Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Prifddinas aflengar

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:02, Dydd Iau, 1 Ebrill 2010

O'r holl erthyglau sy'n ymddangos yn y wasg Gymraeg byddai'n rhai mynd yn bell iawn i ddod o hyd i unrhyw beth difyrrach na Briwsion Bruce gan Bruce Griffiths (er na nodir hynny bob tro) yn Y Casglwr, cylchgrawn Cymdeithas Bob Owen.

O dymor i dymor caiff rhywun ei synnu faint o faeth sydd yna mewn briwsion!

Gall briwsionyn hefyd, wrth gwrs, fachu weithiau yn eich llwnc ac mi allai ddychmygu ambell un o Gaerdydd yn cael pwl cas o dagu wrth ddarllen yn rhifyn gwanwyn 2010 y cyfraniad bach hwn:

"Bum yn trafod gydag un llyfrwerthwr [yng Nghaerdydd] y syniad o gael ffair lyfrau yn y Brifddinas.

"Nid oedd yn ffyddiog iawn: ni fuasai fawr o lewyrch ar ffair lyfrau yno o'r blaen, meddai, a thybiai fod Abertawe yn ddinas fwy llengar!" meddai Bruce.

Gan ychwanegu: "Dyna her i chi ddarllenwyr Y Casglwr yng Nghaerdydd! Beth am drefnu ffair lyfrau yn ein prifddinas?"

Bydd yn ddiddorol gweld a fydd ymateb - nid yn unig i'r her ond i'r sylw pryfoclyd na fod Abertawe yn lle mwy llengar.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.