Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pluo geiriau - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:33, Dydd Gwener, 17 Rhagfyr 2010

Rheolwr newydd pêl-droed Cymru, tywydd garw a chodi cwestiwn p'run yw'n gêm genedlaethol - dim ond tri o'r pethau fu'n destun sylw yn ystod yr wythnos a fu.

Darllenwch ddetholiad 'Cylchgrawn' o sylwadau a welwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig.

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni ambell i sylw doniol, difyr neu ddwys a welsoch chi. Anfonwch nawr

  • Yr ydw i wedi datblygu ochr arall i'm hymennydd - Gavin Henson yn dilyn ei gyfnod ar 'Strictly Come Dancing'.
  • Mamau'n rhy dew i wthio - Pennawd stori yn y 'Daily Post' bod mwy a mwy o merched yn esgor drwy lawdriniaeth caeserean.
  • Mae gofyn inni fod mor uchel ein cloch ac mor falch ag y gallwn ni am yr hyn yr ydym yn ei gyflawni yng Nghymru - Roger Lewis a fydd yn arwain Ymgyrch Ie refferendwm pwerau'r Cynulliad.
  • Bydd y bleidlais yn cael ei phenderfynu gan unigolion cyffredin nid selebs - Tom Brooks o fudiad 'True Wales'.
  • Heddiw ym mis Rhagfyr 2010 credaf fod yr hyn oeddwn yn ei adnabod fel y Byd Pop Cymraeg i bob pwrpas wedi marw yn dawel yn ei gwsg heb i neb sylweddoli ac heb i fawr o neb falio chwaith - Rhys Mwyn yn 'Yr Herald Cymraeg' yn y 'Daily Post'.
  • Yr ydym oll yn gefnogwyr mawr o S4C ond yr ydym i gyd braidd yn ddryslyd sut yr ydym wedi cyrraedd y fan hon - Sian James AS Dwyrain Abertawe mewn cyfarfod o'r pwyllgor Dethol Materion Cymreig.


  • Mae'r medalau Olympaidd a Phara Olympaidd yn cael eu cyflwyno i athletwyr elît yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd ar binacl gyrfa unigolyn ac yr ydym yn falch o gyhoeddi mai yn ne Cymru y byddan nhw'n cael eu cynhyrchu - Paul Deighton, prif weithredwr Gemau Olympaidd Llundain 2012.
  • Ar y cyfan mae Cymru'n fwy o fol buwch nag o Flackpool - Dylan Iorwerth yn sgrifennu am y "Nadolig tywylla ers blynyddoedd" yn ei golofn Gymraeg yn y 'Western Mail' ddydd Mercher.
  • Ar ôl byta ychydig, 'wy'n meddwl yr un peth ag a wnes i'r flwyddyn gynt - sut ar wyneb y ddaear ma rhywun yn medru cwco chips mor ofnadw o ofnadw - Ifan Gruffydd, yn ei lyfr 'Pwy Faga Ddefed?' yn gwaradwyddo am y "chips mwyaf erchyll" y dywed sy'n cael eu gwerthu yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
  • Aeth fy mam a fi i weld fy Modryb Diana yn Hwlffordd a fy ngadael yno am dair blynedd am na allai hi gôpio - Snugs, canwr 'Madness', yn sôn am ei blentyndod yn y 'Wales on Sunday'.
  • Mae'n swnio'n wirion ond mae o angen rhywun yna i wneud yn siŵr ei fod yn codi i ymarfer, i redeg bath iddo fe ac i wneud yn siŵr ei fod yn bwyta'n iawn - Rebecca Cole, cariad y paffiwr, Nathan Cleverly.
  • Y mae hyn yn rhywbeth yr ydw i eisiau ei newid - Nadhim Zahawi AS yn gofidio, wrth gyflwyno yn y senedd yn Llundain ei fesur i wneud dydd Sant Siôr a Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau banc, nad yw Lloegr a Chymru yn dathlu eu seintiau .
  • Mae Llywodraeth y Cynulliad a'n partneriaid mewn llywodraeth leol wedi bod yn paratoi ar gyfer amgylchiadau fel y rhain ers blwyddyn. Dros y dyddiau nesaf byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ddydd a nos i sicrhau ein bod yn gwneud popeth posib i gadw Cymru i symud - Ieuan Wyn Jones AC, y Dirprwy Brif Weinidog, yn barod ddydd Mercher am yr eira oedd yn cael ei addo ar gyfer heddiw.
  • Dwi'n gobeithio cael tywydd oer gyda awyr las - Iolo Williams y naturiaethwr yn mynegi ei ddymuniad ar gyfer tymor y Nadolig yn rhifyn Rhagfyr o WA-w! Ond mae'n ymddangos y caiff o ddaear wen hefyd.
  • Mae'n rhywbeth sy'n anodd iawn ei wrthod pan yw eich gwlad yn galw. Yr ydw i'n ddyn balch iawn ar y funud - Gary Speed, rheolwr newydd tîm pêl-droed Cymru.
  • Allai ddim gwadu fy mod yn siomedig imi golli'r cyfle i fod yn rheolwr newydd Cymru gan imi deimlo imi wneud yn dda iawn yn fy nghyfweliad . . .Ond yr wyf wrth fy modd i'r swydd fynd i Gymro ac ni allai fod wedi mynd i neb neisiach na Gary Speed - John Hartson yn ei golofn yn y 'Daily Post'.
  • Mae mwy o bobl yn chwarae pêl-droed na rygbi yn y wlad yma, mwy yn gwylio . . . Mae dweud mai rygbi ydi gêm genedlaethol Cymru yn gwbl anghywir - Jonathan Ford, prif weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.