Canwr y Byd 2011 - Nos Iau
Y mae Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadluaeth Canwr y Byd Caerdydd 2011.
Ym mhrif gystadleuaeth Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd 2011 y pump fydd yn cystadlu yn y rownd olaf nos Sul yw:
- Meeta Raval, y soprano ardderchog sy'n cynrychioli Lloegr.
- Olesya Petrova y fezzo-soprano Rwsia.
- Valentina Naforniţă y soprano o Moldova.
- Hye Jung Lee y soprano o Dde Corea.
- A'r unig fachgen, y baritôn Andrei Bondarenko o Wcráin.
Enillodd pob un ei rownd heblaw am Valentina Naforniţă a gollodd o ychydig iawn - goelia i - i Bondarenko nos Fercher. Braf iawn gwybod y bydd y ddau'n wynebu ei gilydd ar lwyfan y ffeinal nos Sul.
Er bod gennyf beth cydymdeimlad â nhw - gyda'r ddau ohonynt ar lwyfan Neuadd Dewi Sant heno, hefyd. Bydd yn wythnos drom i'r ddau a hwythau ond yn 24 oed. Fydd y gynulleidfa ddim yn cwyno.
Dylai nos Sul fod yn noson ardderchog. Ar sail yr hyn a glywais gydol yr wythnos - gan fynychu pob un o'r cyngherddau yn Neuadd Dewi Sant a'r Theatr Newydd gallaf ddweud ar fy llw mai dyna'r pump y dymunwn innau gael y mwynhâd o'u clywed eto.
Er rwy'n amau i'r beirniaid ei chael yn anodd, yn enwedig nos Fercher pryd yr oedd tri o'r cystadleuwyr mor agos. Yn sicr, buont yn hir iawn yn dychwelyd i'r neuadd neithiwr, hefyd, ac wn i ddim sut y bu i bobol y teledu ymdopi.
Beth am y gystadleuaeth neithiwr?
Er bod dwy o'r cystadleuwyr, Máire Flavin a Leah Crocetto, eisoes wedi cyrraedd ffeinal y Datganiad, tawel a chymharol ddifflach oedd hi.
Cawsom gychwyn difyr gan Enzo Romano bas-bariton o Wrwgwái. Mae'n arbenigo yn y buffo a'r repertoire cyfoes a chafodd hwyl ar ddarlunio'r hen ŵr Beaupertuis yn yr aria allan o The Italian Straw Hat gan Nino Rota.
Mae ei ddawn actio'n mynd i sicrhau digon o waith iddo a difyrrwch i gynulleidfaoedd. Mae ganddo lais dymunol a chawsom berfformiadau canmoladwy ganddo allan o Le nozze di Figaro gan Mozart, Bottom's Dream gan Benjamin Britten, ac aria allan o Il barbiere di Siviglio gan Rossini.
Gyda'i hoffter o ganeuon sy'n rhoi cyfle iddo glownio nid yw'n syndod iddo wrthod y gwahoddiad i gystadlu yn y Datganiad. Dydy hwn ddim yn "gwneud" cynildeb.
Ni chafodd Máire Flavin agos gystal hwyl ag yn y Datganiad brynhawn Mawrth. Aeth rhywbeth o'i le ar ddiwedd yr aria allan o Les Huguenots gan Meyerbeer ac y mae'r aria Parto, parto allan o La clemenza di Tito gan Mozart yn ddarn cyfarwydd ond anodd. Roedd ei nodau uchaf yn ansicr weithiu a'r rhai isaf yn tueddu i fod yn agored.
Roedd ei pherfformiadau o Handel a Richard Strauss yn hyfryd, ond yr oedd cystadleuwyr nos Fercher wedi codi'n disgwyliadau a 'doedd y gynulleidfa ddim am gynhesu neithiwr.
Yr oedd yn syndod i lawer fod y soprano Leah Crocetto yn ffeinal y Datganiad a waeth i mi gyfaddef 'doedd hi ddim yn un o fy ffefrynnau innau. Disgwyliwn fwy wrthi neithiwr, oherwydd y mae'n medru perfformio ac mae ganddi lais da.
