Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

CF99

Vaughan Roderick | 15:39, Dydd Mercher, 26 Medi 2007

Wythnos i heno fe fydd ein rhaglen wleidyddol newydd CF99 yn cael ei darlledu am y tro cyntaf. Mae'n bryd felly i mi rannu rhyw faint ynghylch y cynnwys. Fe fydd y rhaglen yn cael ei darlledu'n fyw o'r Senedd bob nos Fercher ac fe fydd hi'n bosib ei gwylio yn y modd arferol ar S4C neu trwy wyrthiau'r rhyngrwyd trwy ddolen ar y blog.

Bethan Rhys Roberts a finnau fydd yn cyflwyno. Mae Bethan a finnau wedi bod yn dilyn ein gilydd o gwmpas y Â鶹Éç ers blynyddoedd ond hwn yw'r tro cyntaf i ni gyflwyno rhaglen gyda’n gilydd. Rhyw gymysgedd o "This Week" ac "After Dark" fydd y rhaglen gyda thrafod dwys ac ysgafn gyda'n gwesteion ynghyd ac adroddiadau gan ein fideo-ohebwyr.

Er mwyn cyfiawnhâi ei lle yn yr oriau brig fe fydd yn rhaid i'r rhaglen apelio'r tu hwnt i fyd yr anoracs gwleidyddol. Dwi'n weddol hyderus y byddwn yn llwyddo i wneud hynny gan ddysgu gwersi o'r ffordd y mae "Dau o'r Bae" wedi llwyddo yn yr oriau brig ar Radio Cymru. Fe gawn weld!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:00 ar 4 Hydref 2007, ysgrifennodd Huw Griffith:

    CF99 yn cychwyn yn dda. Oedd hi'n braf gweld Bethan Rhys Roberts ar y teledu eto. Fel rhywun sydd yn defnyddio cadair olwyn gobeithio bydd rhywfaint o sylw yn cael ei rhoi i syniad Edwina Hart i wneud i ni yn y gogledd fynd lawr i'r de am triniaeth. Gwallgo!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.