Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Deg Dolig

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 11:23, Dydd Llun, 6 Rhagfyr 2010

Os cofiaf yn iawn fu hi ddim yn anodd dewis parsel o ddeg llyfr 'rhaid-eu-cael' ar gyfer y Nadolig diwethaf.

Ffordd arall o ddweud nad oedd yr arlwy yn tanio'r dychymyg rhyw lawer yr adeg honno.

Mae'n anos, eleni, dewis Deg Dolig Cylchgrawn - y deg yna o lyfrau yr hoffwn eu cael yn fy hosan felly rydw i wedi 'cheto' chydig bach gyda fy newis cyntaf.

Beth bynnag, dyma'r rhestr - rhai o'r llyfrau yn rhai yr wyf wedi eu darllen yn barod ond eraill yn rhai i edrych ymlaen atyn nhw ac maen nhw'n cael sêr ar sail fy nisgwyliadau!

A chyda llaw, dydi'r llyfrau ddim mewn unrhyw drefn arbennig o ran rhagoriaeth. Maen nhw'n ymddangos fel y daethant i'r cof.

  • Patagonia - Croesi'r Paith. Gomer: Yr harddaf o lyfrau'r Nadolig heb os gyda lluniau trawiadol yn olrhain taith yr actor o Gymro ar draws paith enwog y Wladfa yn ôl carnau Los Rifleros (Y Reifflwyr) - 19 o Gymry a deg cydymaith a groesodd y crasdir ar eu ceffylau yn 1885 tua'r Andes gan gyrraedd cwm a fedyddiwyd ganddynt yn Gwm Hyfryd. Cryno yw'r hanes a'r rhan fwyaf yn mynd i brynu'r llyfr oherwydd ei luniau ac oherwydd disgleirdeb Matthew Rhys fel seren actio. I gael yr hanes yn ei gyflawnder byddai'n werth buddsoddi hefyd yng nghyfrol Elvey MacDonald, Yr Hirdaith, a gyhoeddwyd dros ddeng mlynedd yn ôl bellach. Ac os am wneud hwn yn Nadolig gwir Batagonaidd mae dau lyfr gan Mari Emlyn i'w rhoi yn eich sgrepan, ail gyfrol Llythyrau'r Wladfa (1945 - 2010) a Stori'r Wladfa sy'n rhoi hanes yr ymsefydlu yn fyr ac yn ddeniadol. pedair seren i'r pecyn cyfan.
  • Glas y Sierra. Gwasg y Dref Wen.
    Arhoswn ar daith ond yn awr yn Sbaen gyda Roger Boore sy'n teithio dwyrain y wlad gyda'i wraig mewn Volvo cleisiog, styfnig a mympwyol a deryn bach melyn, maleisus a adnabyddir fel jincs ar eu hysgwyddau.
    Llyfr taith cryno a difyr yng nghwmni teithiwr nad yw'n caniatáu i'w wybodaeth eang lethu'r elfen o ddifyrrwch. £4.99. ****
  • Ar Fôr Tymhestlog gan Elin Haf. Gwasg Carreg Gwalch.
    Taith arall ac un mor enbydus bob tamaid ag un y Los Rifleros hynny dros ganrif yn ôl ond mewn gwlybaniaeth y tro hwn. Nyrs ifanc o'r Parc ger Y Bala yn rhwyfo gyda chydweithwraig ar draws yr Iwerydd i godi arian at achos da. £7.50.
    ****
  • Non - Yn Erbyn y Ffactore. Lolfa.
    Un i edrych ymlaen ato yw hwn i mi. Hanes y Gymraes sydd wedi rhagor ar faes rygbi - chwaraeodd i Gymru 87 o weithiau - mewn codi pwysau, jiwdo ac yn awr, reslo. Cyfrol fer yw hi ond yn siŵr o fod yn agoriad llygad. Edrychaf ymlaen. £7.95. ****
  • Fy ffordd fy Hunan Hunangofiant Felix Aubel. Gwasg Carreg Gwalch.
    Un o blith y nifer o gofiannau arferol ond bod gan Felix Aubel gefndir digon gwahanol i sicrhau lle yn yr hosan. yn ôl y rhai sydd eisoes wedi ei ddarllen.
  • Hugh Griffith gan Hywel Gwynfryn. Gomer.
    Mae'r enw ar y clawr yn ddigon i werthu hwn. Cofiant Hugh Griffith wedi ei sgrifennu gan Hywel Gwynfryn fel pe byddai ef ei hun yn Hugh Griffith. Ydi'r ddyfais wahanol honno yn gweithio? Yn sicr mae rhywun yn cael ei hudo gan stori dda a sawl penllanw a thrai iddi. Anodd rhoi hwn i lawr wedi dechrau darllen.
    £9.99. ****
  • Lladd Duw gan Dewi Prysor. Lolfa.
    Pedwaredd nofel Dewi Prysor a llond llaw o un yw hi hefyd. Wrth sôn amdani yn rhifyn Rhagfyr y cylchgrawn WA-w! disgrifiodd yr awdur hi fel "thriller dreisgar efo sylwebaeth gymdeithasol a sleisan dda o hiwmor tywyll. Stori am ddianc, pererindod ysbrydol, aileni, gwaredigaeth, cariad, gobaith, colled, rhagfarn, da a drwg, dau fyd ac un bygythiad, yr ysbryd ddynol..."
    Bobol bach. Ychwanegodd bod y 'Duw' y teitl "yn cynrychioli sawl peth".
    £9.95. ***
  • Si Bêi gan Geraint V Jones. Gomer.
    Nofelydd arall sydd wedi troi at rywbeth newydd hefyd. Nofel ddigri gyntaf Geraint V Jones - a hithau wedi ei lleoli mewn ysbyty.
    £8.50 ***
  • Creigiau Aberdaron gan Gareth F Williams. Gwasg Gwynedd.
    Yn un o'n hawduron prysuraf mae Gareth F Williams bob amser yn un da am stori. Mae'r llyfr hwn yn cael ei ddisgrifio fel "nofel feistrolgar, gynnil i oedolion" ac wedi ei lleoli yn Aberdaron gyda thensiynau dan wyneb bywyd dau deulu. £8.95 ***
  • Mwy o Hoff Gerddi Cymru wedi ei golygu gan Elinor Wyn Reynolds. Gomer.
    All cyfrol fel hon ddim methu. Dilyniat i Hoff Gerddi Cymru a gyhoeddwyd ddeng mlynedd yn ôl.
    Mae'n cynnwys hen ffefrynnau fel Clychau Cantre'r Gwaelod, Y Llwynog (I D Hooson nid R Williams Parry y tro hwn, roedd y cadno hwnnw yn y gyntaf) a cherddi mwy diweddar gan feirdd fel Iwan Llwyd, Twm Morys a Myrddin ap Dafydd. Cymysgedd o bleser, gwefr, hiraeth a'r newydd. £7.99. ****

Os ydych chi am ychwanegu at y rhestr - neu dynnu oddi arni hi anfonwch eich amgrymiadau. Cyn y Nadolig wrth gwrs!


Cofiwch hefyd am adolygiadau llyfrau 'Cylchgrawn'.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.