Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Canwr y Byd 2011 - nos Wener

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 04:46, Dydd Sadwrn, 18 Mehefin 2011

Mae Gwyn Griffiths wedi bod yn blogio o gystadleuaeth Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd bob dydd yr wythnos hon.

Nos Wener oedd noson Gwobr y Datganiad gyda doniau'r ifanc yn tanio'r gynulleidfa

Er gorfod wynebu pedair merch - tair soprano ac un mezzo - Andrei Bondarenko, y bariton o'r Wcráin, gipiodd y wobr o £5,000, y tlws a'r cytundeb gyda Â鶹Éç Radio 3.

Petai'n ornest tair set rhyngddo ef a Valentina Naforniţă y soprano ifanc hardd o Moldova buasai'r cyfan trosodd erbyn hyn. Oherwydd Bondarenko gipiodd wobr y noson yn y brif gystadleuaeth nos Fercher gyda Valentina yn ail.

Cystadlu am Dlws y Datganiad. Llun: © Brian Tarr

Ond yn ail digon da i'w chynnwys yn un o'r pump fydd yn rownd derfynol y brif gystadleuaeth nos Sul. A honno yw'r gystadleuaeth y byddant am ei hennill. Unwaith eto bydd Andrei yn wynebu tair soprano ac un mezzo - er nad yr un rhai.

I ddychwelyd at nois Wener. Er bod pump ar y llwyfan, cystadleuaeth rhwng dau o gantorion ifancaf y gystadleuaeth oedd hi yn y pendraw, y ddau yn 24 oed - a braf gweld hynny.

Yn gyntaf ar y llwyfan yr oedd yr Americanes sylweddol, Leah Crocetto o'r Unol Daleithiau. Mae hi'n soprano, 31 oed, sy'n gyfarwydd â llwyddiant a thybiaf nad oedd hi wedi ei phlesio o fethu a chyrraedd rownd derfynol y brif gystadleuaeth.

Fe gawson ni berfformiadau ardderchog ganddi o ganeuon gan Liszt, Bizet, dwy gan Richard Strauss ac un gan Gershwin - perfformiadau oedd yn amlygu adnoddau lleisiol cyfoethog a phrawf ei bod yn wir gerddor.

Er hynny, ni chynhesodd cynulleidfa ddeallus Neuadd Dewi Sant ati. Nid peth hawdd yw creu'r cwlwm sy'n nodwedd o'r math yma o ganu rhwng datgeinydd a chynulleidfa mewn neuadd mor fawr.

Hoffais Márie Flavin, 28 oed o Iwerddon pan berfformiodd yn y Theatr Newydd a chawsom berfformiad ardderchog iawn ganddi nos Wener hefyd.

Yr oeddwn wedi synnu iddi gyflwyno bron yr union raglen a ganodd yn y Theatr Newydd brynhawn Mawrth. Yr unig newid a wnaeth oedd hepgor Why do they shut me out of Heaven gan Aaron Copland a chynnwys cân arall gan Duparc yn ei lle.

Holais a oedd y rheolau yn caniatáu hynny, oherwydd yr oeddwn yn tybio bod yn rhaid perfformio rhaglen wahanol yn y ddwy rownd. Cefais wybod nad oedd hi'n torri unrhyw reol ac mai dim yn y brif gystadleuaeth yr oedd y rheol honno. Yr oedd ganddi raglen hyfryd ond tebyg nad oedd y beirniad yn rhy fodlon gyda'r hyn a wnaeth.

Ar y llaw arall yr oedd hi'n barchus iawn yng ngolwg y gynulleidfa a chafodd gymeradwyaeth wresog.

Yna daeth Andrei Bondarenko i'r llwyfan. Dyma ganwr sy'n ein tynnu i'w gyfrinach wrth berfformio.

Andrei Llun: © Brian Tarr

Canodd bedair cân gan Schumann a phum can allan o Russia Cast Adrift, y cylch o ganeuon seiliedig ar farddoniaeth Sergei Esenin. Caneuon a roddent bob rhyddid iddo arddangos ei adnoddau lleisiol a cherddorol amrywiol.

Yn ystod yr wythnos tyfodd yn anwylyn y gynulleidfa ac ef gafodd groeso a chymeradwyaeth fwyaf y noson.

Yn dynn wrth ei sodlau am le yng nghalonnau'r gynulleidfa oedd Valentina Naforniţă.

Valentina

Cawsom bedair cân ganddi - o waith Rakhmaninov, Chausson, Schumann a Delibes ac yn ogystal â'r llais a'r dechneg mae ganddi rywbeth ychwanegol, y gallu greddfol i gyfathrebu gyda'i chynulleidfa.

Dylai trefnwyr y gystadleuaeth ymfalchïo mai yng Nghaerdydd y clywsom y ddau ifanc, Andrei a Valentina gyntaf ym Mhrydain.

Daeth y noson i ben gyda pherfformiad Olga Kindler , y soprano o'r Swisdir a ddaeth i lenwi'r bwlch pan aeth y canwr o Wlad Pwyl yn sâl.

Mae hi'n 30 oed felly wedi cyrraedd aeddfedrwydd a chafwyd perfformiad graenus ganddi. Canodd bum cân - gan Rakhmaninov, Wagner, Poulenc, Fauré a Richard Strauss.

Mae o gymeriad cyhesach na'r ferch o'r Unol Daleithiau ac yr oedd y gynulleidfa'n synhwyro hynny.

Ond perthyn i'r ddau ifanc yr oedd y noson hon a braf gweld doniau newydd dawnus ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Yr oedd yn anrhydedd.

Bydd Gwyn Griffiths yn blogio nesaf fore Llun gyda chanlyniad y Brif Gystadleuaeth a gynhelir nos Sul.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.