Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O fun i fin

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:36, Dydd Sul, 28 Mawrth 2010

Mae creu biniau yn prysur fynd yn ddiwydiant o bwys yng Nghymru gredwn i ac yn dechrau dod yn dipyn o dreth ar nifer ohonom.

Mae gennym ni gymaint o finau i'w gosod y tu allan i'r tÅ· acw yr ydych chi angen gradd men Binyddiaeth - BA debyg - i wybod pa liw i'w roi allan pa ddiwrnod.

A chyda hyn oll yng nghefn fy meddwl y darllenais am y "Biniau Bob lliw" yng ngholofn newyddion Rhyd y Sbarblis sy'n cael eu casglu gan Mrs Meri Propoganda Lewis, 1 Toilet Terrace, a'u cyhoeddi ym mhapur bro Llais Ogwan.

Medda hi:
"Na fydded i'r un Jeremeia yn eich plith ddweud nad ydan ni, drigolion cyfrifol Rhyd y Sbarblis ddim yn poeni am ddyfodol ein planed. A deud y gwir, dydy'r rhan fwyaf ohonon ni yn meddwl am fawr ddim byd arall.

Dim ond yr wythnos ddiwethaf yr oedd Mr Brown Mics, Winstone Churchill Terras, yn traddodi ei ddarlith enwog ar y testun 'I ba beth mae'r byd ma'n dod' ym mar cefn y Parot, a hynny i gymeradwyaeth mawr.

Mi ydan ni'n sgut yma yn Rhyd am ail-reidio beic, neu riseiclo, fel basa nain dlawd yn deud, tasa hi di cael byw.

Mi riseiclan ni rywbeth, a mi wnawn ni hynny ddwywaith!

A diolch i cownsil, mi ydan ni rŵan yn cael help i ail reidio beic.
Mae gin bob un ohonon ni, bellach, ddeuddag bin, yn amrywio yn eu lliwia o frown i sgai-blw-pinc, a mae gynnon ni amserlen pryd i'w rhoi nhw yn stryd.
Er bod hi'n amserlen sy braidd yn fawr, mae pawb yn Rhyd di dallt hi tro cynta.

Mor awyddus ydyn nhw i riseiclo nes bod nhw'n rhoi popeth ym mhob bin a rhoi pob bin allan bob dydd.

Cenfigen yn unig sy'n peri fod dreifars bysus yn cega na fedran nhw fynd a'u bysus ar hyd stryd.

A be sy ddelach na binia o bob lliw ac ambell i fag du ar ochr stryd bob dydd?

Da iawn chi, bobol gyfrifol Rhyd y Sbarblis. os fethon ni achub post, ac os methan ni achub rysgol, mi achuban ni'r blaned.
Ac mi ddyffeia i neb i ddeud Rybish i hynna.

Mi wn i'n union sut mae hi'n teimlo achos wrth liw ein binau yr ydym ninnau'n adnabod diwrnodau'r wythnos yn ein hardal ninnau gyda dydd Mercher yn ddydd bins glas, du ac oren yr wythnos hon.

Pryd tybed y gwelwn gyhoeddi'r Nofel Fawr Gymraeg gyntaf am finiau? Y Bin o Eithinfydd efallai. Neu gynhyrchu Biniau - The Mwfi?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:45 ar 28 Mawrth 2010, Gary ysgrifennodd:

    Bechod bod golygydd Llais Ogwan yn credu fod ceisio gwneud rhywbeth bach i rwystro difa'r blaned yn gymaint o 'chore'

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.