Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gair yn ei le

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:14, Dydd Gwener, 2 Medi 2011

O rygbi i slefrod môr gyda thwts o'r Babell Lên a geiriau rhyw. Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg yn ystod yr wythnos.

  • Dyw hi ddim yn broblem o gwbl i ni, bod yn 'bored' - Nicky Wire yn cyhoeddi yn y 'Wales on Sunday' y bydd y Manic Street Preachers yn encilio am gyfnod.
  • Mae'r diwydiant dw i'n rhan ohono yn sicr yn ffafrio dynion, ac os yn ffafrio menywod o gwbl, yn ffafrio rhai oedran arbennig. Mae hynny'n ei wneud yn frwydr ac mae wedi bod ers y dechrau - Elinor Jones yn siarad gyda '' ar achlysur ymddeol o ddarlledu wedi 37 o flynyddoedd.
  • Fel S4C, mae'r Babell Lên yn cynnig hafan gysurus i gynulleidfa sy'n prysur heneiddio, ac mae ei pherthnasedd i'r genhedlaeth iau yn hynod frawu - Simon Brooks yn sgrifennu am "Argyfwng y Babell Lên" yn rhifyn Medi o '.
  • Roedd gen i a 'nghyfoedion ddigonedd o dermau Cymraeg cyhyrog ers talwm am ystod o weithgareddau rhywiol, unigol a thorfol. Byddai cofnodi a diogelu'r termau hynnty'n ymarferiad mwy buddiol o lawer na throsi nofel Sarah Waters i'r Gymraeg - Vaughan Hughes yn ymateb yn 'Barn' i feirniadaeth a wnaed yn yr Eisteddfod gan Sian Cleaver nad oes gan y Gymraeg eirfa ddigonol i drafod rhywioldeb a lesbiaeth.
  • Ry'n ni'n dueddol o fynd am y dwys yn hytrach na'r doniol. Mae mwy o gred bod y ddrama ddifrifol yn fwy aruchel, a falle ei fod o. Ar y llaw arall mae pobl yn licio llond bol o chwerthin a chyfle i ymlacio a mwynhau - Caryl Parry Jones yn sgwrsio gyda'r 'Western Mail' cyn ail ddangosiad 'Ibiza Ibiza' ar S4C.

  • Cynon the Barbarian; Bangor Management; The Magnificent Severn; Who Aberdares Wins; Moldfinger, AGood Rhyl Hunting - rhai o'r teitlau gwneud Cymreig ar gyfer ffilmiau ar Twitter (#Welshfilms) a sydd hefyd yn cynnwys 'Carry on up the Penrhiwceibr' gan Kevin Brennan AS Gorllewin Caerdydd.
  • Ro'n i'n ei gweld yn rhyfedd clywed fod prif wobr medal aur celfyddyd ein heisteddfod genedlaethol wedi cael ei ennill am bâr o wellingtons. Rhoddwyd £5,000 o wobr - yr un faint â gewch chi am sgwennu nofel fuddugol y Daniel Owen - am wellingtons - Lefi Gruffudd yng nghylchgrawn y 'Western Mail' ddydd Sadwrn.
  • Mae'n torri nghalon i weithiau. Dyw hi ddim ots gen i iddo roi ei lofnod neu rywbeth ond yr oedd yna'r un ferch yma wnaeth fy ngwthio i o'r ffordd y diwrnod o'r blaen ac yr oeddwn i'n wirioneddol ypset - Hayley Roberts o Ferthyr Tudful yn sôn wrth y 'Wales on Sunday' am dreialon bod yn gariad i rywun adnabyddus, David 'The Hoff Hasselhoff yr actor.
  • Cig tywyll yw e, ond blasus, iawn ac yn blasu dipyn bach fel hwyaden - Nigel Jones sy'n cynnig cig gwiwer yng Ngwesty'r Traeth, Ceinewydd.
  • Maen nhw'n defnyddio'r iaith Gymraeg mewn ffordd greadigfol . . . ella eu bod nhw'n ei defnyddio hi mewn ffordd wahanol i'r genhedlaeth hÅ·n ond mae'n bwysig eu bod nhw'n defnyddio'r Gymraeg wrth decstio'i gilydd - Eirug Salisbury, Bardd Plant Cymru, yn beirniadu yn Eisteddfod Rhys Thomas James, Llambed.
  • Er mai ychen a rostiwyd yn y dathliadau gwreiddiol rydym wedi penderfynu y bydd mochyn yn ddigonol y tro hwn - y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn sôn yn 'Y Cymro' am ddathliadau dau gan mlynedd agor Cob Porthmadog.
  • Mae'n amlwg ei fod yn byw mewn bybl oherwydd nid yw'n sylweddoli fod dyfodol S4C yn bwnc llosg mawr yma yng Nghymru a bod cytundeb cryf ar draws Cymru fod angen arian teg ac annibyniaeth ar S4C - Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dilyn ymweliad Jeremy Hunt AS â Chaerdydd.
  • Mae Plaid Cymru angen un yn y dyfodol agos - Elin Jones AC yn gweld yr angen am ferch i arwain Plaid Cymru wrth iddi gynnig ei henw am arweinyddiaeth y Blaid yn dilyn Ieuan Wyn Jones sy'n ymddeol. Yr unig enw arall yn y ras hyd yn hyn yw'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
  • Dydyn ni ddim yn dweud wrth rieni am beidio â gadael i'w plant gael bwyd ysgol yn ystod y tymor hwn ond rydym yn eu hannog i ddwyn pwysau ar yr ysgolion a'r awdurdodau lleol i godi safonau diogelwch bwyd - Liz Withers, .
  • Un peth wnaethom ni'n iawn . . .oedd penderfynu anghofio am y cwpanau bychain plastig na eleni, y rhai sy'n ddrud am yr hyn ydyn nhw a jest yn hel llwch. Y tro yma, roedd yr enillwyr yn cael mwg smart efo 'Sioe Rhydymain a'r Cylch' arno. Rhywbeth defnyddiol. Roedd un o'r beirniaid wedi dotio gymaint, yn lle cydnabyddiaeth am feirniadu roedd o jest isio mwg - gwers i drefnwyr sioeau bach gan Bethan gwanas yn atodiad 'Yr Herald Cymraeg' yn y 'Daily Post'.
  • Yr oedd Dai eisiau ennill ac fe allech weld hynny yn ei lygaid tua'r diwedd - Darrell Maynard, cyn hyfforddwr Dai Green a enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Athletasu'r Byd ddoe.
  • Y mae yna lawer ohonyn nhw - neges Twitter am y slefrod môr oedd yn boen i nofwyr enwog ar draws Môr Iwerddon dan arweiniad Steve Parry.
  • Dynion ifanc ydyn nhw; mae ganddyn nhw gyfrifoldeb aruthrol ac y mae'n anrhydedd fawr iddyn nhw chwarae i Gymru - Warren Gatland sydd wedi addo y Cymru yn falch o'i dîm yng Nghwpan y Byd.
  • Fe fydd gennym ni hefyd wragedd a chariadon o gwmpas y gwesty - Warren Gatland, eto, yn trafod y trefniadau ar gyfer y 'dynion ifanc' yn Seland Newydd.
  • Ar bapur mae hwn yn dîm Cymreig cyffrous - un o'r goreuon ers sawl blwyddyn - John Hartson yn y 'Western Mail' cyn y gêm yn erbyn Montenegro heno.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.