Canwr y Byd 2011 - nos Fercher
"Noson anodd y beirniaid," meddai Gwyn Griffiths sy'n blogio bob dydd o'r gystadleuaeth.
Dal i godi'n gyson mae safon cyngherddau Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd a'r sibrydion oedd fod y beirniaid wedi gorfod ennill eu harian wrth geisio dod i benderfyniad neithiwr.
Andrei Bondarenko, y bariton ifanc 24 oed o'r Wcráin gipiodd wobr y noson, gyda'r awgrym fod dwy o'r merched yn agos iawn ato. Mor agos nes i reithgor y beirniaid gyfaddawdu drwy ei wobrwyo ef.
Beth bynnag am hynny, yr oedd Bondarenko - a ganodd yn olaf - yn enillydd y tu hwnt o boblogaidd, a theilwng.
Mae'n gymeriad annwyl, yn actio gyda'i lygaid, a rhyw dangnefedd gorffenedig i'w lais - ac yn gerddor, bob modfedd ohono.
Cychwynnodd gyda'r gân Hai già vinta la causa allan o Le nozze de Figaro gan Mozart lle mae'r Iarll Almaviva'n tybio ei fod yn mynd i gyfarfod morwyn ei wraig yn yr ardd. Ond mae'n ei chlywed yn sibrwd wrth ei was, Figaro, eu bod ill dau bellach yn rhydd i briodi ac yn meiddio cael hwyl am ei ben ef, y pendefig.
Yna cyflwynodd gân y ddawns allan o Die tote Stadt (Y Ddinas Farw) gan Julius Korngold, perfformiad i arddangos holl addfwynder a melyster ei lais.
Ei drydedd cân oedd leiaf boddhaol o'i berfformiadau, y gân allan o opera Tchaikovsky, Eugene Onegin, lle mae Onegin yn dweud wrth Tatyana na all gynnig dim iddi ond cariad brawdol ac y dylai chwilio am rhywun fedrai ei charu hi.
Fel yn y gystadleuaeth arall lle cyflwynodd y gân o waith Ravel sy'n canmol y llawenydd a ddaw o feddwi cawsom eto ganddo ddarn o ddoniolwch. Ei ddewis y tro hwn oedd y gân allan o Le maschere gan Mascagni lle mae Tartaglia y gwas gyda'i atal dweud yn achwyn am bawb a phopeth.
Beth bynnag arall ddigwydd iddo yr wythnos hon - ac mae Andrei Bondarenko eisoes wedi sicrhau ei le yn rownd derfynol y Datganiad - dangosodd bod iddo ddyfodol sicr a disglair.
Cychwynnwyd y noson gan y soprano o'r Almaen, Susanne Braunsteffer, llais hyfryd na ellid blino arno ac yn 31 oed wedi cyrraedd aeddfedrwydd.
Almaenes na chanodd yr un gân yn ei hiaith ei hun ond a ddewisodd weithiau gan Massenet, Mozart - allan o Cosi fan tutte - Puccini a Verdi.
Dyma oedd perfformiad caboledig, gorffenedig a hi - o bosib - oedd achos un o broblemau'r beirniaid. A ydych yn gwobrwyo'r un sydd wedi cyrraedd ei phinacl neu rywun iau gyda'r potensial mawr?
Perthyn hefyd i ddosbarth y rhai a gyrhaeddodd eu brig y mae Helen Sherman, mezzo 29 oed o Awstralia.
Cafwyd rheolaeth, cynildeb, llais a dawn ddiamheuol ganddi hithau. Cyflwynodd gân allan o'r opera Alcina gan Handel, yna cân gan William Walton allan o'i opera Troilus and Cressida a'i chyflwyniad olaf allan o Il barbiere di Siviglia gan Rossini.
Anffawd y Cymro John Pierce oedd gorfod cystadlu ar noson gyda chynifer o ddoniau ond cynrychiolodd ei wlad yn ardderchog ac yntau'n gerddor galluog, cynnil a chanddo lais hyfryd.
Cawsom raglen bleserus ganddo - Mozart, Donizetti, Verdi a Massenet. Er cyfaddef cyn y noson ei fod nerfus welsom ni ddim arlliw o unrhyw nerfusrwydd ar ei berfformiad a theimlai pawb yn falch o'i berfformiad a'i ymdrech ddewr.
Wedi'r egwyl daeth tro Valentina Naforniţä, Moldofa, y soprano ifanc 24 oed.
Nid oes amheuaeth ym meddwl neb na fydd hon yn seren lachar am amser maith a chawn ymfalchïo mewn blynyddoedd mai yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd y daeth i amlygrwydd gyntaf.
