r Penri dan sylw. Mea Culpa.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:28 ar 26 Medi 2007, ysgrifennodd Huw:

    Penri Williams ??? Williams ???
    'Dach chi'n siwr, Vaughan Hughes ?

  • 2. Am 23:41 ar 26 Medi 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Hen bryd, os nad yn rhy hwyr, yng Ngheredigion. Nabod Sion a Penri, buasai un o'r ddau yn ymgeisydd rhagorol - dim yn nabod Mabon (falle buasai fe'n well !!). Bodlon daragon bydd y gwirion Rhydds yn colli Maldwyn, Ceredigion a Brycheiniog/Maesyfed.

    Gyda llaw mae Nick Whyte yn rhedeg cystadleuaeth darogon ar ei wefan ardderchog ar etholiadau yn Iwerddon.
    Gwna yr un peth ?

  • 3. Am 22:07 ar 27 Medi 2007, ysgrifennodd Penri James:

    'James' nid 'Williams' os gwelwch yn dda!! Ein bwriad yng Ngheredigion yw cael gwared o'r Williams.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.