Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:08, Dydd Gwener, 1 Ebrill 2011

Rhai pethau a glywyd ac a ddarllenwyd yn ystod yr wythnos a fu. Casgliad - llai nag arfer yr wythnos hon oherwydd imi fod ar wyliau - o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .

  • Mae fel magu'ch plant mewn ymbelydredd peryglus a chithau'n gwybod eu bod nhw'n mynd i gael canser - Brian May, gitarydd Queen yn dadlau yn 'Golwg' y dylai ffermwyr roi'r gorau i fagu gwartheg mewn ardaloedd lle maen nhw'n gwybod bod y diciau.
  • Dylai Brian May fynd yn ôl i chwarae'r gitâr, yn hytrach na siarad am bethau nad yw'n eu deall, sydd yn digwydd mewn gwlad wahanol, ac sydd ddim yn effeithio arno fe - Brian Walters, Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn 'Golwg'.
  • Hoffwn awgrymu bod cefnogwyr S4C yn sefydlu ymddiriedolaeth elusennol i hyrwyddo darlledu Cymraeg - Gerald Holtham. Caerdydd, mewn llythyr yn 'Golwg'.
  • Mae gen i wên fawr ar fy wyneb a modrwy ddiemwnt blatinwm brydferth. Rwyf mor hapus - Andrea Benfield, cyflwynydd rhaglen newyddion ITV Wales sydd wedi dyweddïo â Lee Byrne.
  • Mae'r plant a phobl ifanc Cymru sy'n diodde esgeulustod a chamdriniaeth yn frawychus. Dydi hyn ddim yn adlewyrchu'n dda arnon ni fel cymdeithas - Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru yn cyhoeddi cynnydd o 44% yn nifer y plant sy wedi eu rhoi mewn gofal yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
  • Nawr, mae gen i barch mawr tuag at y traddodiad llenyddol Cymreig . . . ond yr hyn na allaf ei ddioddef yw'r iaith Gymraeg ei hun . . . mae'r math hwn o gyfathrebu yn swnio fel troi corn twrci ac fe y Dodo dylid ei gyfyngu i lyfrau hanes - Julian Ruck nofelydd o Abertawe ar ei flog. Roedd wedi gwylltio am iddo golli trên oherwydd cyhoeddiad dwyieithog, meddai.
  • . . . mae yna nifer o bobol nad ydyn nhw'n gallu mynegi eu hunain ac mae yna ddihidrwydd mawr - Alan Llwyd, Golygydd Barddas, yn cwyno ar 'Wythnos Gwilym Owen' am yr holl waith golygu sydd yna ar rai cyfraniadau.
  • Yr ydw i yn pwyso ar bawb i sylweddoli a chydnabod y cyfraniad y mae teidiau a neiniau yn ei wneud - Ruth Marks, Comisiynydd Pobl HÅ·n Cymru yn pwysleisio pa mor bwysig yw cyfraniad teidiau a neiniau i fagwraeth plant.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.