Dewisodd ganu tri darn gyda'r mwyaf anodd a glywsom gydol y noson - Egli non riede ancora allan o Il corsara gan Verdi; Glück das mir verlieb allan o Die tote Stadt gan Korngold; ac Amour, ranime mon courage allan o Roméo et Juliette gan Gounod.
Fe'u canodd gyda hyder a deallusrwydd. A'r fath lais!
Yn 2008 yr oedd hi'n dal i ganu yng nghorws Opera Cenedlaethol Rwmania a dyma hi'n awr ar drothwy gyrfa ddisglaer.
Eisoes mae wedi cyrraedd llwyfan terfynol y Datganiad. A oes mwy i ddod? Bydd yn rhaid i'r beirniaid ddod i benderfyniad terfynol nos yfory ac anodd gen i gredu na fydd lle iddi ar lwyfan Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd nos Sul.
Hyd yn oed os nad yw wedi cyrraedd perffeithrwydd eto, mae'r potensial yn aruthrol.
Andrei Bondarenko a Valentina Naforniţä, dau ifanc, disglaer y gall y gystadleuaeth hon eu hystyried yn fraint i ddarparu llwyfan iddynt.
Edrych
ymlaen
Bydd heno'n noson ddiddorol gan y cawn glywed pedwar o'r cantorion a ganodd yn rownd ragbrofol olaf y Datganiad brynhawn dydd Mawrth.
Dewiswyd dwy ohonynt, Máire Flavin, y fezzo-soprano o Ddulyn, a Leah Crocetto, y soprano o Michigan, ar gyfer y rownd derfynol y gystadleuaeth honno a gynhelir nos yfory yn Neuadd Dewi Sant.
Mae dwy noson olynol o berfformio yn eu haros nhw. Gwnaeth y ddwy argraff fawr yn eu hymddangosiadau cyntaf.
Bydd Máire Flavin yn cychwyn ei rhaglen heno gyda'r gân Nobles Seigneurs, salut! allan o'r opera Les Huguenots gan Giacomo Meyerbeer. Da gweld cantorion yn adfer gweithiau anghofiedig.
Cawn arlwy mwy cyfarwydd ganddi wedyn - Mozart, Handel a Richard Strauss.
Bydd Leah Crocetto'n fwy ceidwadol nag y bu yn y gystadleuaeth arall - Puccini, Rossini, Mendelssohn (Clyw, O Israel allan o Elias i ni Gymry) a Timor di me? ... D'amour sull' ali rosee o Il trovatore gan Verdi.
Y ddau na chafodd gystal hwyl arni brynhawn Mawrth oedd Davide Bartolucci , y baritôn o'r Eidal, a Hye Jung Lee o Dde Corea - ond dysgais wers i beidio rhoi pwys ar berfformiadau yn y Datganiad. Cofiwn Meeta Raval!
Felly edrychaf ymlaen yn fodlon at arlwy Bartolucci - Handel, Mozart, Donizetti a Rossini. Y cyfan mewn Eidaleg, 'ta waeth am hynny.
Dwy gân a geir Hye Jung Lee - y gyntaf allan o opera un act Richard Strauss, Ariadne auf Naxos, lle mae Zerbinetta'n cysuro Ariadne ar ôl i'w chariad ei gadael.
Yna y gân I am the wife of Mao Tse-tung allan o'r opera mewn dwy act gan John Adams. Mae'r opera'n seiliedig ar ymweliad yr Arlywydd Nixon a'i wraig, Henry Kissinger a llawer o rai eraill â China ym 1972.
Ar ôl gweld y ballet The Red Detachment of Women mae Madame Mao yn tybio bod yr ymwelwyr wedi camddehongli'r neges ac yn ei dicter yn canu alaw sy'n disgrifio'i gwaith yn ystod y Chwyldro Diwylliannol yn rhyddhau'r bobl.
Y canwr arall, yw'r unig un nas clywsom mor belled gan na ddewisodd gynnig yng nghystadleuaeth y Datganiad. Felly edrychwn ymlaen at glywed Enzo Romano o Wrwgwái, bas-fariton 31 oed. Ef fydd ar y llwyfan gyntaf nos Iau.
Bydd yn cychwyn gyda É una cosa incredibile allan o The Italian Straw Hat gan Nino Rota, opera seiliedig ar ffars Ffrengig adnabyddus lle mae asyn yn bwyta het wellt orau merch ifanc.
Cawn ganeuon allan o Le Nozze di Figaro gan Mozart, o Il barbiere di Siviglia Rossini a Bottom's dream o A Midsummer Night's Dream, opera dair act Benjamin Britten.
Ar ddiwedd y noson cawn glywed pwy gafodd lwyfan Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd 2011. Noson bwysig a cyffrous i bawb - yn enwedig y cantorion.
- Blog Blaenorol
- Gwefan y gystadleuaeth
Bydd Gwyn Griffiths yn blogio nesaf, bore Gwener.