Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cadw eu geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:26, Dydd Gwener, 26 Awst 2011

Casgliad arall o sylwadau yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.

Gan gychwyn gyda Magi Dodd yn dewis ei lle delfrydol am wyliau . . .

  • Does unman yn Sbaen na Phortiwgal sy mor brydferth â Llangrannog yn yr haul. Dwi dal yn caru Cwmtydu, Cei, Llangrannog a Thresaith, a dal i garu Maes y Glyn. Pwy sy angen Portiwgal - Magi Dodd yn cofio gwyliau ar fferm ei Mamgu a Thacu ym Mwlch y Groes ger Ffostrasol, yn y 'Western Mail' ddydd sadwrn diwethaf.
  • Roedd hi'n anti i fi a'm chwaer . . . a'r teulu agos ond yn fwy na hynny roedd hi'n anti answyddogol i gannoedd yn y gogledd oedd yn ei hadnabod - David Morris Jones yn talu teyrnged i , Anti Enid, Penrhyndeudraeth, a fu farw yn 109 oed.
  • Dim ond pedair gwaith mewn pum mlynedd y daeth hi'n ôl. Fi oedd y tad anghofiedig yn Llaneirwg - Meic Stevens yn cwyno iddo gael ei adael ar ei ben ei hun i ofalu am bedwar o blant pan aeth ei wraig i goleg yn ei lyfr Mas o Ma.
  • Mae beio'r terfysgoedd ar alcohol mor ddwl ag esbonio achos y rhyfel byd cyntaf ar y tywydd - Edwin Jones mewn llythyr ynyn ymateb i erthygl gan Wynford Ellis Owen.
  • Gweithdy Deffro S4C - enw digwyddiad a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg y tu allan i swyddfeydd y sianel yng Nghaerdydd Medi 21.
  • Nid oes unrhyw annhegwch cymdeithasol erioed wedi newid trwy dderbyn yn llwfr y rheolau a osodwyd gan yr ychydig sydd yn gwarchod dim ond buddiannau hunanol eu hun; rhaid wrth gicio yn erbyn y tresi - Jamie Bevan "y carcharor cyntaf dros sianel deledu Gymraeg ers dros 30 mlynedd".
  • Jobyn a hanner - disgrifiad Huw Edwards y darlledwr a llywydd Cymdeithas Cymry Llundain o hybu Cymreictod yn Llundain.
  • Dydy chi ddim yn dymuno y fath salwch ofnadwy ar neb - John Hartson yn ymateb i Danny Baker y DJ a ddywedodd ei fod yn dymuno i bawb a gymerodd ran yn nherfysgoedd Lloegr gael canser. "I wish cancer on every one of these rioting dosgs," meddai.
  • Y peth amlwg am y terfysgoedd yw y byddant yn sicr o arwain at fwy byth o fewnfudo o ddinasoedd ansefydlog Lloegr i ardaloedd cymharol heddychlon yng Nghymru gan roi mwy byth o bwysau ar y stoc dai a chymunedau Cymraeg - Lefi Gruffudd yn y 'Western Mail' ddydd Sadwrn diwethaf.
  • Beth am gychwyn reiats Bangor - David Glyn Jones 21 oed a gafwyd yn euog o drosedd dan y Ddeddf Gyfathrebu a ôl cyhoeddi'r neges ar 'Facebook'.
  • . . . ond y mae o'n 64 oed ac y gwleidydd Marmite eithaf - Y disgrifiad o'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas gan y gohebydd gwleidyddol Matt Withers wrth drafod arweinyddiaeth Plaid Cymru yn y 'Wales on Sunday'.
  • 'Pa mor bell yw'r nefoedd?' gofynnodd fy ngor-ŵyr 10 mlwydd oed. Cwestiwn teg gan ei fod newydd golli ei daid. 'Does neb yn gwybod,' meddwn. 'Mae mam yn dweud eich bod chi yn gwybod popeth,' medde fo. Ie, ie, hawdd yw dweud 'gofyn i Nain Rhuthun,' ond druan ohonof - Llythyr gan Beti Watson o Rhuthun yn atodiad 'Yr Herald Cymraeg' yn y 'Daily Post'.
  • Fe'm trawyd i'n gwbl fud - Jamie Beecham a welodd William a Kate yn mynd i weld yr Inbetweeners yn y pictiwrs yng Nghyffordd Llandudno.
  • Yn wahanol i frechdanau Menai Deli mae hyn yn gadael blas chwerw yn y geg - Edwina Crump a gymerodd ran mewn yn erbyn penderfyniad y WRVS i werthu brechdanau o Gernyw yn Ysbyty Gwynedd yn hytrach na'r rhai lleol presennol.

  • Wnes i erioed feddwl y byddwn yn cael fy saethu gan neb - Connie Evans 92 oed a gafodd ei hanafu mewn siop drin gwallt yng Nghasnewydd lle saethodd gŵr ei wraig.
  • Ein ty nid ydyw, ein parc ni. Mae'n rhywbeth sy'n werth y byd inni - Alun Davies AC ddiwrnod sydd a chysylltiadau cryfion ag Aneurin Bevan.
  • Beth yw'r dewisiadau? Beth yw manteision ac anfanteision pob dewis? Pa mor debygol o ddigwydd ydi'r manteision ac anfanteision? - Tri chwestiwn y dylai pob claf ei ofyn i'w feddyg. Fe'u lluniwyd wedi iddi ddod yn amlwg nad yw nifer o gleifion yn deall beth mae meddyg yn ei ddweud wrthyn nhw.
  • Yn dilyn cyfarwyddyd pellach gan awdurdod uwch y mae caniatâd ichi gadw y rhif - Llythyr oddi wrth y DVLA yn Abertawe yn caniatáu i ddyn busnes o Chesterfield arddangos y rhif B011 LUX ar ei gar yn dilyn gwaharddiad yn gyntaf.
  • Uffach, byddwn - Martyn Williams pan ofynnodd y 'Wester Mail' iddo a fyddai yn ateb galwad sydyn i ymuno â bechgyn Cymru yn Seland Newydd er ei fod wedi ei adael allan o'r garfan wreiddiol.
  • Mae'r ymddiriedolwyr, pobl Wrecsam a phobl gogledd Cymru wedi bod yn wych - Spencer Harris, aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam yn croesawu penderfyniad y cefnogwyr .


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.