Eto, nid oedd y gynulleidfa'n frwd er iddi ganu darnau cyfarwydd - Puccini, Rossini, Verdi, heb son am Hear ye, Israel allan o Elijah gan Mendelssohn. Ac fe ganodd Mendelssohn yn rhwydd. Eto dim fflach.
Canodd y Davide Bartolucci, y bariton o'r Eidal, ganeuon gan Handel, Mozart, Donizetti a Rossini. Dyma un arall oedd yn hoff o wneud wynebau. Nid oes ganddo lais mawr ond y mae'n llais dymunol a disgybledig.
Dyma ganwr ifanc arall - ac ifanc a bachgennaidd ei ffordd hefyd. Edrychai fel pe ar goll ar y llwyfan gyda'i siwt yn ymddangos fymryn yn rhy fawr iddo. Tebyg y gwna dyfu a'i llenwi yn y man.
Yna, yn annisgwyl, daeth y chwyldro. Annisgwyl oherwydd er bod Hye Jung Lee yn edrych fel cantores lieder chafodd hi ddim hwyl arni yn y Theatr Newydd.
Ond neithiwr hi, yr olaf i ganu, oedd yr un daniodd y gynulleidfa. Dwy gân yn unig ganodd hi, y gyntaf allan o Ariadne auf Nazos gan Richard Strauss lle mae Zerbinetta'n cysuro Ariadne ar ôl i'w chariad ei gadael. Mae gan y soprano o Dde Corea lais soprano tlws i'w ryfeddu ac roedd yn braf gweld y gynulleidfa'n deffro.
Mae hon yn aria hir ac ymhell cyn hanner ffordd yr oeddem i gyd yn dal ar bob nodyn yn enwedig y nodau uchaf bendigedig..
Yna canodd yr aria I am the wife of Mao Tse-tung allan o opera John Adams Nixon in China. Dyma oedd perfformiad. Yn ei gwisg fflamgoch gyda'r "llyfr bach coch" yn ei llaw gorffennodd gydag un fraich yn yr awyr yn arwydd y chwyldro.
Nid oedd unrhyw amheuaeth mai hi fyddai'n ennill tlws y noson. Ond a fyddai ar y llwyfan terfynol? Er boddhad mawr i'r gynulleidfa daeth y cyhoeddiad y byddai ymhlith y pump. Gorffennodd noson gymharol dawel yn ogoneddus.
Y Datganiad - heno
Heno yw noson y Rownd Derfynol am Wobr y Datganiad. Y gyntaf o'r nosweithiau mawr gyda'r enillydd yn derbyn £5,000, tlws a chynnig i ymuno â Chynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd Â鶹Éç Radio 3.
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf am raglenni'r pump fydd ar y llwyfan terfynol heno ac yn y drefn hon y byddant yn canu:
- Leah Crocetto o Unol Daleithiau'r America - Pace non trovo gan Liszt; Chanson d'avril gan Bizet; Die Nacht gan Richard Strauss; °ä䳦¾±±ô¾±±ð gan R Strauss; The man I love gan Gershwin.
- Máire Flavin o Iwerddon - Rhaglen heb ei chadarnhau.
- Andrei Bondarenko o Wcráin - In der Fremde gan Schumann; Intermezzo gan Schumann; °Â²¹±ô»å±ð²õ²µ±ð²õ±è°ù䳦³ó gan Schumann; Die Stille gan Schumann; Autumn (Russia cast adrift No 1) gan Georgy Sviridov; Russia cast adrift (Russia cast adrift Rhif 5) gan Georgy Sviridov; Simon, Peter ... Where are you? (Russia cast adrift Rhif 6) gan Georgy Sviridov; O my homeland, o happy and eternal hour (Russia cast adrift Rhif 12) gan Georgy Sviridov.
- Valentina Naforniţă o Moldova - Ne poy, krasavitsa, pri mne gan Rakhmaninov; Le temps des lilas gan Chausson; Widmung gan Schumann; a Les filles de Cadix gan Delibes.
- Olga Kindler o'r Swistir - Muzyka gan Rakhmaninov; gan Stehe still! gan Wagner; C (Deux poèmes de Louis Aragon Rhif 1) gan Poulenc; Fleur jetée gan Fauré; Im Abendrot (Vier letzte Lieder Rhif 4) gan Richard Strauss.
- Gwefan Canwr y Byd 2011