Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yn gymysg oll yn un

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:33, Dydd Mawrth, 21 Rhagfyr 2010

Mae o'n hen, hen, beth. Y defnydd o eiriau Saesneg wrth inni siarad Cymraeg.

Yr ydw i o genhedlaeth a ddysgodd gyfri yn Saesneg a dweud pethau fel, "Mae yna twenti tw o g'wennod yn y cwt."

Yn Saesneg hefyd y dywedai nifer o'm cyfoedion faint o'r gloch oedd hi. "Mae hi'n ffaif and twenti past ar gloc y gegin ond yn halff past ar un y parlwr."

Hyd y gallwn i weld, doedd yna ddim unrhyw fath o resymeg na chysondeb i'r peth ac er mai pethau Saesneg oedd rhifolion i mi wnes i rioed hyd yn oed feddwl dweud yr amser yn Saesneg pan yn siarad Cymraeg.

Trawodd y defnydd mympwyol hwn o eiriau Saesneg fi y dydd o'r blaen pan oeddwn yn ymweld â chyfaill a'i deulu.

"Welais ti oriadau'r car?" holodd y wraig.
Gan dderbyn yr ateb, "Maen nhw ar y bwrdd yn y kitchen."

Kitchen, medda fi, gan geisio dyfalu pryd trodd eu cegin y teulu cwbl Gymraeg a Chymreig hwn yn kitchen a cheisio llywio'r sgwrs i ddarganfod faint o ystafelloedd Saesneg eraill oedd ganddo yn ei dÅ·.

Ac yn wir yr oedd ganddyn nhw lownj a bathrwm.
Ond twll dan grisiau oedd ganddyn nhw dan y grisiau a llofft oedd llofft nid bedrwm fel mae'r stafelloedd gwely yn mynnu bod i sawl un - yn enwedig mewn tai unllawr lle nad yw'n rhesymegol mewn gwirionedd eu galw yn llofftydd .

Ond i mi a sawl un arall llofft ydi unrhyw stafell efo gwely ynddi lle'r ydych yn mynd i gysgu boed hi i fyny grisiau neu ar yr un llawr a'r stafelloedd byw.

Er, pan yn blentyn, yr oedd fy rhieni yn gwahaniaethu rhwng ystafell wely yn y to ac un arall ar y llawr gwaelod trwy alw'r naill yn llofft a'r llall yn shiambar.

Chlywais i ddim defnyddio'r gair shiambar ers blynyddoedd.

Gwrandewch ar y sgyrsiau o'ch cwmpas a thrïwch chithau, fel minnau, wneud sens o'r cyfan. Gwneud synnwyr hyd yn oed, a chwilio am gysondeb neu batrwm.

Dwi off nawr i brynu torth, tatws a chydig o chops i ginio.

Bydd rhai yn prynu ffish, ar gyfer dyddiau Gwener, ond pysgod brynais i erioed. Wel, ar wahân i'r adegau hynny y byddai'n prynu ffish efo chips - neu datws a physgodyn pe byddwn yn eu prynu ar wahân i wneud pryd adref.
Rhyfedd o fyd ieithyddol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:39 ar 19 Ionawr 2011, Jac ysgrifennodd:

    Dwi'n cofio mynd i dy cymdoges a honno'n dweud, "Dos drwadd i gegin." Finna'n mynd. Chwerthin mawr. "Yli hwn yn mynd i kitchen!" Stafell fyw oedd y 'gegin' iddi. Wedi meddwl, roedd fy nain yr un fath. 'Scullery' oedd ei chegin hi, a'r stafell fyw yn 'gegin'.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.