Canwr y Byd Caerdydd 2011
Anodd credu bod dwy flynedd wedi mynd ers cystadleuaeth ddiwethaf Canwr y Byd, Caerdydd, yn 2009 ond yr ydym yn awr yn edrych ymlaen at yr ornest ddiweddaraf mis Mehefin.
Yn ein tywys ni drwy'r ornest, fel y tro diwethaf, bydd Gwyn Griffiths - a dyma fe yn edrych ymlaen yn awchus:
Canwr o hil gerdd
John Pierce, 28 oed, o Dreffynnon, Sir Y Fflint, fydd cynrychiolydd Cymru, yng nghystadleuaeth Â鶹Éç Canwr y Byd, Caerdydd, 2011 fis Mehefin.
Ef fydd yr unig denor yn y gystadleuaeth - nid bod hynny'n fantais nac yn anfantais gan y dewisir y goreuon heb ystyriaethau fel plesio'r gynulleidfa drwy sicrhau amrywiaeth lleisiol yn y rowndiau terfynol.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Treffynnon a'i hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol y Gogledd, Manceinion. Ar hyn o bryd mae'n fyfyriwr yn y Stiwdio Opera Genedlaethol, Llundain, lle mae'n derbyn hyfforddiant uwch gan Ryland Davies.
Hefyd, gyda llaw, yn astudio yn y Stiwdio Opera ar hyn o bryd mae cynrychiolydd Iwerddon, Máire Flavin.
John oedd enillydd y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2010, sef y gystadleuaeth i ddewis cynrychiolydd Cymru ar gyfer Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd y flwyddyn ganlynol. Bryd hynny cyflwynwyd y tlws iddo gan ei arwr ac un a ddisgleiriodd yn Canwr y Byd Caerdydd yn y gorffennol, Bryn Terfel.
Bydd John Pierce yn canu yng nghystadleuaeth Gwobr y Gân brynhawn Sul, Mehefin 12 yn y Theatr Newydd, ac yn y brif gystadleuaeth, yn Neuadd Dewi Sant, Nos Iau, Mehefin, nos Fercher, Mehefin 15.
"Y mae'n yn gyfle anhygoel," meddai, "ac yn un sy'n gwneud i mi deimlo'n wylaidd iawn. Yr oedd gan fy nain ar ochr fy mam ddawn gerddorol a chafodd gynnig mynd i Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall pan oedd hi'n 13 oed, ond oherwydd cyfyngder ariannol fedrai hi ddim derbyn y cynnig.
"Etifeddodd fy mam ei dawn gerddorol a bu'n canu gyda chymdeithas opera amatur lleol."
Bydd John yn dilyn Natalya Romaniw, y soprano o Dreforys, a gynrychiolodd Gymru a chyrraedd llwyfan terfynol Gwobr y Gân ddwy flynedd yn ôl.
Cymru yw'r unig wlad sy'n dewis ei chynrychiolwyr drwy gystadleuaeth agored. Y dull arferol yw bod cystadleuwyr yn anfon cais i mewn a threfnir gwrandawiadau mewn 45 o ddinasoedd ledled y Byd. Ar gyfer cystadleuaeth Canwr y Byd 2011 rhoddwyd gwrandawiad i 600 o gantorion.
Ugain o gystadleuwyr
Daw'r ugain cystadleuydd a wahoddwyd i Gaerdydd eleni o Armenia - Vazgen Ghazaryan (bas); Awstralia - Helen Sherman (mezzo-soprano); Bwlgaria - Maria Radoeva (soprano); Canada - Sasha Djihanian (soprano); Chile - Marcela González (soprano); China - Wang Lifu (baritôn);Cymru - John Pierce (tenor); De Corea - Hye Jung Lee (soprano); Gwlad Pwyl - Szymon Komasa (baritôn); Iwerddon - Máire Flavin (mezzo-soprano); Lloegr - Meeta Raval (soprano); Moldofa - Valentina Naforniţă (soprano);
Romania - Şerban Vasile (baritôn); Rwsia - Olesya Petrova (mezzo-soprano); Seland Newydd - Anna Leese (soprano); Uruguay - Enzo Romano (bas-baritôn); Wcrain - Andrei Bondarenko (baritôn); Yr Almaen - Susanne Braunsteffer (soprano); Yr Eidal - Davide Bartolucci (baritôn); Yr Unol Daleithiau Leah Crocetto (soprano)- .
Cofio Joan Sutherland
Y llynedd bu farw'r Fonesig Joan Sutherland, a fu'n un o feirniaid gwreiddiol y gystadleuaeth, a wedi hynny'n Noddwr y Gystadleuaeth. Eleni, ail-enwir Gwobr y Gynulleidfa - sef gwobr a ddewisir drwy bleidlais y gynulleidfa - yn Wobr y Gynulleidfa, Joan Sutherland.O Awstralia i Seland Newydd - derbyniodd Y Fonesig Kiri Te Kanawa, y gwahoddiad i fod yn Noddwr newydd y gystadleuaeth.
Yn ogystal â hynny bydd Kiri Te Kanawa yn un o feirniaid newydd y gystadleuaeth ynghyd â'r arweinydd Alexander Polianichko; y cyfarwyddwr cerdd Lorenzo Mariani a'r pianydd Bengt Forsberg. Hefyd yn dychwelyd i feirniadu eto yno y gystadleuaeth fydd y baritôn HÃ¥kan HagegÃ¥rd, y tenor o Gymru, Dennis O'Neill, Adam Gatehouse o Â鶹Éç Radio 3 a'r gantores Marilyn Horne, fydd yn beirniadu am y pumed tro.
Bydd enillydd prif wobr Canwr y Byd Caerdydd yn derbyn £15,000, tlws y gystadleuaeth a chael cynnig cytundebau i ganu gyda'r Â鶹Éç a Opera Cenedlaethol Cymru.
Bydd enillydd Gwobr y Gân yn derbyn £5000, tlws y gystadleuaeth a'r cyfle i ymuno â chynllun artistiaid ifanc a drefnir gan Â鶹Éç Radio 3.
"I ganwr opera ar drothwy gyrfa mae Â鶹Éç Canwr y Byd Caerdydd yn gyfle amhrisiadwy," medd Bryn Terfel a enillodd Wobr y Gân, neu Wobr Lieder fel ei gelwid bryd hynny, ym 1989.
"Mae'n agor drysau i chi - fel y gwn i o brofiad. Fe'm gwelwyd i yn canu gan gynrychiolwyr dau DÅ· Opera - y Vienna Staatsoper a ThÅ· Opera Munich - a chefais gynnig gwrandawiad ganddyn nhw'n syth. Yn ddiamau y mae Canwr y Byd Caerdydd yn un o gystadlaethau pwysicaf y byd cerdd clasurol."
Cynhelir y Gystadleuaeth dros y cyfnod Mehefin 12 i 19 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd gyda rowndiau Gwobr y Gân yn y Theatr Newydd a'r Rownd Derfynol yn Neuadd Dewi Sant.
SylwadauAnfon sylw
Gobeithio'n fawr na fydd y darllediad teledu eleni yn dod i ben cyn i ni glywed Hen Wlad Fy Nhadau. Mae'r cantorion buddugol yn cyfeirio at y wefr o glywed yr anthem, ond mae'r rhaglen deledu yn dod i ben bellach cyn yr anthem. Mae modd clywed y diweddglo wrth ail diwnio'n sydyn i Radio Cymru. Pam amddifadu'r gwylwyr o'r wefr? Ofn pechu Â鶹Éç Llundain?